Parc gwyliau Pontins ym Mhrestatyn i gau ar unwaith
- Cyhoeddwyd
![Pontin ym mhrestatyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DBB4/production/_103244265_mediaitem97461936.jpg)
Parc gwyliau Prestatyn yw un o'r chwech o barciau sydd gan Pontins yn y DU
Mae perchnogion parc gwyliau yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi eu bod am gau'r safle yn syth.
Dywedodd Pontins bod y safle ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych yn cau "ar unwaith".
Cyhoeddodd y cwmni y bydd parc arall yn Camber Sands yng ngorllewin Sussex hefyd yn cau yn syth.
Ar eu gwefan, dywedodd Pontins: "Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio gan y cyhoeddiad a byddent yn cael eu had-dalu.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd wedi ei achosi."