Cofio'r ffilm arswyd 'laddodd' Dafydd Iwan drwy ei beintio'n wyrdd

- Cyhoeddwyd
Mae'n olygfa gofiadwy sydd fel ffilm Hollywood gyda naws Gymreig iawn – darganfod Dafydd Iwan yn noeth wedi ei ladd ar ôl cael ei beintio'n wyrdd.
A does ryfedd, oherwydd mae'n ymddangos mai James Bond oedd yr ysbrydoliaeth tu cefn i Gwaed ar y Sêr, y ffilm arswyd gyntaf yn y Gymraeg sy'n dathlu'r hanner cant eleni.
Yn y ffilm gwlt, gafodd ei rhyddhau yn 1975 a'i dangos mewn sinemâu eto eleni gyda thrac sain newydd gan Don Leisure, mae nifer o enwogion Cymru yn cael eu llofruddio gan blant mewn ffyrdd dyfeisgar iawn.
Maen nhw'n gyrru neidr wenwynig i'r darlledwr Hywel Gwynfryn, sy'n cael ei frathu a'i ladd wrth iddo ddarlledu i'r genedl. Mae'r chwaraewr rygbi eiconig Barry John yn cael ei ladd gan bêl sy'n ffrwydro ac mae diwedd y gân yn dod i'r Delynores Dwyryd druan wedi i un o dannau ei thelyn gael ei gysylltu gyda'r cyflenwad drydan.

"Hwyl Fawr, Bobol" - Hywel Gwynfryn wedi iddo gael ei frathu gan neidr wenwynig, er gwaethaf ymdrechion arwrol Mici Plwm i'w achub
Yn ôl cyfarwyddwr y ffilm, Wil Aaron, ysbrydoliaeth i'r cyfan oedd un o ffilmiau 007.
"Yn y ffilm Goldfinger mae Shirley Eaton yn cael ei lladd drwy gael ei pheintio drosti mewn paent aur ac mae'n debyg os dyw'r croen ddim yn anadlu mae hyn yn lladd rhywun," meddai ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
"Tua'r un pryd hefyd roedd Dafydd Iwan yn cael tipyn o lwyddiant gyda'i gân Peintio'r Byd yn Wyrdd - cân sydd am aelodau Cymdeithas yr Iaith yn peintio dros arwyddion Saesneg gyda phaent gwyrdd.
"Wel, fe ddaeth y ddau beth yma at ei gilydd ac fe gawson ni'r syniad o ladd Dafydd Iwan drwy ei beintio fo'n wyrdd.
"Wedyn es i â'r syniad at Dafydd Huw Williams, oedd yn gynhyrchydd yn BBC Bangor, a gyda'n gilydd mi greon ni'r plot yma o gôr o blant sy'n awyddus i serennu mewn noson lawen yn eu pentre' eu hunain ac yn cynllwynio i ladd yr holl o'r sêr eraill oedd wedi cael gwahoddiad i berfformio yn yr un sioe."

Disgyblion Ysgol Uwchradd Brynrefail oedd yn chwarae rôl plant pentref dychmygol Gruglon
Fe gafodd y rhan fwyaf o'r golygfeydd eu ffilmio ym mhentref Nantperis, wrth droed yr Wyddfa, lle'r oedd Wil Aaron yn byw ar y pryd.
Cyllideb fechan iawn oedd gan y cynhyrchiad gyda'r criw a'r cast wedi cytuno i fod yn rhan o'r tîm am gyflog bychan. Roedd nifer yn cysgu ar lawr cartref y cyfarwyddwr ac roedd bwyd i'r holl griw yn cael ei baratoi gan wraig y tŷ capel.
Un sy'n cofio'r cyfan, ydi Dafydd Iwan.
Meddai wrth BBC Cymru Fyw: "Do'n i methu credu'r peth i ddechrau pan ddywedodd [Wil Aaron], 'y cyfan fyddwn ni'n wneud ydi dy beintio di'n wyrdd a fyddi di'n gorwedd yn noeth wrth yr afon'. Doedd hi ddim yn gynnes iawn, dwi'n cofio hynny.
"Roedd gen i drôns ymlaen ond roedd cael y make-up efo'r merched make-up yn dipyn o brofiad 'de!
"Pwy oedd yn eistedd yn yr un stafell â ni - achos roedd pawb ar ben ei gilydd braidd yn y bwthyn bach - oedd Elen Roger Jones, yr actores, oedd fel nain hen ffasiwn.
"Roedd hi'n rhyfeddu ar y pethe oedd yn digwydd o'i chwmpas hi ac roedd hi'n sbïo o gornel ei llygaid arnyn nhw'n rhoi'r paent gwyrdd arna i. Anghofia i byth y golwg ar ei hwyneb hi. Roedd hi'n bictiwr!"

