'Bywydau mewn perygl' os daw gwasanaeth LHDT+ Cymru i ben
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela i'r gymuned LHDT+ yn rhybuddio y gallai bywydau fod mewn perygl os nad ydyn nhw'n dod o hyd i nawdd i sicrhau dyfodol y gwasanaeth.
Mae gwasanaeth LHDT+ Cymru yn cynnig cymorth i bobl saith oed neu'n hŷn, drwy gynnig gwasanaeth cwnsela a llinell gymorth o'r enw Swansea Rainbow.
Ond mae'r elusen yn dweud bod eu grantiau a nawdd bellach wedi dod i ben, a'u bod yn gorfod gwrthod cleientiaid newydd, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Dywedodd Debbie Lane, Prif Weithredwr LHDT+ Cymru, fod y sefyllfa'n "torri ei chalon".
Yn ôl Ms Lane, roedd gorfod gwrthod cynnig cefnogaeth i deulu yn ddiweddar yn brofiad "poenus".
"Roedd ganddyn nhw blentyn 13 oed oedd wedi ceisio lladd ei hun ac yn diodde' gyda phryder rhyw," meddai.
"Ond mi dorrodd fy nghalon oherwydd bu'n rhaid i mi ddweud na... yn anffodus mae troi pobl i ffwrdd bellach yn beth arferol."
Ychwanegodd Ms Lane ei bod yn siŵr y bydd "bywydau yn cael eu colli os bydd y drysau yn parhau ar gau i gleientiaid newydd".
Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2004, ac yn 2021 fe wnaethon nhw gychwyn gwasanaeth cwnsela a llinell gymorth Swansea Rainbow.
Dywedodd Ms Lane mai bwriad yr elusen oedd cynnig cwnsela yn rhad ac am ddim "i bobl mewn gwir angen ond oedd yn methu fforddio talu i fynd yn breifat nac i ddisgwyl am gwnsela ar restr aros hirfaith".
'Wedi helpu fi ddod o le tywyll iawn'
Mae Ajax Cole, sy'n 28 oed ac yn dod o Ferthyr Tudful, yn rhywedd hylifol [gender fluid] ac yn un o gannoedd o bobl sydd wedi cysylltu â'r llinell gymorth am help.
"Roedden nhw wedi helpu fi ddod o le tywyll iawn, i le hapusach y gellir ei reoli... Maen nhw'n rhyfeddol, ac maen nhw wedi helpu fi shwd gyment," meddai.
"Dwi'n rhywun sy'n strugglo gyda syniadau hunanladdol, a dwi wedi ceisio lladd fy hun yn y gorffennol… ond mae'n rhywbeth dwi'n dysgu i ddelio â fe nawr."
Ychwanegodd: "Mae'n fudiad gwych a dwi 100% yn sicr fod angen y math yma o wasanaeth yng Nghymru."
Tan yn ddiweddar roedd yr elusen yn cynnal 150 o sesiynau cwnsela bob mis, ac roedden nhw'n rhagweld targed o 300 o sesiynau misol yn y flwyddyn sydd i ddod.
Y nod oedd cefnogi rhwng 75 a 150 o bobl bob mis.
Mae'r elusen yn costio tua £150,000 i'w rhedeg bob blwyddyn, ac maen nhw'n awgrymu y byddan nhw'n gallu cyflawni 3,600 o sesiynau mewn 12 mis gan helpu cannoedd o bobl.
Yn ogystal, maen nhw'n dweud bod yna fudd ariannol i bob unigolyn sy'n cael ei gefnogi, gan bod modd osgoi costau penodol sy'n arbed £10,500 y flwyddyn fesul cleient i'r llywodraeth a'r trethdalwyr.
Mae hanner eu cleientiaid yn blant a phobl ifanc, a 30% yn bobl heterorywiol.
Oherwydd materion ariannol, mae'r elusen yn gorfod gwrthod helpu cleientiaid newydd, ond ar hyn o bryd maen nhw'n dal i gwnsela cleientiaid sydd eisoes wedi bod yn derbyn cymorth.
Dywedodd Ms Lane ei bod yn ymwybodol eu "bod wedi achub o leiaf 20 o fywydau yn y 12 mis diwethaf".
"Mae hynny nid yn unig wedi helpu'r cleientiaid a'u rhoi ar lwybr bywyd gwell, ond mae hefyd wedi cael effaith anferth ar eu teuluoedd a ffrindiau."
Yn ôl Sam Lodwig, rheolwr cwnsela gyda LHDT+ Cymru, byddai cau'r gwasanaeth yn gallu achosi argyfwng i nifer o gleientiaid a'u teuluoedd.
"Dwi'n meddwl byddai iechyd meddwl yn gwaethygu'n sylweddol, ac fe fydda 'na ddirywiad yn y cysylltiadau teuluoedd, sefyllfa ofnadwy," meddai.
"Mae gwasanaethau ymhobman yn gwneud eu gorau, ond mae ganddyn nhw restrau aros hir iawn ac yn aml iawn mae 'na uchafswm ar nifer y sesiynau.
"Does gennym ni ddim uchafswm yma, sy'n golygu gallwn ni wneud y gwaith hirdymor sydd ei angen. Gallwch chi ddim delio â blynyddoedd o drawma mewn chwech i 12 sesiwn."
Ychwanegodd: "Gallwn ni gymryd mwy o straen o'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau eraill oherwydd unwaith mae pobl wedi gorffen â'n gwasanaeth, maen nhw wedi gwneud eu gwaith cartref, ac maen nhw'n teimlo y galla' nhw fynd ymlaen â'u bywydau gydag agwedd bositif, sy'n golygu dydyn nhw ddim angen mynediad i gymaint o wasanaethau neu fynd ar restrau aros."
Mae pencadlys LHDT Cymru+ yn adeilad y YMCA yn Abertawe ac mae'r ddwy elusen yn gweithio yn agos gyda'i gilydd.
Dywedodd Carlie Torlop, rheolwr ieuenctid a chymuned YMCA Abertawe fod "y gwasanaeth cwnsela yn allweddol i nifer o blant a phobl ifanc a theuluoedd, yn enwedig rheiny yn y gymuned LHDT+ sydd yn dibynnu ar y YMCA fel lle diogel".
Ychwanegodd fod "cael gwasanaeth cwnsela ar y safle yn golygu ein bod yn gallu cyfeirio unigolion yn syth am gefnogaeth hollbwysig i'w helpu gyda'u hiechyd meddwl heb eu bod yn gorfod wynebu rhestrau aros hir".
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi peri gofid, mae cymorth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021