Y mab fferm ar 'grwsâd' i ddod â drag i gefn gwlad Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"'Fi yw'r unig drag queen sy'n perfformio rownd fan hyn," meddai Chris, sy'n perfformio dan enw Serenity

"Cyn i fi ddechrau perfformio mewn drag o'n i yn poeni sut fydda' bobl yn ymateb - yn enwedig yn Llanbed - ond bellach rwy'n teimlo fel fy mod i ar grwsâd i ddod â drag i gefn gwlad Cymru."

Tair blynedd yn ôl wrth i'r pandemig ddod â chymdeithas i stop roedd Chris Jones, mab fferm o ochrau Llanbedr Pont Steffan, yn brysur yn newid ei fywyd.

Roedd Chris yn ddilynwr brwd o raglen deledu Ru Paul's Drag Race, lle mae perfformwyr drag o bob cwr o Brydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Cafodd yr athro dawns 26 oed ei ysbrydoli gan y rhaglen i greu persona cwbl newydd ei hun.

"O'n i yn hoffi perfformio, canu ac actio ar y llwyfan o pan o'n i yn fach," meddai Chris.

"Yn ystod lockdown o'n i wedi dechrau gwylio Ru Paul's Drag Race UK ac o'n i wedi meddwl: 'fi moyn 'neud hwnna'.

"Dechreues i arbrofi gyda cholur a gwallt, a pan ddaeth lockdown i ben es i mas a dechrau perfformio fel Serenity."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chris ei ysbrydoli gan y gyfres boblogaidd Ru Paul's Drag Race

Ychwanegodd Chris: "Pan fi'n perfformio fel Serenity mae e tamed bach fel fy mod i'n actio ond hefyd mae e yn Chris... mae Serenity yn rhan ohonof i.

"Mae'n cynrychioli rhan o fy mhersonoliaeth fedra i ddim rhoi mas na' pan dwi'n Chris.

"Mae Serenity bach mwy fierce. Mae ffrindiau yn dweud fy mod i yn wahanol iawn fel Serenity... sai'n gweld e ond be' ydw i yn ei wybod?"

Profiadau negyddol

Yn ôl Chris mae'r ymateb i Serenity yng nghefn gwlad Ceredigion wedi bod yn gadarnhaol.

"Mae perfformio o flaen cynulleidfa sydd heb brofi sioe drag fyw o'r blaen yn deimlad anhygoel.

"Mae gweld ymateb nhw a chael nhw'n dod ata i ar ôl sioe a dweud bod nhw'n caru be' fi'n 'neud yn deimlad arbennig iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris yn cydnabod bod agweddau negyddol yn dod i'r wyneb o dro i dro

Ond mae Chris yn cydnabod bod agweddau negyddol yn dod i'r amlwg mewn cymunedau gwledig o dro i dro.

"Ma' be' ddigwyddodd yn Llandeilo adeg Pride ble oedd pobl wedi mynd a rhwygo posteri Pride i lawr... roedd hynny yn sioc i mi, bod pobl yn gallu bod yn hateful yn y ffordd yna a bod yn gâs am ddim byd.

"Mae gan bobl sy'n ymddwyn yn y ffordd yna o bosib problemau gyda'u hunain. Yn y diwedd mae'n rhaid anwybyddu'r casineb a pharhau i fod yn dy hun."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Chris, mae clwb The Minds Eye yn cynnig gofod diogel i'r gymuned LHDT+

Mae Serenity yn perfformio mewn clwb yn Llanbed o'r enw The Mind's Eye - sy'n ofod diogel ar gyfer y gymuned LHDT+ lleol.

"Fi'n credu bod eisiau mwy o lefydd fel y Mind's Eye," meddai, "dim just yng Ngheredigion ond yng Nghymru i gyd.

"Mae'n rywle i bobl LHDT+ ddod i greu cymuned.

"Yn bersonol mae cael rhywle fel hyn wedi helpu shwt gymaint gyda pherfformio mewn drag, gyda charu fy hun, a gyda bod yn hoyw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris yn gobeithio perfformio fel Serenity yn y dinasoedd mawrion yn Lloegr yn y dyfodol

Mae Chris yn bwriadu mynd â neges Serenity y tu hwnt i ffiniau Llanbed hefyd.

Cafodd gyfle eleni i berfformio yn nigwyddiad Pride Caerdydd am y tro cyntaf, ac mae wedi dechrau perfformio dros y ffin ym Manceinion.

"Wrth gwrs rwy'n hoffi perfformio, ac mae gwneud hynny o flaen cynulleidfaoedd mawr yn rhywle fel Llundain neu Manceinion yn rhan o gynllun ar gyfer y dyfodol", meddai.

"Ond dwi ddim yn bwriadu symud o Lanbed ar hyn o bryd. Mae'r gefnogaeth i Serenity yn lleol yn bwysig iawn i mi."

Ac os bydd Ru Paul yn digwydd galw?

"Wel dwi yn ystyried rhoi cynnig ar y gyfres nesa' felly pwy a ŵyr?"