Cynllun i adfywio Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi buddsoddi £1.58 miliwn ar gyfer Merthyr Tudful bydd yn helpu i ariannu cynlluniau adfywio hanfodol.
Bydd mwy na 12 adeilad yn cael eu gweddnewid yn ardal Pontmorlais o'r dref fel rhan o'r cynllun.
Yr amcan yw sianelu arian loteri hanfodol i mewn i dreftadaeth adeiledig y gymuned sydd wedi dioddef dirywiad cymdeithasol ac economaidd difrifol.
Mae Pontmorlais, sy'n gorwedd oddi fewn i ganol tref Merthyr Tydfil â threftadaeth adeiledig gyfoethog sy'n tystio i gyfoeth diwydiannol y dref yn y gorffennol.
Denu buddsoddwyr
Heddiw mae Merthyr yn dioddef rhai o'r graddfeydd uchaf o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
Mae ardal y Stryd Fawr a grëwyd rhwng 1770 a 1820 yn cynnwys nifer o adeiladau hanesyddol mawreddog sy'n adlewyrchu cyfoeth y dref yn y gorffennol.
Bydd y buddsoddiad hwn oddi wrth CDL yn mynd tuag at atal a gwyrdroi eu dirywiad a darganfod defnyddiau newydd iddyn nhw fydd o fudd i bobl leol, gyda'r bwriad o ddenu buddsoddwyr ac ymwelwyr newydd.
Un o'r adeiladau oddi fewn i'r ardal gadwraeth yw Capel Soar a dderbyniodd grant o £527,000 yn 2009 oddi wrth CDL er mwyn addasu'r adeilad rhestredig Gradd ll i fod yn lleoliad ar gyfer celfyddydau perfformio a gweithgareddau cymunedol.
Dic Penderyn
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: "Bydd yr arian yma'n helpu trigolion i drawsnewid eu hardal gan wneud gwelliannau ac atgyweiriadau hanfodol fydd yn annog busnesau lleol ac ymwelwyr nôl i'r ardal yma oedd unwaith mor fywiog."
Bydd cysylltiadau arfaethedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil gyda Choleg Merthyr Tydfil hefyd yn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth i fyfyrwyr, busnesau lleol a thrigolion i wella'r sail sgiliau lleol yn yr ardal ac i sicrhau cynhaliaeth tymor hir y dreftadaeth adeiledig.
Mae cyfres o weithgareddau cymunedol hefyd wedi eu cynllunio i annog pobl leol i archwilio'r dreftadaeth ar garreg eu drws, sy'n cynnwys Dic Penderyn a Gwrthryfel Merthyr, Llwybr Trevethick a llwybr y Rheilffordd gyntaf.
Mae syniadau ar gyfer cynnwys y gymuned yn amrywio o ddehongli trwy gyfrwng gweithiau celf a phrosiect hanes llafar i recordio atgofion pobl leol.
Mae CDL hefyd wedi clustnodi £16m ar gyfer cynlluniau gan amgueddfa Caerdydd, marchnad gaws yn y Gelli Gandryll a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn Sir Drefaldwyn.