Awyren ysgafn yn syrthio ar ardd tŷ yn Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Adenydd yr awyren yn yr ardd ym Modffordd
Disgrifiad o’r llun,

Adenydd yr awyren yn yr ardd ym Modffordd

Mae awyren ysgafn wedi syrthio i'r ddaear gan lanio mewn gardd yn Ynys Môn.

Fe syrthiodd yr awyren ym Modffordd yn gynnar brynhawn Sadwrn.

Cafodd swyddogion heddlu, criwiau tân a chriwiau ambiwlans eu hanfon "i ddigwyddiad yn ardal Cae Bach Aur" y pentref.

Cafodd y peilot - yr unig berson yn yr awyren - ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ond dyw ei anafiadau ddim yn rhai sy'n peryglu bywyd. Chafodd neb arall anaf.

Disgrifiad,

Fe welodd Arwel Jones a Rees Roberts yr awyren yn lanio gan amau bod rhywbeth o'i le

Fe ofynnodd y gwasanaethau brys i'r cyhoedd "osgoi'r ardal tra ein bod yn parhau yn y lleoliad".

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn galwad am 13:48 a'u bod wedi anfon pwmp achub technegol ac uned diogelwch amgylcheddol i'r safle.

Roedd yr ambiwlans awyr wedi gadael y safle erbyn 15:30.

Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau'r gwasanaethau brys ym Modffordd brynhawn Sadwrn

'Methu credu be o'n i'n gweld'

Dywedodd Arwel Jones, 56, sy'n byw ychydig dai o safle'r gwrthdrawiad, ei fod wedi clywed sŵn injan yr awyren yn dod i stop.

"Digwydd bod o'n i allan yn yr ardd gefn pan ddigwyddodd y peth," meddai. "Munud nesa' o'n i'n clywed yr awyren yma yn dod drosodd a doed y twrw ddim yn iawn.

"O'dd o fatha bod yr awyren yn torri allan a munud nesa mi a'th hi'n ddistaw i gyd a mi ddoth hi i lawr."

Fe ffoniodd y gwasanaethau brys tra aeth nifer o drigolion at yr awyren i wneud yn siŵr bod pwy bynnag oedd ar ei bwrdd "yn saff".

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Arwel Jones ddim yn gallu credu'r hyn a welodd

Roedd y peilot, meddai, "wedi cael dipyn o sioc, yn concussed ond mi oedd o'n siarad.

"Ond dwi'm yn meddwl oedd o'n gwybod yn iawn be oedd wedi digwydd - oedd o wedi dychryn dipyn bach."

"Do'n i methu credu be o'n i'n gweld. Pan welson ni be' oedd yn digwydd ro'n i jest yn gobeithio bod o heb daro unrhyw un na thŷ unrhyw un.""Mae o 'di bod yn dipyn o sioc... 'dach chi'm yn disgwyl 'wbath fel hyn."

'Syrthiodd fel bricsan'

A hithau'n ddiwrnod braf, roedd Rees Roberts yn gweithio mewn cae cyfagos pan sylwodd ar "awyren breifat, ddu a melyn" yn hedfan yn "weddol isel".

Roedd yntau hefyd yn "amau fod rhywbeth o'i le" o glywed y sŵn cyn i'r injan farw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd potensial i'r digwyddiad fod yn drychinebus gan fod plant yn chwarae yn lleol, medd Rees Roberts

"Mi ddisgynnodd fel bricsan i'r llawr... rhedish i fan hyn yn y car gan ragweld trychineb bod hi wedi disgyn ar dai neu pobl ond na... oedd hi di disgyn ar ardd y tŷ yma.

"Mi o'dd y coed bytholwyrdd 'ma wedi torri ei disgyniad hi."

Dywedodd bod clust y peilot yn gwaedu a'i bod yn amau ei fod wedi torri arddwrn, ond yn meddwl ei fod "yn iawn", dan yr amgylchiadau.

"Fe allai 'di bod lot gwaeth," ychwanegodd Mr Roberts. "Ma' 'na blant yma rŵan a maes chwara' llawn plant llai na ugain llath o le ma'i' di disgyn."

Pynciau cysylltiedig