Yr awdures Gwenllian Ellis a'i thaith at Gwen y Wrach

Darllen cofnodion llys Gwen ferch Ellis yn y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Roedd yr awdures o Ben Llŷn, Gwenllian Ellis, neu Gwen, yn ymwybodol ei bod hi'n rhannu'r un enw â gwrach enwog ers ei bod hi'n ei hugeiniau cynnar.
Gwen ferch Ellis oedd y wrach gyntaf i gael ei chrogi yng Nghymru, a hynny ar grocbren sgwâr Dinbych yn 1594.
Ond heblaw am hynny, doedd Gwenllian yn gwybod dim byd amdani.
Mewn podlediad newydd ar BBC Sounds, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian wedi penderfynu mynd ar daith i ddarganfod mwy am Gwen ferch Ellis, pwy oedd hi, a pham rhoi'r gosb eithaf iddi.
- Adran y stori
Meddai Gwenllian: "Do'n i eioed wedi dysgu amdani hi'n fy ngwersi hanes yn yr ysgol, felly pan ddois i wybod am Gwen am y tro cynta, wnes i chwerthin ar y ffaith 'mod i'n rhannu enw hefo gwrach a meddwl fod 'na rywbeth eitha cool am hynny.
"I ddweud gwir, o'n i'n berchen ar lot o'r nodweddion stereotypical fyswn i'n ddefnyddio i ddisgrifio gwrach – trwyn mawr, dynion sdrêt yn fy ngweld i'n sgeri, merch annibynnol oedd ddim yn ofn sefyll i fyny dros be' o'n i'n gredu.
"Wnes i ddim meddwl am Gwen – y ferch y person, y cyfnod oedd hi'n byw ynddo na'r hyn oedd hi 'di bod drwyddo."
O ymweld â sgwâr Dinbych lle cafodd Gwen ei chrogi, i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle daeth tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, dyma flas o ambell sgwrs gafodd Gwenllian ar ei thaith wrth ddod i ddeall pwy oedd Gwen ferch Ellis a beth mae hynny'n ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.
1. Llyfrgell Dinbych lle byddai Gwen wedi bod yn garcharor

Gwenllian Ellis a Holly Gierke tu allan i Lyfrgell Dinbych. Mae'n debygol mai yn yr adeilad yma y byddai Gwen ferch Ellis wedi cael ei charcharu cyn ei chrogi ar y sgwâr
Yn Llyfrgell Dinbych ar sgwâr y dref mae Gwenllian yn cyfarfod Holly Gierke. Mae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1572. Dyma hen neuadd sir y dref ac mae'n debyg mai yma y byddai Gwen wedi bod yn garcharor cyn ei chrogi.
Er ei bod yn ferch leol ac yn dod o Ddinbych, dim ond yn ddiweddar y daeth Holly i ddysgu am stori Gwen, ac ers hynny mae ei stori wedi cydio ynddi.
Meddai: "Dwi'm yn cofio'n union sut ddes i wybod amdani, yn sicr ddim yn yr ysgol, dwi'n meddwl drwy bobl leol. O'n i yn ymwybodol fod gwrachod yn arfer cael eu crogi a ballu a wedyn ddim tan o'n i'n hŷn 'nes i ddallt fod hynny wedi digwydd yn fan hyn, a wedyn wnes i ddallt mai Gwen oedd y cynta' yng Nghymru i gael ei chrogi ar y sgwâr yn Ninbych.
"Wnes i feddwl, mae hynna yn anhygoel i feddwl fod hyn wedi digwydd yn lle dwi'n byw. Ddes i ddysgu mwy amdani drwy fynd i ddarlith leol a wnes i feddwl, 'waw mae hi wedi profi gymaint o anghyfiawnder'.
"O'n i isio gwybod mwy am bwy oedd hi a pham wnaethon nhw benderfynu ei chrogi hi."
Pwy oedd Gwen ferch Ellis?
Ganed hi yn Llandyrnog tua 1552. Yn blentyn aeth i fyw at ei hewythr yn Iâl ger Wrecsam. Priododd ddwywaith a dod yn wraig weddw ddwywaith cyn mynd i fyw at ei thrydydd gŵr, John ap Morrice ym Metws-yn-Rhos.
Ei bywoliaeth oedd nyddu gwlân a'i werthu i farchnadoedd ond roedd ganddi hefyd allu arbennig. Gallai wella pobl ac anifeiliad efo meddyginiaeth a wnâi ei hun gyda phlanhigion a pherlysiau.
Roedd hi felly'n gwasanaethu ei bro fel swynwraig ac iachawraig. Doedd hi ddim yn derbyn tâl am hynny, efallai y byddai'n derbyn ychydig o fenyn neu ŷd yn gyfnewid.
Ond ar ddechrau haf 1594 mae'n cael ei harestio ar awdurdod William Hughes, Esgob Llanelwy a'i hel i'r carchar yng Nghastell Fflint ar gyhuddiad o fod yn wrach. Mae sawl achos llys a chyhuddiad yn ei herbyn.
Erbyn diwedd y flwyddyn mae'n cael ei chanfod yn euog o fod yn wrach a'i chrogi'n gyhoeddus ar grocbren y sgwâr.
2. Sgwâr Dinbych

