Cadeirydd yr Urdd, Dyfrig Davies, yn gadael ei swydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru wedi gadael ei swydd ar ôl chwe blynedd.
Mewn datganiad wedi'i gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Urdd bod Dyfrig Davies wedi rhoi "cefnogaeth gadarn a chyfeillgarwch arbennig" dros y blynyddoedd.
Roedd yn gyn-gadeirydd ar Fwrdd Eisteddfod yr Urdd cyn cael ei gadeirio yn 2017, ac yn rhan fawr o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd yn 2022.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn yn Nyffryn Teifi, mae Mr Davies bellach yn byw yn Llandeilo.
Bu'n gweithio fel athro mewn ysgol uwchradd cyn mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant cyfryngau creadigol torfol.
Mae Mr Davies yn uwch gynhyrchydd a rhan berchennog o gwmni Telesgop yn Abertawe sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, Channel 4, a BBC Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017