Ysgol yn gwadu rhoi blychau baw cath i ddisgyblion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gorllewin Mynwy ym Mhont-y-pŵlFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gorllewin Mynwy wedi gwadu'r sïon oedd wedi lledaenu ar-lein

Mae ysgol wedi gorfod gwadu sibrydion ar-lein ei fod yn darparu blychau baw cath i ddisgyblion sy'n uniaethu fel cathod.

Ysgrifennodd Ysgol Gorllewin Mynwy ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, at rieni yr wythnos hon yn dweud na fyddai unrhyw driniaeth arbennig ar gyfer "disgyblion a all uniaethu fel anifail o unrhyw fath".

Roedd y si yn dilyn stori ffug yn yr Unol Daleithiau am fyfyrwyr sy'n uniaethu fel cathod neu "furries".

Mae Cyngor Torfaen wedi cadarnhau fod llythyr yr ysgol yn un dilys.

'Does dim darpariaeth yn yr ysgol'

Gwnaeth y sïon ledu i'r DU o'r Unol Daleithiau ar ôl i westai ar bodlediad Spotify Joe Rogan fod ymhlith y rhai a gyfaddefodd eu bod wedi lledaenu gwybodaeth anghywir.

Mewn llythyr at rieni ysgrifennodd y dirprwy bennaeth Claire Hughes: "Mae wedi dod i'n sylw ei fod yn ymddangos bod nifer o ymholiadau a phryderon wedi'u codi o fewn y gymuned dros y defnydd o flychau baw cath yn Ysgol Gorllewin Mynwy.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i'ch sicrhau nad ydym, ac nad ydym yn bwriadu, darparu unrhyw flychau baw cath yn yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Er ein bod yn ysgol gynhwysol a chroesawgar, nid ydym yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer unrhyw ddisgyblion a allai uniaethu fel anifail o unrhyw fath.

"Dyw'r math yma o ymddygiad ddim yn dderbyniol yn yr ysgol ac o'r herwydd, does dim darpariaeth yn yr ysgol, fel blychau baw cath."

Dywedodd Cyngor Torfaen fod y llythyr wedi'i anfon wedi i "sïon a chamwybodaeth" ledaenu ar-lein.

Dywedodd Jason O'Brien, cyfarwyddwr strategol gwasanaethau plant a theuluoedd yn y cyngor: "Mae Cyngor Torfaen yn canolbwyntio ar gyrhaeddiad a lles disgyblion.

"Mae'n siomedig pan fydd ysgolion yn cael eu tynnu oddi wrth y blaenoriaethau hyn trwy orfod dileu sïon niweidiol a chamwybodaeth sy'n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol."

Pynciau cysylltiedig