"I'r caeau awn â'n cân... a pheintio'r byd yn wyrdd" - Dafydd Iwan yn actio fo'i hun yn Gwaed ar y Sêr
Yn ôl trefnydd gŵyl ffilmiau arswyd Abertoir, sydd wedi ei chynnal yn Aberystwyth ers 20 mlynedd, mae'r ffilm erbyn hyn yn glasur.
Meddai Nia Edwards-Behi ar Dros Ginio: "Rhywbeth sy'n bwysig iawn am Gwaed ar y Sêr ydi'r cyfuniad yna o arswyd o ran y golygfeydd a'r syniad o'r llofruddiaethau yma o enwogion mawr Cymru ar y pryd, a hefyd yr hiwmor sydd trwyddi yn llwyr.
"Mae lot o'r hiwmor yna yn Gymraeg iawn, lot o'r cymeriadau sy'n gwneud hwyl am ben - ond mewn ffordd neis iawn - rhai o'r traddodiadau Cymraeg. Y cyfuniad yna sy'n gwneud y ffilm yn arbennig iawn ond hefyd bod gweledigaeth eitha' pwysig tu ôl [i'r ffilm]."

Roedd cast yn Gwaed ar y Sêr yn cynnwys Wynford Ellis Owen, Maureen Rhys, Dafydd Hywel, Grey Evans, Charles Williams a Valmai Jones. Ysgrifennwyd y sgript gan Dafydd Huw Williams a Wil Sam
Roedd gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg rhan fawr yn y weledigaeth honno o geisio annog cynhyrchiadau Cymraeg er mwyn hybu diwylliant poblogaidd yn yr iaith.
Fe gafodd ei sefydlu ar ddechrau'r 1970au a'r bwrdd wnaeth sicrhau nawdd ar gyfer Gwaed ar y Sêr.
Roedd yr aelodau ar y pryd yn cynnwys y cerddor William Mathias, y gwas sifil Syr Ben Thomas a'r Athro Gwyn Thomas.
Meddai Wil Aaron: "Y dyn pwysica' oedd y cadeirydd Dr Jim Davies, Prifathro'r Coleg Normal, oedd fel y rhan fwya' o'r Bwrdd Ffilmio yn gwybod dim jest am wneud ffilm ond roedd yn gwybod sut i wasgu pres allan o'r Swyddfa Gymreig."
Fe lwyddwyd i gael grant o £5,000 ar gyfer y ffilm er mwyn talu am bopeth, o'r cytundebu a'r sgriptio, i dalu am y criw a phrosesu'r ffilm.
Oherwydd y gyllideb dynn, roedd yn rhaid ffilmio popeth mewn pum diwrnod hir o waith.
Effaith hyn ydi bod "olion brys mawr" ar rannau o'r ffilm, meddai'r cyfarwyddwr, ac mae un olygfa yn benodol sy'n dal i godi braw arno hyd heddiw.
Roedd y seren rygbi Barri John wedi cytuno i fod yn rhan o'r ffilm gyda'r sgript yn dweud ei fod yn cicio'r bêl hirgron rhwng y pyst nifer o weithiau, cyn i'r bêl ffrwydro a'i ladd.
Does 'na ddim traddodiad rygbi yn Nyffryn Peris ac mae'r cae rygbi agosaf yng Nghaernarfon. Oherwydd diffyg amser doedd dim posib teithio i'r dref ac felly roedd yn rhaid cyfaddawdu a mynd i'r pentref nesaf a'i ffilmio ar gae pêl-droed Llanberis - gyda gôl, a phêl gron.

Golygfa arswydus - Barry John yn ei grys rygbi... ond yn cicio pêl droed yn Llanberis
"Beth oedd e'n meddwl oedd yn mynd drwy'n pennau ni, Duw a ŵyr," meddai Wil Aaron.
"Roedd John Ogwen wedi dreifio i lawr i Gaerdydd i bigo fe fyny y bore hynny a dod a fe i Lanberis, wedyn roedd rhaid iddo fe gicio'r bêl rhyw ddwsin o weithiau tuag at y gôl.
"Roedd rhaid iddo fe daflu ei hunain yn ôl fel petai wedi ei chwythu fyny ac wedyn fe gafodd ei wthio yn ôl i'r car a'i ddreifio'n ôl lawr i Gaerdydd - a chawson ni ddim gair o gŵyn ganddo fo, na neb arall.
"A dwi'n cofio John Ogwen yn dweud ei fod wedi cael amser hyfryd yn sgwrsio gyda Barry yr holl ffordd trwy gydol y daith. A dyna'r prif beth dwi'n cofio hefyd am y shoot - gymaint o hwyl oedd hi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2016

- Cyhoeddwyd20 Medi 2024

- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
