Gofal plant yn 'agor drysau' ym Merthyr - beth am weddill Cymru?

Mae Nia-Ffion yn dweud bod oriau gofal plant am ddim wedi ei helpu i newid oriau gwaith
- Cyhoeddwyd
Wrth i rieni holl blant dwy oed un awdurdod lleol yng Nghymru gael cynnig gofal plant am ddim, mae teuluoedd mewn rhai ardaloedd eraill yn dal i aros ac yn galw'r sefyllfa'n "annheg".
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal am ddim i bob plentyn dwy oed dan gynllun Dechrau'n Deg, ond ar hyn o bryd dim ond ychydig dros hanner sydd yn gymwys.
Merthyr Tydful yw'r cyngor cyntaf i gynnig y ddarpariaeth ar draws y sir - datblygiad sydd, yn ôl un fam, yn "rili ardderchog".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu rhaglenni gofal plant yn "gynaliadwy" ac yn rhoi blaenoriaeth i "gymunedau mwy difreintiedig".
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Mae gan Nia-Ffion dri o blant sy'n chwech, dwy ac un oed ac mae'n dweud bod oriau gofal plant am ddim wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r teulu.
Yn fuan bydd ei phlentyn ifancaf yn gallu elwa hefyd a thrwy rannu'r gofal ychwanegol gyda'i rhieni a thad y plant fe fydd Nia-Ffion yn gallu newid ei swydd.
"Ar y foment dwi'n gweithio mewn pub. Dwi'n caru e, dwi rili yn - ond nawr dwi just wedi cael gwaith newydd."
'Gwneud gwahaniaeth i bawb'
Mae'r swydd mewn tafarn yn golygu gweithio yn y nos ond nawr bydd hi'n dychwelyd i weithio fel cynorthwyydd dysgu a hynny'n well i'r teulu cyfan.
"Mae'n well i'r plant hefyd achos maen nhw'n gallu bod efo fi mwy o'r amser."
Dywedodd Nia-Ffion fod y cymorth "wedi agor drysau eraill" wrth iddi nawr allu gwneud cwrs cwnsela yn y nos.
"Dwi'n meddwl fod e'n rili rili bwysig. Mae'n gwneud gwahaniaeth i bawb – y bobl sydd ddim mewn gwaith a'r bobl sydd mewn gwaith achos maen nhw'n gallu edrych am waith hefyd so dwi'n meddwl bod e'n dda i bawb."
Roedd merch ifancaf Sarah yn derbyn gofal plant am ddim dan gynllun Dechrau'n Deg tan yn ddiweddar.
Pan oedd ei bil gofal plant yn £600 y mis roedd hi'n teimlo "s'dim pwynt i fi fynd i'r gwaith – galla i aros adref a chwarae gyda nhw drwy'r dydd".
Ond nawr, gyda llai o gostau gofal plant mae'r teulu'n gallu gwario ar "hwyl a sbri".
"Ni'n gallu gwneud pethau nawr ar y penwythnos fel mynd i nofio neu fynd i'r sinema - pethau base'n costio arian".

Mae pob darparwr plant yn Merthyr Tudful bellach yn rhan o'r cynllun sy'n cynnig gofal plant rhan amser i blant dwy oed
Mae'r gofal plant am ddim i blant dwy oed dan raglen Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu fesul cod post gan roi blaenoriaeth i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Erbyn 2024-25 dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyrraedd 15,901o blant sef tua 52% o holl blant dwy oed Cymru.
Mae disgwyl i ran nesaf y cynllun yn 2025-26 "gyrraedd mwy na 4,000 o blant ychwanegol" gyda £25m o fuddsoddiad ychwanegol, meddai'r llywodraeth.
'Cyfleoedd i ddathlu eu sgiliau iaith Gymraeg'
Dywedodd Rachel Nicholls, Swyddog y Gymraeg i gyngor Merthyr Tudful eu bod yn "ymfalchïo" yn y ffaith taw sir Merthyr oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnig darpariaeth i bob un plentyn dwy oed.
Mae'n dweud taw'r her fwyaf oedd gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cynnig lle i bawb
"Mae uwchsgilio'r gweithlu yn sicr wedi bod yn rhywbeth (heriol) ac maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda fan hyn - a hefyd gwneud yn siŵr bod digon o lefydd ar gael a digon o staff yma yn gymwys i roi'r ddarpariaeth."
Mae'r cyngor wedi gorfod sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael yn Gymraeg hefyd a gwneud yn siŵr bod "cyfleoedd i'r gweithwyr gael yr hyfforddiant, yr anogaeth a hefyd cyfleoedd i ddathlu eu sgiliau iaith Gymraeg ac maen nhw hefyd yn dysgu wrth ei gilydd a dysgu gyda'r plant rhai ohonyn nhw".

