Pryderon am lythrennedd plant wrth i lai ddarllen llyfrau
- Cyhoeddwyd
Wrth i arferion darllen newid mae rhai yn pryderu am ddyfodol llenyddiaeth ac am effaith diffyg darllen ar safon llythrennedd plant.
Mae ystadegau diweddaraf y National Literacy Trust yn dangos bod nifer y plant sy'n mwynhau darllen ar draws y DU ar ei lefel isaf ers 2005.
Y llynedd, dim ond 42.5% o blant Cymru a ddywedodd yn arolwg blynyddol yr ymddiriedolaeth eu bod yn mwynhau darllen.
Mae'r awdur Alun Davies yn cydnabod bod yna "ddwy ochr i'r broblem".
"Ma' angen creu mwy o lyfrau sy'n apelio - a chyfresi yn enwedig - sy'n mynd i dynnu pobl mewn iddyn nhw i ddarllen mwy a ma' isie ca'l y neges allan bod nhw ar gael yn barod hefyd.
"I'r siopau llyfrau, mi allai fe fod yn echrydus. Os ydyn ni'n dechre gweld y siopa llyfrau ma' yn cau, digon posib na fyddwn ni'n gweld nhw'n agor eto," meddai.
'Rhaid i'r straen gydio'
Mae'r sgil effeithiau hefyd i'w gweld yn yr ysgolion, yn ôl un dirprwy bennaeth.
Er ymdrechion i hybu mwynhad mewn darllen, mae Mrs Elin Llywelyn Williams yn cyfaddef ei bod yn "cymryd dipyn o waith".
"Mae'r effaith i'w gweld ar safon llythrennedd disgyblion," ychwanegodd.
"Mae darllen yn cael effaith ar safonau plant mewn sawl ffordd o ran llythrennedd, rhuglder, a hyder hefyd - yn annog nhw i ehangu eu geirfa tra'n siarad.
"Mae darllen, neu ddiffyg darllen, yn cael effaith amlwg ar sgiliau plant.
"Ond maen nhw'n brysur, maen nhw'n aelodau o glybiau chwaraeon, maen nhw'n perfformio, maen nhw'n 'neud pob math o bethe. Mae technoleg yn rhan mor fawr o'u bywydau nhw."
Er bod dianc i fyd arall trwy ddarllen yn hollbwysig, yn ôl Mrs Williams, i'w disgyblion hi, mae'n rhaid i'r straeon gydio.
Dywedodd Sadie ei bod hi'n mwynhau darllen ond bod yn rhaid i'r llyfr apelio.
"Does gen i ddim llawer o amser i ddarllen oherwydd tu fas i'r ysgol rwy'n brysur ond rwy'n trio fy ngorau i ddarllen cymaint ag y gallai," meddai.
Esboniodd Mila bod cyfresi yn ei denu hi i ddarllen mwy: "Dwi'n hoffi pethau gyda mwy nag un llyfr - fel series. Dwi'n mwynhau cyfresi darllen. Mae'n dda fod stori yn cario mlaen."
Er mwyn hybu mwy o ddarllen, yn ôl yr awdur Alun Davies rhaid "dal sylw a chyffroi" plant gyda llyfrau newydd.
Dyma oedd ei fwriad gyda'i nofel gyntaf i bobl ifanc, Manawydan Jones: Y Pair Dadeni.
"Pan o'n i'n darllen llyfrau i'm mhlant o'n i'n darllen llyfrau fel Harry Potter," meddai.
"O'n i'n meddwl falle bod 'na fwlch yn y farchnad i rieni sydd eisiau darllen i bant ifancach neu blant sy'n cyrraedd yr oedran lle maen nhw moyn darllen eu hunain. Mae angen antur i drio dal sylw a chyffroi."
'Colli gwledd'
Dywed bod marchnata i'r oedran ieuengach yn her ychwanegol.
"Mae'n anodd iawn, does 'na ddim llawer ar y teledu a'r radio, mae o'i gyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
"A dwi'n meddwl, y broblem hefyd yw yn lle darllen maen nhw'n treulio lot o amser ar ffôns a rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn rhoi'r mwynhad byr dymor iddyn nhw.
"Ma' plant yn gallu colli allan ar wledd o bethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022