Gwobrwyo Ieuan ap Siôn am ei gyfraniad i Gymreictod

- Cyhoeddwyd
Y canwr gwerin a'r naturiaethwr, Ieuan ap Siôn yw enillydd gwobr goffa Jennie Eirian eleni.
Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi yn y flynyddol i unigolyn sydd wedi bod yn weithgar dros y Gymraeg, Cymreictod a'r celfyddydau yn Sir y Fflint.
Un o Lanpumsaint yng Ngheredigion oedd Jennie Eirian, ond buodd hi'n byw yn Yr Wyddgrug am sawl blwyddyn gyda'i gŵr, James Eirian Davies, oedd yn weinidog, a'u plant Siôn a Guto.
Yn ystod Gŵyl Daniel Owen y bydd Ieuan ap Siôn yn derbyn y wobr, sy'n anrhydedd i unrhyw un o'r ardal ei derbyn.
Ffion Dafis aeth draw i'w weld ar ôl iddo glywed ei fod wedi ennill eleni.
Gwerthfawrogi cerdd dant
Mae Ieuan ap Siôn yn adnabyddus am ei ddoniau perfformio caneuon gwerin, ac mae hefyd wedi bod yn fuddugol mewn canu cerdd dant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Ŵyl Cerdd Dant.
Yn ogystal â'i ddoniau canu, mae hefyd yn naturiaethwr, ac yn ymddangos yn aml ar raglen Garddio a Mwy ar S4C.
Fe gafodd Ieuan ei fagu ym mhentref Rhes-y-Cae, Sir y Fflint ar aelwyd nad oedd "yn perfformio'n gyhoeddus", meddai.
"Roedd Dad efo llais bendigedig ond ddim yn gwybod be' i 'neud efo fo, roedd o'n wych iawn.
"Mam wedyn efo llais alto, a rhywle yn y canol ydw i. Ro'n i'n canu tenor nes i Brian Hughes dd'eud wrtha i mai bariton o'n i erioed.
"Roedd Taid Penyffordd yn canu gwerin a ges i swp o ganeuon gwerin ganddo fo o'r ardal hon," meddai.
Diolch i'r Eisteddfod Genedlaethol y mae Ieuan wrth feddwl yn ôl i'r cyfnod pan ddechreuodd berfformio. Cyn ymweliad y Brifwyl â'i ardal leol yn 1969, doedd erioed hyd yn oed wedi clywed am gerdd dant.
"Un o'r dylanwadau mwyaf arna i oedd pan daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Fflint.
"Mi es i a 'na i byth anghofio sefyll ar stryd fawr yn Y Fflint a gweld yr Orsedd yn mynd i fyny a'r holl wisgoedd a'r cleddyf; roedd o'n fendigedig.
"Mi es i wedyn drwy'r wythnos ac yna glywes i canu penillion, neu canu cerdd dant am y tro cyntaf yn fy oes. Wedyn dros y blynyddoedd a thrwy wrando 'nes i ddysgu sut i ganu a sut i werthfawrogi cerdd dant," meddai.
Ieuan ap Siôn yn perfformio ar raglen Twndish yn 1977
Mae Ieuan yn adnabyddus am ei ddawn i ddadansoddi ac mae'n egluro sut mae'n cyflawni hyn yn effeithiol:
"Be' sy'n bwysig ydi d'eud stori yda' chi. Mae'n rhaid i'r geiriau fod yn hollol glir. Mae'n rhaid i chi ganu mewn tiwn, ond does dim rhaid i'r llais fod yn lais melfedaidd, fe all fod yn lais cras.
"Dim gormod o ystumiau, mae'n bwysig i'r cantwr argyhoeddi'r gwrandawyr ac mae hynny'n amhosibl os nad yw'r gwrandawyr yn deall y geiriau."
Erbyn hyn mae Ieuan yn ei 70au ac yn cyfaddef nad yw'r llais fel yr oedd, ond mae'n dal i berfformio'n achlysurol yn ei ardal sy'n golygu cymaint iddo.
"Mae Mam a Dad yn dod o'r patsh yma a Nain a Taid ar y ddwy ochr; Gorsedd, Treffynnon a Bagillt.
"Roedd fy nhaid yn gweithio yn y pwll glo yn Bagillt. Roedd 'na lot o Gymraeg yn Bagillt ers talwm, ond erbyn rŵan mae o i gyd wedi darfod. Dwi ddim yn meddwl fod 'na neb yn Bagillt wan yn siarad Cymraeg fel oedd yr hen bobl."
Parhau i berfformio
"Pan o'n i'n blentyn roedd 'na lot o bobl Treffynnon yn Gymraeg, wedi iddyn nhw farw yn y 1960au doedd 'na ddim byd wedyn. Tan yn ddiweddar roedd 'na lefydd yn Sir y Fflint yn Gymreigaidd iawn, iawn. Dwi'n cofio pan oedd 'na bobl Saesneg o gwmpas roedd Taid yn troi at Nain ac yn dal i siarad Cymraeg.
"Ond os y base ti'n gofyn i Nain a Taid am R Williams Parry mi fase nhw'n gofyn 'pwy di nene, ydi o'n byw yn Licswm?'! Doedd gyno nhw ddim syniad am bethe fel'ne, dim ond fod y Gymraeg yn rymus ganddyn nhw ac yn hollol naturiol.
"Dwi dal i berfformio rŵan. Be' dwi'n leicio 'neud rŵan, os 'neith rhywun ofyn i mi ganu unawd fawr, dwi'n gallu g'neud un, ond mae pobl eisiau mwy nag un.
"Mae tri neu bedwar yn ormod i mi, mae'r llais yn blino, ond fedra i fynd i siarad efo cymdeithas, siarad am y caneuon a tipyn o straes amdanyn nhw, straes doniol a dyne dwi'n leicio 'neud," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd25 Mehefin