Arestio dyn, 18, ar amheuaeth o lofruddio dynes ym Mhrestatyn

Car heddlu wrth ffordd wedi'i chau ffwrdd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff dynes ei ddarganfod yn ardal Morfa, Prestatyn fore Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ganfod ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.

Fe ffoniodd aelod o'r cyhoedd Heddlu Gogledd Cymru ychydig cyn 08:40 fore Gwener 24 Hydref ar ôl dod o hyd i gorff yn ardal Morfa, ger Dawson Drive.

Yn ôl yr heddlu, fe gafodd dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ardal Coniston Drive ym Mhrestatyn brynhawn Gwener.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Lee Boycott fod "ymchwiliadau'n parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'n hymholiadau gysylltu cyn gynted â phosibl".

Ychwanegodd nad oedden nhw yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad gyda'r ymchwiliad.

Dydi'r ddynes ddim wedi ei hadnabod yn swyddogol eto ac yn ôl yr heddlu ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad yn parhau ar y safle ac mae swyddogion ychwanegol ar ddyletswydd yn yr ardal dros y penwythnos.

Ychwanegodd Mr Boycott, nad oes perygl i'r cyhoedd, ond wrth i'r ymchwiliad barhau eu bod yn apelio ar y cyhoedd i gadw draw o'r ardal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.