Un asiantaeth amgylcheddol i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Bydd cynhadledd yn trafod y posibilrwydd o gyfuno Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Mae'r gynhadledd wedi ei threfni gan Sefydliad Materion Cymreig yn dilyn cyhoeddiad y ddogfen ymgynghori, Cymru Fyw ym mis Hydref 2010.
Roedd y ddogfen yn dadlau o blaid cyflwyno dull mwy cydgysylltiedig o reoli'r amgylchedd yng Nghymru.
Nododd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i Gymru ailystyried yn radical y ffordd y mae'n rheoli ac yn diogelu ei hamgylchedd byw.
Gwaith manwl
Roedd yn rhagweld system fwy integredig o reoli'r amgylchedd sy'n weinyddol syml, yn gost-effeithiol ond sy'n diogelu ein hasedau amgylcheddol yn llwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymchwilio i'r ffordd y gellir cyflawni hyn, yn enwedig drwy'r posibilrwydd o sefydlu corff cyhoeddus newydd â'r un swyddogaethau fwy neu lai ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Mae gwaith manwl yn mynd rhagddo gyda'r bwriad o gyflwyno cynigion i Weinidogion yn yr hydref.
Bydd y gynhadledd hon yn ystyried y buddiannau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â newid sefydliadol, buddiannau gwahanol randdeiliaid gan gynnwys busnes, a sut y gellid mesur llwyddiant.
'Integreiddio swyddogaethau'
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Materion Cymreig: "Bydd y gynhadledd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion ymarferol a pholisi - gan gynnwys opsiynau ar gyfer llywodraethu corff newydd.
"Bydd hyn yn siŵr o godi os bydd y Llywodraeth yn dewis integreiddio swyddogaethau, rheolaeth, diwylliant a threfniadau llywodraethu'r tri sefydliad gwahanol y mae eu cylchoedd gwaith presennol yn cwmpasu swyddogaethau gwyddonol, cynghori, busnes, rheoliadol ac eiriolaeth."
Mae prif siaradwyr y gynhadledd yn cynnwys John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru; Terry A'Hearn, cyn Brif Weithredwr, Awdurdod Diogelu'r Amgylchedd Fictoria, Awstralia; Dr. Madeleine Havard, Aelod o Fwrdd Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd; Jon Owen Jones, Cadeirydd, Comisiwn Coedwigaeth Cymru; a Morgan Parry, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ystyried creu un corff ar gyfer amgylchedd Cymru i sicrhau bod gogwydd newydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli'r amgylchedd yn cael ei wasanaethu'n effeithiol.
"Rydyn ni'n cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth i'r perwyl hwn ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach eleni."