'Hel mynydd' ar ucheldiroedd ffermydd Cymru

- Cyhoeddwyd
Rydyn ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael ein hamgylchynu gan fynyddoedd ysblennydd.
Ond er ei bod hi'n braf cael edrych ar y mynyddoedd hardd yma, maent yn gallu bod yn fannau heriol i'w ffermio i'n hamaethwyr.
Mae Rhys Evans yn gweithio ar fferm ei deulu yn Rhydymain, pentref pum milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ddolgellau yn Sir Feirionnydd.
Yma, mae Rhys yn trafod yr hen arferiad o 'hel mynydd', ble mae ffermwyr yn dod â'r defaid i lawr o'r mynydd i'r tir isel ar adegau gwahanol o'r flwyddyn.
Ffermydd yr ucheldir
Mae 'na sawl math gwahanol o dir yn rhan o'r fferm fynyddig Gymreig, fel esboniai Rhys.
"Gan amlaf, mae ffermydd yr ucheldir yng Nghymru wedi'u rhannu'n ddwy, sef y tir is ar lawr gwlad, a'r tir mynydd. Er enghraifft, yn yr Hengwrt (y fferm deuluol) mae gen ti dir is o gwmpas buarth y fferm, a thir pori mynyddig ger copa'r Rhobell Fawr.
"Ac mae'r un peth yn wir am y fferm gyfagos, Hywel Dda, ble mae 'na gaeau gerllaw sydd wedi ei ffensio i ffwrdd, a'r tir mynydd ar droed Y Dduallt.
"Mae'r tir mynydd yma'n rhan bwysig iawn o'r system, a 'san ni'n methu ffermio fel yr ydan ni heb y rhannau yna."

Tad Rhys, Huw Alun Evans, ymysg y defaid ar y bryniau tu ôl i fferm Yr Hengwrt
Mae hel y defaid i lawr a nôl fyny'r mynydd yn rhywbeth sydd yn digwydd sawl gwaith y flwyddyn - sydd yn bwysig i'r defaid, a hefyd i'r tir.
"'Dan ni'n gyrru ein defaid i'r mynydd ar adegau gwahanol", meddai Rhys.
"Bydd ŵyn benyw (blwydd oed) yn mynd i'r mynydd ddiwedd mis Mawrth, ac yng nghanol mis Mai ar ôl wyna mi fydd yna ddefaid ac ŵyn yn cael eu gyrru yno i fod yn gwmni iddynt. Mae'r defaid sydd â gefeilliaid yn aros i lawr, a'r rheiny sydd efo ŵyn ychydig yn llai.
"Mae hyn yn rhoi cyfnod o orffwys i'r tir gerllaw, sy'n galluogi i ni gau caeau i ffwrdd yn ystod yr haf i greu silwair ar gyfer bwydo'r gwartheg dros y gaeaf. Ym mis Gorffennaf bydd y defaid i gyd yn mynd i'r mynydd, gyda'r ŵyn gwryw yn aros i lawr er mwyn cael pesgi."

Ffermwyr o'r ffermydd cyfagos yn helpu ar fferm Yr Hengwrt
"Mae 'na ambell helfa yn ystod y flwyddyn – y rhai cyntaf yn digwydd o fis Mehefin i ganol Gorffennaf, ble 'dan ni'n hel y defaid i gael eu cneifio – a bydd cymdogion yng nghwm uchaf yr Afon Wnion yn helpu'i gilydd.
"Fydden ni'n hel eto ddiwedd mis Awst, pan fydden ni'n dewis defaid i'w gwerthu ym mis Medi. Bydd y defaid gwerthu yn aros i lawr a bydd y defaid sy'n aros ymlaen i fridio yn mynd yn ôl i'r mynydd i bori.
"Bydd helfeydd ola'r flwyddyn yn digwydd ddiwedd mis Hydref neu gychwyn Tachwedd er mwyn hel y defaid magu i'w gollwng at yr hyrddod."

