10,000 o 'flyers' a 30 mlynedd o atgofion am y sîn rêfs

Mae arddangosfa o flyers Owain i'w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Owain Williams o Gastell-nedd wedi bod â diddordeb mewn cerddoriaeth ddawns ers iddo glywed cân electronig ar Top of the Pops pan oedd o'n wyth oed.
Pan oedd yn ddigon hen, roedd wrth ei fod yn mynd i rêfs oedd yn para' drwy'r nos, ac yn casglu flyers am ddigwyddiadau dawnsio ledled y byd.
Dri deg mlynedd yn ddiweddarach, mae ei gariad at gerddoriaeth ddawns yn parhau; mae ei gasgliad o flyers wedi pasio'r 10,000, ac mae'n DJio mewn rêfs dydd, sydd ychydig mwy sidêt na'r rhai gwreiddiol, ond dal yn gwneud yr un peth, meddai, sef dod â phobl ynghyd i ddawnsio.
Cerddoriaeth newydd yn creu cymuned newydd
Ddiwedd yr 1980au, o Chicago a Detroit yn America, ac Ibiza, daeth math newydd o gerddoriaeth oedd yn llawn curiadau ailadroddus a seiniau electronig; cerddoriaeth ddawns.
Roedd hyn yn fath gwahanol o sain a ddechreuodd ar symudiad newydd ymhlith y bobl ifanc ym Mhrydain, yn enwedig a hithau'n ystod cyfnod Margaret Thatcher fel prif weinidog.
"O'dd lot o bobl allan o waith, falle â phroblemau cymdeithasol, roedd 'na hwliganiaid pêl-droed... ond beth wnaeth y sîn yma oedd creu rhyw fath o undod lle oedd pobl yn dod at ei gilydd i ddawnsio i'r gerddoriaeth yma," eglurodd Owain.
A dyna oedd dechrau ar rêfs anghyfreithlon a oedd yn cael eu cynnal ledled Prydain mewn chwareli, hen siediau, caeau... lle bynnag oedd ddigon mawr i filoedd o bobl allu dod i gyd-ddawnsio, a lleoedd oedd allan o lygad yr heddlu.
"Roedd popeth yn gorfod cael ei wneud yn y dirgel; 'ffoniwch y rhif yma a gewch chi gyfeiriad', neu 'dilynwch y fan yna i faes parcio', neu 'arhoswch tu fas i focs ffôn i gael cod i weld lle mae'r rêf'. Ac roedd e i gyd yn cat and mouse gyda'r heddlu drwy'r amser.
"O'dd weithiau 20,000 o bobl yn troi lan, a doedd 'na ddim regulations; byddai rhywbeth ofnadwy wedi gallu digwydd. Ond roedd hyrwyddwyr y rêfs yn rhoi hysbyseb am ddigwyddiad oedd ddim yn bodoli fel fod yr heddlu yn mynd fan'na yn lle. A dyna oedd yn gwneud yr holl beth yn exciting."

Flyer ar gyfer gig cyntaf Prodigy yn Ne Cymru yn 1992 - roedd mwy o nosweithiau dawns 'swyddogol' yn cael eu cynnal ar ddechrau'r 1990au, ond roedd y digwyddiadau anghyfreithlon dal yn boblogaidd
Oedd, roedd y rêfs yn anghyfreithlon, ond nid troseddwyr oedd y bobl oedd yn mynd iddyn nhw, pwysleisia Owain. Roedden nhw'n gyfreithwyr, meddygon, athrawon; pob un eisiau dihangfa am ychydig o oriau.
"O'n nhw'n rhedeg i ffwrdd o'r heddlu, ond o'n nhw'n bobl broffesiynol oedd wedi cael llond bol o lywodraeth Thatcher a'r protestiadau oedd yr adeg yna.
"Roedd e'n dod â phob math o bobl at ei gilydd – pobl o wahanol gefndiroedd, pobl hoyw, cefnogwyr pêl-droed, oedd yn ymladd ei gilydd ar y teras ar y p'nawn Sadwrn, ac yn dawnsio gyda'i gilydd ar y nos Sadwrn. Roedd 'na gymuned."
O Sobin i Edelweiss
Nid fod Owain yn rhan o'r criw yma bryd hynny, wrth gwrs. Roedd o'n rhy ifanc, ac yn cael ei fagu mewn cartref ym Mhontardawe oedd yn llawn cerddoriaeth glasurol a seiniau bandiau Cymraeg fel Sobin a'r Smaeliaid a Mynediad am Ddim.
Ond pan glywodd gân gan y band dawns electronig o Awstria, Edelweiss, ar Top of the Pops pan oedd o'n wyth oed, newidiodd ei orwelion cerddorol.
"Fi'n cofio Mam yn dweud 'What is this rubbish? This is terrible!' Ond o'n i'n meddwl ei fod e'n grêt, yn hollol boncyrs ac o'n i eisiau gwybod mwy. Wedyn oedd mwy o stwff electro-pop yn dod mas. Dyna pryd 'nes i benderfynu mynd lawr y llwybr yma.
"Pan o'n i tua 11 wedyn, pan o'n i'n cael arian poced, o'n i'n gallu mynd i Abertawe a phrynu beth bynnag o'n i mo'yn ar gaséts. Doedd neb yn y tŷ yn hapus achos o'n i'n chwarae'r gerddoriaeth yn uchel! Ond dyna o'n i mo'yn gwrando arno fe."
Er fod Owain eisiau mynd i'r rêfs dawnsio roedd yn clywed amdanyn nhw, doedd ddim yn mynd am eu bod yn anghyfreithlon, a doedd ddim am fod mewn trwbl gyda'r heddlu (na'i deulu!).

Owain gyda'i chwiban yn ei geg, yn ei rêf cyntaf, ac yn ei 'stafell wely gyda'i gefnder, gyda dechrau ei gasgliad anferth o flyers ar ei wal
Ond erbyn ei fod yn ei arddegau hwyr, roedd clybiau cerddoriaeth ddawns mawr a digwyddiadau rêfs mwy swyddogol wedi cael eu sefydlu.
"Es i i'n rêf cynta' i yn 17 oed, Nos Calan 1997 sef rêf o'r enw Dreamscape mewn mart wartheg yn Shepton Mallet. O'dd dros 10,000 o bobl 'di troi lan ac o'dd e'n wyllt. Dwi'n cofio maint y peth, a'r lasers a goleuadau, pyrotechnics a rhai o DJs gorau Prydain yn chwarae yno.
"Ac o'n i'n llwyr ymwybodol 'mod i mewn lle gyda 10,000 o bobl oedd yr un peth â fi. O'n i'n teimlo'n rhan o rywbeth. Yn perthyn. A doedd dim byd negyddol, o'dd pawb jest yn joio eu hunain. Waw!"
Mae wedi bod yn mynd i rêfs a nosweithiau dawns mewn clybiau byth ers hynny, cyn symud ymlaen i DJio nosweithiau hefyd.
Torri record byd am flyers?
Cyn fod Owain yn gallu mynd i'r digwyddiadau a'r clybiau, yn lle hynny, dechreuodd gasglu'r flyers papur oedd yn eu hysbysebu, drwy fynd i chwilota mewn siopau recordiau a chyfnewid rhai gyda chasglwyr eraill drwy gylchgronau.
"'Nes i ddechrau rhoi nhw ar ddrws fy stafell wely, ac yn sydyn oedd y drws ddim yn digon fawr, achos o'n i'n pigo rhain lan bob wythnos. 'Naethon nhw fynd ar ddrysau'r wardrob, yna ar y silffoedd, wedyn y wal... ac o fewn blwyddyn roedd unrhyw ofod fflat gyda flyer arno fe!"

Rhai o hoff flyers Owain; mae wedi eu sganio er mwyn eu harddangos ar y wal (mae'r gwreiddiol yn ddiogel yn eu bocsys)
"Dyna pan 'nes i sylweddoli bo' fi mo'yn casgliad mawr – un o gasgliadau mwya'r byd!"
Heddiw, mae gan Owain 10,000 o flyers o ddigwyddiadau dawns dros y byd; pob un wedi eu storio'n ofalus mewn amlen blastig ac mewn ffeil yn ôl lleoliad neu flwyddyn, ac wedi eu dogfennu'n ofalus ar daenlen.
Does ganddo ddim y casgliad mwyaf yn y byd – mae'n gwybod am ddyn yn yr Eidal sydd â 187,000 o flyers – ond mae'n eithaf siŵr fod ei gasgliad yn torri record am y nifer fwyaf o flyers am ddigwyddiadau yn ne Cymru!

O Awstralia a'r Iseldiroedd - mae gan Owain flyers o bedwar ban byd
Yr hen a'r ifanc
Y dyddiau yma, mae llai a llai o flyers papur yn cael eu cynhyrchu, gan mai ar-lein mae popeth, sydd yn siom, meddai Owain.
Er hynny, mae'r sîn ddawns yn parhau yn gryf, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod o help i ddenu pobl ifanc sy'n newydd i'r genre, yn ogystal â'r ffans hŷn oedd yno y tro cynta'.
"Mae'r sîn dros y byd yn enfawr, ond mae'r sîn hardcore, sef y math o gerddoriaeth ddawns dwi'n ei fwynhau, yn reit fach. Dwi'n DJio mewn digwyddiad yn Abertawe, a bydd rhyw 200 yn troi lan, a dwi'n gwybod mod i am 'nabod pawb, fydd yn hyfryd. Mae'n fwy intimate.
"Mae'r cyfryngau dros y blynyddoedd wedi rhoi eitha' stink ar y sîn, ac oedden ni'n cael eu targedu fel pobl ddrwg, fel pobl fudr. Ond ni'n cael merched ifanc yn dod i ddigwyddiadau ac yn penderfynu aros achos oedden nhw'n hoffi'r gerddoriaeth ond bod nhw hefyd yn teimlo'n saff. Mae e fel teimlad o deulu."

Owain yn DJio yn 2004
Ac mae'r rêfs dydd sy'n cael eu cynnal wir yn cael eu gwerthfawrogi gan y to hŷn sy'n awyddus i ail-fyw profiadau eu hieuenctid, ond sydd dal angen mynd adref i roi'r plant yn y gwely!
"Maen nhw eisiau mynd mas fel oedden nhw, a joio gyda'i gilydd, ond wedyn maen nhw'n gallu bod gartref erbyn Match of the Day. Mae'r day raves wedi ail-gynnau tân mewn lot o bobl oedd o gwmpas ar y pryd.
"Mae 'na un boi dwi'n ei weld mas drwy'r amser – mae e'n 69 mlwydd oed, ac mae'n dweud fod y rêfs dydd wedi bod yn blessing iddo fe. Mewn ugain mlynedd, os alla i wneud hynny, bydden i wrth fy modd!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021

- Cyhoeddwyd18 Medi

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
