Nathan Gill yn 'hen hanes' meddai pennaeth polisi Reform

Nathan GillFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nathan Gill ei garcharu am 10 mlynedd a hanner ar ôl cyfaddef i dderbyn tua £40,000 am wneud cyfweliadau ac areithiau o blaid Rwsia

  • Cyhoeddwyd

Mae Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, sydd wedi'i garcharu am lwgrwobrwyo, yn "hen hanes, yn ôl pennaeth polisi'r blaid, Zia Yusuf.

Cafodd Gill ei garcharu am 10 mlynedd a hanner ddydd Gwener ar ôl cyfaddef i dderbyn tua £40,000 am wneud cyfweliadau ac areithiau o blaid Rwsia.

Dywedodd Mr Yusuf nad oedd erioed wedi cwrdd â Gill, a'r cyfan yr oedd yn ei wybod amdano oedd yr hyn a ddarllenodd yn y papurau newydd, gan ddweud na ddylai ei weithredoedd effeithio'r ffordd mae pobl yn ystyried y blaid Reform.

Daw ar ôl i'r Prif Weinidog Keir Starmer herio arweinydd Reform UK, Nigel Farage, i sefydlu ymchwiliad i gysylltiadau ei blaid â Rwsia.

Zia YusufFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Zia Yusuf yw pennaeth polisi y blaid Reform UK

Yn ymddangos ar Sky News, gofynnwyd i Mr Yusuf pam y dylai pobl ymddiried yn yr hyn y mae Reform UK yn ei ddweud am Rwsia "o ystyried bod un o'u pobl wedi cymryd arian gan Rwsiaid"

Dywedodd Mr Yusuf: "Rwy'n credu y byddai hynny'n safbwynt hynod afresymol i'w gymryd.

"Roedd yr hyn a wnaeth Nathan Gill yn frad. Roedd yn erchyll. Roedd yn ofnadwy.

"Mae'r awdurdodau bellach wedi delio ag ef. Mae'n haeddu'r ddedfryd y mae wedi'i dderbyn.

"Ond mae hwn yn ddyn sydd, yn ein barn ni, yn hen hanes."

Clywodd llys yr Old Bailey ddydd Gwener fod Gill, 52 o Langefni ar Ynys Môn, wedi derbyn tâl gwerth miloedd o bunnoedd i roi cyfweliadau teledu a gwneud areithiau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

Bu Nathan Gill yn aelod o Senedd Ewrop dros UKIP, ac yn ddiweddarach Plaid Brexit, rhwng 2014 a 2020.

Ef oedd arweinydd UKIP yng Nghymru rhwng 2014 a 2016, ac roedd yn arweinydd Reform UK yng Nghymru rhwng Mawrth a Mai 2021.

Nigel Farage gyda Nathan GillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage gyda Nathan Gill ym Merthyr Tudful yn 2019

Mae sylwadau Mr Yusuf yn dod ar ôl i Syr Keir Starmer alw ar Nigel Farage i sefydlu ymchwiliad i gysylltiadau Reform UK â Rwsia, gan ddweud fod Gill wedi "tanseilio ein buddiannau fel gwlad".

Mewn ymateb, dywedodd Mr Farage fod angen i Syr Keir Starmer ymchwilio i gysylltiadau Llafur â Phlaid Gomiwnyddol China.

"Mae ysbïwyr wedi cael eu canfod yn rhoi arian i ASau Llafur ac mae achos ysbïo diweddar wedi dymchwel yn amheus.

"Efallai bod angen iddo edrych yn agosach at adref," meddai Nigel Farage.

Dywedodd yr heddlu nad oedd Mr Farage yn rhan o'u hymchwiliad.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: "Mae galw Nathan Gill yn 'hen hanes', er gwaethaf y ffaith bod y digwyddiadau hyn wedi datblygu llai na phum mlynedd yn ôl, yn ymgais sinigaidd i guddio'r gwir."

Ychwanegodd: "Roedd yn gweithio'n agos iawn gyda Nigel Farage, gan ei ddilyn yn ffyddlon o UKIP i Blaid Brexit ac yna i Reform UK, gan wasanaethu yn y pen draw fel Arweinydd Reform yng Nghymru. Os nad oes gan Reform UK unrhyw beth i'w guddio, ni ddylai fod ganddynt unrhyw broblem gydag ymchwiliad llawn i ymyrraeth Rwsia yn ein gwleidyddiaeth.

Dywedodd Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ar ôl i Gill gael ei garcharu dydd Gwener y dylid cynnal ymchwiliad ehangach: "Roedd bradwr ar frig Reform UK, yn cynorthwyo ac yn annog gwrthwynebydd tramor. Mae Nigel Farage a'i blaid yn berygl i ddiogelwch cenedlaethol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig