Ifan Phillips: 'Y teulu a'r gymuned sy' wedi bod wrth fy ochr mewn cyfnodau tywyll'

- Cyhoeddwyd
"Dwi 'di sôn am y ddamwain sut gymaint dwi weithie'n teimlo fel bod fi'n adrodd stori rhywun arall ond dyma stori fi. Ddim stori unrhyw un arall yw hwn ond stori fi yw hwn."
Ym mis Rhagfyr 2021 fe newidiodd bywyd y chwaraewr rygbi ifanc, Ifan Phillips wedi iddo golli ei goes dde mewn damwain beic modur.
Erbyn hyn mae Ifan yn byw gyda coes prosthetig ac mae wedi ysgrifennu llyfr Bachu Cyfle am y diwrnod wnaeth newid ei fywyd a sut mai cefnogaeth teulu a chymuned glos Crymych wedi ei gynnal ers hynny.
Ac un o'r pethau anoddaf i'r sylwebydd rygbi wrth ysgrifennu'r hanes oedd ail-fyw diwrnod y ddamwain a chlywed am yr effaith ysgytwol ar ei rieni, y cyn chwaraewr rygbi Kevin Phillips a'i wraig Iola: "Agorodd e'n lygaid i bach achos wedd lot o agweddau wen i ddim wedi sylweddoli oedd wedi taro nhw fel sut wen nhw'n teimlo gartre' yn clywed y phone call o'r heddwas diwrnod y ddamwain.
"Wedd hwnna'n rhywbeth wedd yn eitha' anodd i fi i sylwi beth oedden nhw'n mynd trwy.
"Gyda sefyllfa'r ddamwain dwi wedi delio 'da fe yn bersonol yn gorfforol ac yn feddyliol achos dwi'n gwybod beth sy' ishe neud fel bod fi'n gallu defnyddio'r goes prosthetig mor effeithiol â phosib. Ond un peth dwi ddim wedi gallu rheoli yw sut effaith mae wedi cael ar rhieni fi.
"So chi byth moyn gweld unrhyw un o'ch plant chi yn cael damwain na unrhyw beth cas. Er bod fi wedi mwynhau ysgrifennu'r llyfr wedd sawl cyfnod le wen i'n gorfod rhoi'r laptop lawr a chymryd brêc achos wedd e'n bwrw fi bach."
Yn syth wedi'r ddamwain wrth iddo orwedd ar y ffordd wedi ei anafu, anfonodd Ifan neges i'w rieni i ymddiheuro iddynt wrth iddo ragweld eu poen a'u gofid: "Wen i'n ishte ar y pafin tu fas y stadiwm le wen i 'di cael y ddamwain a'r peth cynta' nes i wedd gofyn i Josh (Cole, ffrind Ifan oedd yno ar ddiwrnod y ddamwain) i fynd i ôl y ffôn.
"A textes i grŵp Whatsapp y teulu a gweud fi'n sori a hales i text i Mam a Dad yn dweud fi'n sori.
"A 'na pryd wen nhw'n ffonio ac oedd Josh a'r heddwas wedi gorfod siarad â nhw.
"Dwi'n cofio bob dim o'r ddamwain lan at y foment nathon nhw roi fi i gysgu.
"Dwi'n cofio dweud 'plîs rhowch fi i gysgu achos dwi mewn poen' ond wen nhw ffaelu achos wen nhw'n gorfod neud sgans ar fy nghefn i.
"Dwi'n cofio bob dim."
Cefnogaeth
Ac mae Ifan yn dweud mai cefnogaeth a phositifrwydd ei deulu sy' wedi ei helpu drwy'r cyfnodau tywyll ers hynny: "Nhw oedd yn cynnal fi. Beth bynnag wedd i ddod wen i'n gwybod fydden nhw yna wrth fy ochr i bob cam o'r ffordd.
"Wedd positifrwydd nhw yn neud i fi deimlo lot gwell am y sefyllfa."

Ifan, ei frawd Dafydd a'i dad Kevin
Mae Ifan yn cyflwyno'r llyfr fel teyrnged i'w rieni ac i'w ffrind Josh: "Mae Josh wedi bod 'na trwy'r cyfan. Wedd e 'na trwy'r ddamwain a dwi'n cofio fe'n dweud 'dewn ni ben a mynd trwy hyn 'da'n gilydd a dod mas yr ochr draw yn iawn' – mae fe wedi bod yn ffrind ffyddlon sy' 'di sefyll ar ei air.
"Wen i mo'yn diolch iddo 'da'r llyfr.
"O ran fy rhieni, nhw yw'r rheswm pam dwi dal yn trio cymryd y camau cywir achos se i moyn nhw i deimlo nawr bod hwn wedi digwydd i fi bod bywyd fi ar ben.
"Rhywbeth fyddai'n anodd i fi i weld yw gweld nhw yn stryglan achos bod fi'n stryglan. Y rheswm dwi'n cadw i fynd a dal i ymarfer a neud y weithredoedd cywir nawr yw sicrhau bod fi'n gallu byw bywyd i'r eithaf.
"Dwi moyn i nhw edrych arna'i a gweld mae Ifan yn iawn nawr ers y ddamwain a dal yr un Ifan a dal yn bositif.
"Hyd yn oed nawr mae strwythur bywyd fi wedi mynd lawr llwybr gwahanol ond dal nhw yw'r rheswm pam dwi'n neud popeth."

Ifan a'i fam Iola Phillips
Ac mae'r gymuned leol yng Nghrymych hefyd wedi bod yn gefn mawr iddo: "Y teulu a'r gymuned sy' wedi bod wrth fy ochr i mewn cyfnodau tywyll.
"Ers i fi gael fy namwain i mae sawl sefyllfa 'di bod le mae ishe help ar unigolyn arall ac mae'r gymuned yn Crymych o hyd yn dod at ei gilydd a dod i ben a chodi arian os oes rhaid.
"Mae'n gymuned sy' moyn helpu mas ac yn gymuned glos iawn felly mae gallu dweud bod ti'n dod o ardal fel 'na yn sbeshal iawn."

Ifan, ei frawd Dafydd a'i chwaer Elen
Agwedd
Mae Ifan yn credu fod y meddylfryd a'r gwytnwch datblygodd e fel chwaraewr rygbi i'r Gweilch wedi ei helpu yn fawr i ymdopi ac erbyn hyn mae'n gweithio fel sylwebydd rygbi: "Wen i yn meddwl a chwestiynu lot beth mae bywyd mynd i edrych fel, yn enwedig yn syth ar ôl y ddamwain pan wen i mewn cadair olwyn ac am gyfnod hir heb goes prosthetig ac yn teimlo mod i'n dibynnu lot ar bobl.
"Y nod oedd mynd yn ôl i fyw y bywyd annibynnol wen i'n byw cyn y ddamwain ac oedd sawl cyfnod le wen i yn teimlo ydy hyn mynd i fod yn bosib?
"Ond gyda'r broses gywir o neud rhywbeth a gyda meddylfryd bositif dwi'n teimlo bod chi'n gallu ymdopi a neud unrhyw beth.
"Neges y llyfr yw os mai rhywbeth yn digwydd mewn bywyd sy'n taro chi a chi'n meddwl fod bywyd ar ben – pan fo meddylfryd positif gyda chi a phroses i ddilyn mae modd herio unrhyw beth. Dyna'r neges bydden i'n licio bydde pobl yn gweld wrth ddarllen y llyfr."

Sut felly mae'r ddamwain wedi ei newid fel unigolyn?
Yn ôl Ifan: "Dwi'n berson mwy cyflawn nawr a dueddol o feddwl am fywyd bach yn wahanol.
"Dwi'n berson lot mwy aeddfed ac amyneddgar achos am sawl cyfnod wen i'n gorfod eistedd lawr a ffaelu neud be' wen i mo'yn neud. Wen i'n dweud wrth fy hunan tra bod fi'n neud y pethau cywir dwi'n gwybod fydd hwn i gyd yn dwyn ffrwyth.
"Mae'r llyfr yn un gonest a theimladwy ond gobeithiol.
"Mae lot 'da fi i fod yn hapus amdano."

Ifan a'i ffrind Josh: "Mae Josh wedi bod 'na trwy'r cyfan"
Bydd Bachu Cyfle yn cael ei lansio'n swyddogol ar nos Wener 24 Hydref yng Nghlwb Rygbi Crymych am 7:30yh.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
