'Rhaid gwarchod pobl ifanc Bethesda rhag peryglon cyffuriau'

Mae ymgynghoriad diweddar wedi amlygu bod angen blaenoriaethu darparu mwy o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn ardal Bethesda
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar gymunedau cefn gwlad i "warchod" pobl ifanc rhag peryglon cyffuriau.
Mae ymdrechion yn Nyffryn Ogwen i greu caffi ieuenctid er mwyn cael plant oddi ar y stryd wrth i drigolion lleol bryderu bod rhai'n dod i niwed.
Mae gwirfoddolwyr ym Methesda'n honni bod polisi ieuenctid Cyngor Gwynedd yn golygu bod rhai pobl ifanc yn "disgyn trwy'r rhwyd".
Dywed Cyngor Gwynedd eu bod "yn gweithio'n galed" i greu cyfleoedd "eang ac amrywiol" i bobl ifanc y sir, er blynyddoedd o doriadau i gyllidebau a bod pobl ifanc eu hunain yn cael dewis gweithgareddau eu clybiau ieuenctid.
- Cyhoeddwyd22 Medi
- Cyhoeddwyd15 Medi
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
Mae Susan Roberts yn un o griw bychan sy'n ceisio sefydlu caffi ieuenctid ym Methesda.
Mae'n dweud bod y dref "wedi mynd i lawr" a bod "lot o gyffuriau yma".
"Mae 'na lot o godi twrw yma a 'nunlla i'r bobl ifanc 'ma fynd," meddai, "a tydyn nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o'r gymuned."
'Cyfrifoldeb cymuned i stopio pethau fel hyn'
Mae'n dweud bod y pryder lleol wedi cynyddu'n fawr yn y misoedd diwethaf.
"Mae'n gyfrifoldeb ar gymuned i stopio pethau fel hyn. Mae rhaid i ni stopio'r cyflenwyr cyffuriau 'ma rhag mynd i mewn at ein plant ni a throi eu pennau nhw.
"Mae'n rhaid i ni drio 'neud r'wbath achos mae'r bywydau 'ma mor bwysig i ni. Does dim un ohonom ni isio gweld ein plant yn mynd i drafferth, ond os na wnawn ni stopio nhw a bod yn gyfrifol amdanyn nhw, mae'n mynd i gario 'mlaen."
"Maen nhw fwy at risk allan ar y stryd ar eu pen eu hunain nag efo pobl yn gwylio nhw. Dwi'n meddwl bod nhw isio teimlo'n saff."

Mae gan Susan Roberts brofiad o redeg clwb ieuenctid, ac wedi gweld bod rhai gweithgareddau yn apelio llai at bobl ifanc nag eraill
Y bwriad ydy agor caffi ieuenctid lle gall plant rhwng 10 ac 17 oed ymlacio a sgwrsio o dan ofal gwirfoddolwyr.
Mi gafodd clybiau ieuenctid traddodiadol eu cau gan Gyngor Gwynedd saith mynedd yn ôl, gyda gwasanaeth newydd a gwahanol yn cael ei sefydlu.
Mae 'na glybiau chwaraeon a chelfyddydol hefyd yn lleol. Ychwanegu at hynny ydy bwriad y caffi.
"O'n i'n rhedeg youth club am flwyddyn," meddai Susan Roberts, "a doeddan nhw ddim isio g'neud be' oedd gofynion Cyngor Gwynedd - g'neud crefftau neu dysgu rwbath achos bod youth clubs i gyd o dan [yr adran] education rŵan."
"Dim pawb sydd isio 'neud o, ac mae 'na rai yn disgyn trwy'r rhwyd yn fa'ma - pobl ifanc sydd jyst isio i rywun fod yna iddyn nhw."

Mae pryder ers sbel ynghylch pobl ifanc, medd y Parchedig Sara Roberts, ac mae'n bryd gwneud rhywbeth i'w helpu
Un arall o'r gwirfoddolwyr yw'r Parchedig Sara Roberts.
"'Dan ni'n gweld yr angen, 'dan ni wedi gweld ychydig o drafferth ar y stryd," meddai.
"'Dan ni'n poeni am ein pobl ifanc a 'dan ni isio gwneud rhywbeth iddyn nhw.
"Dydy o ddim yn r'wbeth newydd. Mae lot o bobl wedi bod yn poeni am y sefyllfa.
"Mae jyst yn cymryd un person i ddeud 'reit, be' am i ni wneud rhywbeth amdano fo'."

O'r chwith i'r dde - Elan, Angharad, Raffi a Lowri o Ysgol Dyffryn Ogwen
Roedd yna gefnogaeth i'r awydd i ddarparu mwy o adnoddau ar gyfer pobl ifanc lleol ymhlith disgyblion yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
"Yn y nos does dim lot o lefydd ti'n gallu mynd," meddai Angharad.
Yn ôl Raffi, mae sawl clwb chwaraeon yn lleol "lle ti'n actually gorfod 'neud rwbath ond sa'm llawer o lefydd lle ti'n gallu jyst hongian allan".
Un peth fyddai Elan am ei osgoi yw clwb "lle ti'n ca'l dy orfodi i ista mewn cylch efo pobl hynach a pobl fengach lle ti'n meddwl 'dwi ddim isio siarad, dwi'n teimlo fatha na'i ga'l fy judge-o".
Mae'r awydd i sefydlu caffi ieuenctid, medd Lowri, "yn syniad da oherwydd mae'n ga'l plant oddi ar y strydoedd. Mae'n ca'l nhw mewn i rwla diogel."
Y cyngor yn 'dymuno pob llwyddiant i'r fenter'
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gwynedd bod eu gwasanaeth Ieuenctid "yn cydweithio gyda Chyngor Cymuned Bethesda er mwyn cynnal Clwb Ieuenctid yn y pentref dair noson yr wythnos" wedi i ymgynghoriad y llynedd amlygu angen i ddarparu mwy o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc lleol.
Dywedodd mai'r bobl ifanc eu hunain sy'n penderfynu ar arlwy eu clybiau bob tymor, gan gynnwys "amser i ymlacio" gyda ffrindiau heb unrhyw ddisgwyliad iddyn nhw "gymryd rhan mewn gweithgareddau os nad ydynt yn dymuno".
Mae'r cyngor "yn cydnabod nad yw pob gweithgaredd at ddant pawb ac yn gweithio'n galed i gynnig dewis eang ac amrywiol i bobl ifanc y sir... yn wyneb blynyddoedd o doriadau i gyllidebau'r Cyngor gan lywodraeth ganolog".
O ganlyniad, meddai, mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd wedi gweld "lleihad real o £115,000" dros y bum mlynedd diwethaf yn ei grant gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd fod y cyngor "yn croesawu cynlluniau cymunedol i sefydlu Caffi Ieuenctid ac yn dymuno pob llwyddiant i'r fenter" ac yn "agored ac yn awyddus i gydweithio â'r gwirfoddolwyr".
Y gobaith ydy cael lleoliad i agor y caffi ieuenctid ym Methesda erbyn y Nadolig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.