Gwenllian a Ruth Williams o Fenter Iaith Dinbych yn crwydro strydoedd hynafol y dref
Un sy'n tywys Gwenllian o amgylch sgwâr Dinbych a strydoedd y dref yw Ruth Williams o Fenter Iaith Dinbych.
Mae Ruth yn rhoi darlun o sut le fyddai Dinbych wedi bod ar ddiwrnod crogi Gwen yn 1594.
Meddai: "Mi oedd Dinbych yn ganolfan masnachol hynod bwysig yn y cyfnod hwnnw. Mae'r tir o gwmpas Dyffryn Clwyd yn ffrwythlon iawn, yr amaeth yn gyfoethog iawn felly mi dyfodd tre' Dinbych fel tre' marchnad hynod bwysig a chyfoethog.
"Oherwydd hynny 'dan ni dal efo gymaint o adeiladau o'r cyfnod hwnnw.
"I ddweud gwir mae yna fwy o adeiladau rhestredig yn Ninbych nac unrhyw dref arall yng Nghymru; dros 230 ohonyn nhw.
"Ar ddiwrnod crogi Gwen mi fasa'r sgwâr wedi bod yn llydan. Mae'r bloc o adeiladau ynghanol y dref wedi esblygu yn ystod cyfnod yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif felly pan oedd Gwen yma'n ei horiau olaf, rhai o'r adeiladau yma fyddai wedi bod yr olygfa ola' fasa hi wedi ei weld o'r grocbren.
"Mae yna stori bwysig yma am y cyfnod, am sut oedd bywyd a sut oedd cymdeithas yn ystod y cyfnod hefyd."
3. Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth

Dr Gareth Evans-Jones, Gwenllian Ellis a Dr David Moore yn y Llyfrgell Genedlaethol
Ond o le daw'r holl wybodaeth am Gwen ferch Ellis?
Mae cofnodion o'i hachosoin llys wedi eu cadw'n y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Oni bai am y cofnodion hynny, ni fyddai unrhyw gofnod o fywyd merch dosbarth gweithiol fel Gwen.
Yn y Llyfrgell Genedlaethol mae Gwenllian yn pori drwy'r cofnodion llys gyda Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd crefydd ac athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor a Dr David Moore sy'n archifydd yn y llyfrgell.
Mae Gwenllian yn dysgu bod Gwen ferch Ellis wedi ei harestio am fod yn wrach am y tro cyntaf ar gyhuddiad o ysgrifennu melltith a gafodd ei ddarganfod yng nghartef bonedd yng Ngloddaeth, sef cartref Thomas Mostyn.
Ond ar ddiwedd ei hachos llys cyntaf, mae hi'n arwyddo cofnod y barnwr gyda chroes sy'n awgrymu nad oedd hi'n gallu ysgrifennu.

Cofnodion llys Gwen ferch Ellis sy'n dyddio i 1594
4. Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy

Gwenllian gyda Siân Melangell Dafydd tu allan i Eglwys Llansanffraid
Yn ôl yr awdures Siân Melangell Dafydd aeth ar daith yn ddiweddar gyda'i drama lwyfan Gwen y Witch, sy'n deyrnged i stori Gwen, yr achos llys yn Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy ar 30 Awst 1594 yw'r achos sy'n newid cwrs bywyd Gwen.
Yma daeth saith o dystion o'r gymuned i roi tystiolaeth yn ei herbyn. Mae un o'r tystion sef Elin, yn ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy witshgrafft.
Meddai Siân: "Erbyn hyn, mae'r gymdeithas yn troi yn ei herbyn hi, pobl yn troi allan i roi tystiolaeth yn ei herbyn hi, 'dan ni'n sôn am foment dyngedfennol yn ei bywyd hi. Yn fan hyn y byddai'r rhod yn troi, a byddai hi wedi cael y dealltwriaeth fod hyn wedi mynd yn rhy bell.
"Cymdogion wedi ei chyngori hi i ddianc a hitha' wedi gwrthod gan feddwl y byddai hi'n saff, bod ei swyddogaeth hi mewn cymdeithas yn rwbath y byddai pobl ei angan, ei bod wedi cael rhodd gan Dduw i wasanaethu, ond yn fan hyn dan do'r eglwys, dyna ni, mae'r gymdeithas wedi newid a hithau heb."

Ffenest liw Eglwys Llansanffraid sy'n dyddio yn ôl i gyfnod Gwen ferch Ellis
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023