Mae Mari'n dweud nad yw'n gwneud synnwyr iddi weithio llawn amser pan fydd hi'n dychwelyd i'r gwaith
Ers 1 Medi mae rhieni sy'n gweithio yn Lloegr wedi cael cynnig 30 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor ysgol i blant o naw mis i bedair oed.
Mae yna bryderon am faint o lefydd sydd ar gael a chost oriau ychwanegol i rieni ond does yna ddim darpariaeth am blant iau na dwy yng Nghymru.
Yn y grwpiau rhieni a babanod sy'n cwrdd yng nghaffi a stiwdio Braf yn Ninas Dinlle yng Ngwynedd mae costau gofal plant yn bwnc llosg.
Mae babi cyntaf Mari yn wyth mis oed: "Dwi wedi penderfynu cwtogi oriau fi pan fyddai'n mynd nôl i'r gwaith achos dwi angen rhywun i warchod hi," meddai.
Mae ei rhieni yn gallu helpu gyda'r gofal deuddydd yr wythnos ond dydy hi ddim yn gweld hi'n bosib iddi hi a'i gwr i barhau i weithio llawn amser.
"Dio'm werth o os dwi'n mynd yn nol i weithio full time ac mae o'n mynd yn ôl i weithio full time - 'sa faint 'da ni'n cael wedyn bob mis, sa'r rhan fwyaf ohono fo'n mynd at gael rhywun i warchod hi."
Mae Mari'n credu bod Dechrau'n Deg yn "gynllun da iawn ond bechod bod pawb ddim yn gallu ei gael o".
"Mae Cymru angen buddsoddi lot fwy o bres i mewn i ofal plant", ychwanegodd
"Os 'da nhw isio i famau fynd nôl i'r gwaith ar ôl naw mis mae'n rhaid iddyn nhw gynnig mwy na be maen nhw'n gynnig rŵan i gymharu efo faint mae Lloegr yn cael - dio'm yn deg o gwbl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
Mae Sally yn rhedeg y grŵp 'Gwdihŵ' ac yn fam i blentyn sydd ar fin troi'n ddwy a fydd yn gymwys am ofal plant Dechrau'n Deg.
Mae'n credu bod yna "gap mawr yng Nghymru" o'i gymharu â'r cynnig yn Lloegr.
"Mae mamau a thadau'n siarad yn deud pa mor stressful 'dio bo' nhw'n gorfod rhoi plant nhw mewn i childcare ond wedyn mae hanner cyflog nhw'n mynd ar y childcare yna. Dwi'n gweld o mor annheg."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu rhaglenni gofal plant yn gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ar draws Cymru".
Mae rhaglen Dechrau'n Deg nawr yn cael ei ehangu i bob plentyn dwy oed, meddai llefarydd: "Rydyn ni wedi rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau mwy difreintiedig a gwneud yn siŵr bod darpariaeth yn gynaliadwy."
Ychwanegodd y llywodraeth fod Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n darparu 30 awr o ofal yr wythnos i blant tair a phedair, yn fwy hael na chynnig Lloegr.
"Yn wahanol i Loegr, mae ar gael i rieni mewn hyfforddiant ac addysg yn ogystal â rheini sy'n gweithio ac ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu gyda 30 wythnos yn Lloegr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.