Jojo Siwa yn defnyddio llun ffotograffydd ifanc o Gasnewydd

Jojo SiwaFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
  • Cyhoeddwyd

Pan aeth Ceirios Bebb, ffotograffydd 20 oed o Gasnewydd, i gyngerdd Jojo Siwa yn y Tramshed fis Hydref doedd hi ddim yn meddwl y byddai ei lluniau'n cael eu gweld gan filiynau o bobl.

Daeth Jojo Siwa yn enwog ar gyfres realiti Dance Moms yn 2015, ac yn 2020 cafodd ei henwi ar restr y 100 person mwyaf dylanwadol yn y byd. Yn fwy diweddar fe fu'n gystadleuydd ar Celebrity Big Brother gan orffen yn y trydydd safle.

Fe bostiodd y seren bop, sydd â 11.3 miliwn o ddilynwyr ar Instagram, luniau a dynnwyd gan Ceirios i'w chyfrif a defnyddio un o'r lluniau fel llun proffil.

Ceirios BebbFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceirios Bebb yn ffotograffydd o Gasnewydd

Cafodd Ceirios sgwrs gyda Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru fore Gwener a dywedodd:

"O'n i ar fin mynd i gwely ar y noson, a nes i agor ffôn fi a gweld 'naeth hi defnyddio un o llunie fi fel profile picture hi."

Jojo SiwaFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Jojo Siwa

Roedd Ceirios yn y sioe ar ran cylchgrawn FOMO sy'n gohebu ar ddigwyddiadau cerddorol ledled y DU. Cyn cyhoeddi'r lluniau roedd yn rhaid i'r cylchgrawn gael sêl bendith rheolwraig Jojo Siwa. Felly, roedd lluniau Ceirios gan dîm Jojo Siwa a dyna pryd y defnyddiodd y gantores y llun.

"Wnaeth Jojo ddefnyddio'r lluniau heb creditio fi. A bit controversial! Ni wedi trio cysylltu â managers hi, ond dim lwc."

Ond cyn pen dim roedd enw Ceirios yn llenwi'r sylwadau ar y post.

Becky HillFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores Becky Hill yn arena Utilita, Caerdydd

Er gwaethaf y diffyg ymateb gan dîm y gantores, does dim dwywaith fod y sylw wedi rhoi hwb i hyder y ffotograffydd ifanc. A hithau ddim ond ar ddechrau'i gyrfa, mae ei lluniau hi wedi cael eu gweld ar draws y byd. Bwriad Ceirios nawr yw parhau gyda gyrfa ffotograffiaeth.

DadleoliFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Dadleoli yn Tafwyl 2025

Yn ogystal â Jojo Siwa mae hi wedi tynnu lluniau o Becky Hill, The Wombats, HMS Morris, The Blossoms a llu o fandiau eraill.

Ceirios wnaeth y gwaith ffotograffiaeth ar albwm Buddug, Rhwng Gwyll a Gwawr.

BuddugFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau albwm Buddug

"Dw i'n gwneud lot o bethau gwahanol, ond maen nhw i gyd yn cyd-fynd â cherddoriaeth."

Mae Ceirios bellach yn cael ei thalu am ei gwaith ond mae wedi cymryd llawer o waith i gyrraedd y pwynt yma meddai.

"Mae 'na lot o weithio am ddim, lot o networking. Mae networking yn un o'r pethau mwyaf pwysig i fod yn freelance. Hyd yn oed efo cerddoriaeth, mae ffendio bands a pobl fydd yn hurio chi am gigs i gefnogi yn rhan fawr ohono fe."

BlossomsFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Blossoms – un o hoff fandiau Ceirios

Rhai o uchafbwyntiau pennaf Ceirios hyd yma yw tynnu lluniau o'r Wombats a Becky Hill yn Arena Utilita, Caerdydd.

Wrth edrych tua'r dyfodol mae Ceirios yn gobeithio gallu dychwelyd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd i dynnu lluniau iddyn nhw, yn ogystal â pharhau i dynnu lluniau rhai o'i hoff fandiau fel Blossoms sydd â phresenoldeb "class" ar y llwyfan meddai. Mae'n gobeithio cael cyfle i dynnu lluniau o CMAT a Franz Ferdinand wrth iddyn nhw ddod â'u sioeau byw i Gaerdydd yn y misoedd nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.