Olive ac Yvonne: y cyn-nyrsys sy'n sêr y cyfryngau cymdeithasol

Yvonne ac Olive Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Am flynyddoedd roedd y nyrsys seiciatryddol Olive Bowen ac Yvonne Griffiths-Rogers yn gofalu am iechyd meddwl pobl yn eu cymuned.

Ddegawd ers ymddeol maen nhw'n dal i wneud hynny gyda'u siop ddillad sy'n 'hwb cymunedol' a'u fideos hwyliog sy'n codi gwên i'r miloedd sy'n eu dilyn ar y gwefannau cymdeithasol.

Mae eu siop wedi datblygu yn fan cyfarfod, mae'r ddwy yn helpu rhai o'u cwsmeriaid i fynd i'w hapwyntiadau iechyd, ac mae eu fideos ohonyn nhw'n dangos eu stoc diweddara wedi arwain at dros 10,000 o ddilynwyr.

Fe wnaeth y ddwy gyfarfod yn 1978 ar ddechrau eu gyrfa fel nyrsys iechyd meddwl yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin.

Ar ôl blynyddoedd yn gweithio yn ne orllewin Cymru, ar ddechrau'r 1990au fe aeth eu llwybrau i gyfeiriadau gwahanol gydag Yvonne yn gadael nyrsio am sbel i deithio yn India ac Awstralia.

Olive ac Yvonne Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olive, sy'n dod o Drelech, ac Yvonne, sy'n byw yng Nghaerfyrddin, wedi bod yn ffrindiau ers bron i hanner canrif

Pan ddychwelodd Yvonne aeth i fyw i swydd Stafford am gyfnod cyn setlo yn ôl yn ei hardal enedigol yn ne-orllewin Cymru, lle'r oedd ei ffrind Olive yn dal i weithio.

"Ni dal wedi bod yn ffrindie dim ots pa ran o'r byd o'n i - buon ni'n cysylltu drwy'r amser," meddai Yvonne.

"Oedden ni wastad yn cadw in touch - o'n ni'n cwrdd a ffonio bob nos," ychwanegodd Olive.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl roedd y ddwy yn nesáu at oedran ymddeol. Olive oedd y cyntaf i adael y Gwasanaeth Iechyd, ond doedd y syniad o roi'r gorau i waith yn gyfan gwbl ddim yn apelio.

Meddai: "Rhyw nos Sul o'n i'n iste gartref a meddwl gallwn i byth a pheidio gwneud dim byd achos roedd jobyn responsible 'da'r ddwy o ni yn nyrsio'r community. Mae mynd o jobyn fel 'na i neud dim byd - mae'n golled ryfedd.

"So wedyn o ni'n meddwl reit fi wastad wedi hala arian ar shoes, handbags a dillad a stwff fel yna so dyna nes i ryw nosweth, oedd gŵglo wholesale handbags ac wedyn ffones i Yvonne a wedes i 'fi'n meddwl dechre busnes'."

Olive ac Yvonne yn arddangos gwisgo dillad maen nhw'n eu gwerthu yn y siopFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Felly yn 2012 fe ddechreuon nhw brynu stoc a'u gwerthu mewn sioeau, digwyddiadau, nosweithiau Merched y Wawr ac ati. Gydag Yvonne yn dal i weithio, roedd hi'n helpu yn ystod y penwythnosau tan iddi hithau hefyd ymddeol yn 2014 ac ymuno llawn amser yn y busnes.

Yn 2017 fe agorodd siop Pethe Olyv ar brif stryd San Clêr, sir Caerfyrddin. Mae dechrau busnes newydd ar ôl 'ymddeol' - gyda'r siop ar agor chwe dydd yr wythnos - yn dipyn o waith, ond does dim gormod o bwysau oherwydd un rheol bwysig mae'r ddwy wedi ei ddilyn.

Eglurodd Olive: "Pan ddechreuon ni'r busnes wedodd y ddwy ohonon ni 'sna'm dyled i fod' - ti ddim moyn dyled pan ti yn dy late 60s, 70s felly ma' popeth yn y siop wedi talu - sna'm byd yn outstanding.

"Roedd hynny'n bwysig iawn. Tasa hwn yn mynd yn pear shaped fory, massive sale fydde na."

"So ni 'di bod i'r banc o gwbl - smo'r banc yn berchen dim byd," meddai Yvonne.

Yvonne ac OliveFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Ond mae'n fwy na siop. Mae personoliaeth y ddwy a'r sgiliau maen nhw wedi eu datblygu dros ddegawdau o weithio yn y maes iechyd meddwl wedi arwain at elfennau sydd ddim yn rhan o unrhyw gynllun busnes.

Maen nhw'n gwerthu paned a theisen a'r lle wedi datblygu i fod yn fan cyfarfod a lle i gael cwmni. Mae'r ddwy hefyd yn gefn i bobl yn y gymuned sydd angen help - ac yn le i godi calon.

"Mae fel hyb y gymuned - fel yna mae wedi troi mas," meddai Yvonne.

"Mae pobl yn dod i gael chat. Mae rhai pobl unig ma' nhw'n dod am y dydd. Maen nhw fwy fel ffrindie na chwsmeriaid."

"Mae dipyn o storis i rai o'r bobl sy'n dod yma, a ni'n supportio nhw," meddai Olive.

Maen nhw'n mynd a rhai cwsmeiriad sydd methu gyrru car i apwyntiadau meddygol i Gaerfyrddin a Chaerdydd, ac yn mynd ag eraill i siopa neu nôl meddyginiaeth.

Ac mae 'na bellach dîm bychan sy'n dod yno i helpu - Myra yn gwneud y coffi, Marlene y cacenni te a stemio'r dillad, Judith yn addurno'r ffenestri a Jackie yn helpu gyda thechnoleg.

Disgrifiad,

Olive ac Yvonne ar y cyfryngau cymdeithasol

Erbyn hyn mae Olive ac Yvonne hefyd yn codi ysbryd pobl ymhell o sir Gaerfyrddin.

Mae eu fideos hwyliog wythnosol ar y cyfryngau cymdeithasol am gynnyrch y siop yn cael eu gwylio gan filoedd - ac maen nhw wedi dod yn dipyn o 'selebs'.

"Ein ffrind ni Jackie sy'n neud rheiny - Jackie Computers ni'n galw hi," eglurodd Yvonne. "Ni'n ffilmio bore dydd Gwener fel arfer a ma' hi'n dodi nhw mas - ers iddi hi neud e mae 'da ni 11,000 followers.

"Ta ble ni'n mynd mae 'na rhywun yn nabod ni a ma' nhw moyn llun neu maen nhw'n dod i'r siop i gael llun 'da ni."

"Wnaethon ni Merched y Wawr un noswaith ac roedd un moyn pinsho ni i weld os ni'n real," meddai Olive.

A'r ffaith eu bod nhw yn real - yn nhw eu hunain - yw rhan fawr o'r apêl.

"What you see is what you get," eglurodd Yvonne am y fideos.

"So ni ddim yn reherso fe na dim byd," ychwanegodd Olive. "One off yw e. A so ni'n miserable."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.