Chloe Bidwell: Heddlu yn ymchwilio ar ôl marwolaeth saer ifanc

  • Cyhoeddwyd
Chloe BidwellFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Chloe Bidwell, sydd wedi marw yn 18 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i saer ifanc a gafodd ei chanfod yn farw mewn tŷ ym Mangor ddydd Mercher.

Roedd Chloe Bidwell, 18, wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith tra'n astudio yng Ngholeg Menai.

Roedd hefyd wedi chwarae i Glwb Rygbi Llangefni a Rygbi Gogledd Cymru.

Cadarnhaodd yr heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod yn ymchwilio i'r farwolaeth, er nad yw yn cael ei thrin fel un amheus.

Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw am 18:58 nos Fercher i dŷ - sy'n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd - ar y brif ffordd drwy ddinas Bangor.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi mynd i eiddo ar Ffordd Deiniol yn dilyn adroddiad am farwolaeth "annisgwyl" dynes 18 oed.

Nid oedd y ditectifs yn gallu cadarnhau enw'r ddynes, er ei bod wedi ei henwi'n lleol fel Chloe Bidwell.

Y gred ydy bod Ms Bidwell wedi bod yn gweithio yn yr eiddo fel saer.

"Mae'r crwner a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod ac rydym yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth, sydd ddim yn cael ei thrin fel un amheus," meddai llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu yn bresennol ar Ffordd Deiniol ym Mangor wedi'r digwyddiad

Roedd Chloe Bidwell wedi bod yn astudio yng Ngholeg Menai yn ogystal â bod yn brentis gyda'r gwasanaeth llety myfyrwyr Bangor, Varcity Living.

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Menai: "Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth un o'n dysgwyr, Chloe Bidwell.

"Mae Chloe, prentis gwaith coed dawnus yng Ngholeg Menai, wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol ac roedd pawb yn hoff ohoni.

"Rydym yn gwybod bydd ei cholled yn cael ei deimlo gan lawer ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad diffuant at ei theulu a'i ffrindiau.

"Bydd ein staff arbenigol yn darparu cymorth i unrhyw ddysgwr neu aelod o staff y mae'r newyddion trist yma wedi effeithio arnynt."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Rygbi Llangefni🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🐗

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Rygbi Llangefni🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🐗

Dywedodd Varcity Living nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw ar amgylchiadau'r achos gan fod ymchwiliad yn parhau.

Cafodd Ms Bidwell ei disgrifio mewn teyrngedau ar gyfryngau cymdeithasol fel chwaraewr rygbi ifanc dawnus.

Bu'n chwarae i dîm ieuenctid MônStars yng nghlwb rygbi Llangefni cyn symud i dîm merched hŷn y clwb y tymor hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran HSE: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru."