Daniel Evans: Richard Burton 'yn arwr i fi'

- Cyhoeddwyd
Mae dylanwad Richard Burton fel actor yn parhau hyd heddiw ac, wrth i ni nodi canmlwyddiant geni yr actor o Bontrhydyfen, bu'r actor a'r cyfarwyddwr Daniel Evans yn siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru am ei ddylanwad arno fe.
Daniel oedd enillydd cyntaf erioed Gwobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghwm Rhymni ym 1990 pan oedd e'n 17 oed.
Ers hynny mae Daniel, sy'n dod o Gwm Rhondda, wedi cael gyrfa doreithiog yn y byd actio ac hefyd wedi portreadu'r actor Syr Anthony Quayle yn y ffilm Mr Burton yn ddiweddar.
Bu'n siarad am ddylanwad Richard Burton ar ei yrfa:

Roedd gyda ni fel teulu yr LPs o Dan y Wenallt ac hefyd y recordiad o Burton yn chwarae Hamlet a bob hyn a hyn bydden ni'n chwarae'r LPs ar y record player.
Felly roedd ei lais e'n rhywbeth oedd yn seinio drwy'r tŷ. Fues i'n ffodus i ennill gwobr Richard Burton a ges i gwrdd â dwy o'i chwiorydd a'i weddw e, Sally Burton. Mae atgofion mor felys gyda fi o'r cyfnod hwnnw.

Enillodd Daniel Evans wobr Richard Burton yng Nghwm Rhymni 1990 - y flwyddyn gyntaf i'r wobr gael ei rhoi. Roedd e'n 17 oed.
Perthynas Burton â iaith
Mae iaith yn rhywbeth dw i'n ymdrin ag e bob dydd nawr mod i'n gyd-gyfarwyddwr yr RSC (Royal Shakespeare Company).
A phan ti'n clywed Burton yn adrodd darnau o Hamlet neu y clip ar YouTube lle mae e'n gwneud What a piece of work is a man - mae'r ffaith ei fod yn gallu bod mor glir a mor gynnil - mae'r cyfuniad yna jest yn rhywbeth ti ddim yn gweld yn aml nawr, falle oherwydd fod sut ni'n delio â a gwrando ar a gwylio sioe wedi newid.
Ond roedd rhywbeth gyda fe o ran sut oedd ei intellect e a sut oedd e'n gallu cyfleu'r intellect hynny drwy iaith yn wyrthiol.
Perfformio Shakespeare

Toby Jones a Harry Lawtey yn y ffilm Mr Burton
Fues i'n ffodus i chwarae rhan fach yn ffilm Mr Burton yn ddiweddar ac o'n i'n ymwybodol o'r hanes gyda'i athro, ond oedd e yn ddiddorol gweld sut oedd Harry Lawtey a wedyn Toby Jones yn chwarae'r cymeriadau a gweld pa fath o addysg gath e, ac addysg ieithyddol hefyd drwy fynd i ben y mynydd a sgrechian ei ben off ac yn y blaen.
Rhywsut neu'i gilydd, mae'n rhaid bod yna rhywbeth cynhenid yn y boi pan gath e ei fagu, rhywbeth i wneud gyda'n traddodiadau llafar ni yng Nghymru.
[Gwnaeth e] nid jest Shakespeare yn Gymraeg ond sawl ffilm yn Gymraeg ac wedyn mae'r dramâu radio 'nath e yn Gymraeg. Mae ei Gymraeg e yn goeth.
Mae wedi bod yn ddylanwad ac mae'n parhau i fod yn ddylanwad oherwydd y canmlwyddiant ac efallai oherwydd y ffaith bod e wedi priodi gymaint o weithiau. Mae wedi cael y berthynas yma gyda Elizabeth Taylor ac wedi concro Hollywood ac mae ei hunaniaeth Gymreig a Chymraeg e wedi bod mor bwysig iddo fe gydol ei oes, felly mae hynny yn ysbrydoliaeth hefyd.
Ysbrydoliaeth i actorion ifanc
Roedd yna griw ohonyn nhw - Richard Harris, Peter O'Toole, Albert Finney. Mae'r cyfnod yna wedi peni nawr, achos wrth gwrs oedden nhw gyd â rhyw fath o enw am 'smygu a yfed alcohol yn ystod ymarferion.
Ni ddim yn gwneud y pethau 'na rhagor, ond rhywsut neu gilydd roedd y ffaith bod gyda nhw ryw fath o ochr o wylltineb yn perthyn iddi nhw yn eu bywydau personol yn meddwl bod eu perfformiadau nhw ar lwyfan yn beryglus, ac felly yn rhoi ias i bobl.
Cefndir
Falle bod y ffaith bod Richard Burton wedi dod o gefndir difreintiedig a'i dad e'n löwr yn golygu hefyd bod e wedi rhoi rhyw fath o dân yn ei fol e er mwyn profi ei fod yn gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â'r actorion oedd yn dod o Loegr oedd yn dod o gefndiroedd mwy breintiedig. Ac mae hynny'n rhywbeth dwi hefyd yn uniaethu gyda fe gan fod tad fy mam a tad fy nhad yn lowyr.
Dwi ddim yn gwneud unrhyw fath o gyffelybiaeth ohona i a Burton, ond mae e yn arwr i fi ac i genedlaethau o ni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2018

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd

- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