Dywed Rhys fod systemau'n amrywio yn unol â sut fath o dir yw'r tir uchel.
"Mae system pawb yn amrywio – er enghraifft yn yr Hengwrt bydd y defaid i gyd yn aros i lawr dros y gaeaf gan fod llethrau'r Rhobell Fawr yn reit anghysbell a gall y tywydd fod yn ddidostur.
"Ond yn Hywel Dda caiff y defaid fynd yn ôl i'r mynydd a'r ffriddoedd ganol mis Rhagfyr, gan ei fod yn dir is hefo mwy o gysgod, cyn dod lawr ddiwedd Mawrth y flwyddyn ganlynol ar gyfer wyna."
Rhwng y gwaith ar fferm ei hun a'r ffermydd cyfagos, dywed Rhys ei fod fyny yn hel ar y mynyddoedd dros ddwsin o weithiau mewn blwyddyn.
"Mae 'na ryw bedair neu bump helfa i gyd yn ystod y flwyddyn, gyda chymdogion yn helpu ei gilydd i hel, sortio, cneifio neu drin defaid. Felly drwy'r flwyddyn rhwng y ffermydd mae'n siŵr mod i'n hel rhyw 15 neu 16 gwaith."

Defaid fferm Yr Hengwrt ar y mynydd
"Mae tiroedd comin hefyd yn dod a her wahanol", meddai Rhys, "gan eu bod gan amlaf yn agored neu'n ddi-derfyn.
"Ond be sy'n arbennig ydi, o ganlyniad bugeilio gofalus dros y canrifoedd, mae llawer o'r defaid yma'n cynefino i'w hardaloedd ac maen nhw bron a bod yn parchu ffiniau anweladwy.
"Mae'n mynyddoedd ni yn gaeedig gan fod ffens neu wal gerrig yn dynodi terfynau rhwng gwahanol ffermydd - ond mae rhai o'r taclau yn gallu neidio felly mae aml i ddafad ddiarth mewn rhai o'r helfeydd!
"Dan ni'n cerdded y mynyddoedd gan fod nhw mor serth, dim mynd ar y quad, ond eto ma' na rai ardaloedd fel Cwm Elan ble ma'r ffermwyr yn mynd ar gefn ceffyl."

"Be sy'n ddiddorol i ni ydi bo'r diadellau 'da ni'n eu hel wedi bod yn pori ar y mynyddoedd ers degawdau, ac mae'r mamau yn dysgu llawer i'w hŵyn - er enghraifft pa lwybrau i'w dilyn - ac mae'r wybodaeth yna'n cael ei phasio mlaen i'r genhedlaeth nesaf.
"Felly mae'r defaid heddiw'n nabod eu lle, a 'dan ni'n trio sicrhau bo hynny'n parhau a bod ni ddim yn amharu ar fywyd gwyllt arbennig yr ucheldiroedd."
Yr ochr gymdeithasol
Yn ogystal â'r gwaith caled dywed Rhys fod 'na ochr gymunedol gryf i'r gwaith, gyda'r ffermwyr yn ymgynnull â'i gilydd.
Ond hefyd mae'n gyfle i'r teulu ddod at ei gilydd i fwyta, a thrafod y gwaith ar ddechrau neu ar ddiwedd diwrnod prysur o waith.
"Ma' 'na rhai sy'n paratoi'r brecwast, cinio neu swper hel, a 'dan ni'n ddiolchgar iawn i'r cogyddion adre sy'n gwneud bwyd i ni, a ma'n neis rhoi'r byd yn ei le a chael rhyw fath o ddathliad o'r hyn 'dan ni'n ei wneud ar y mynydd yn ystod y flwyddyn."
"Cyn oedd fy mhartner, Mared, yn disgwyl roedd hi'n helpu i hel y defaid, ac yn ddiweddar mi ddoth mab Rhys Tŷ Cerrig i hel mynydd Esgair Gawr ag yntau ddim eto'n ddyflwydd oed! Mae'r rhai o'r helwyr hynaf yn eu saithdegau, felly mae 'na ystod oedran go eang yma."

Aelodau o deulu Rhys; ei rieni, Huw a Rhianwen, ei frodyr, Llŷr a Huw Ynyr, ei bartner Mared, a'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr
Oes 'na newidiadau mawr di bod yn yr arferion o hel mynydd dros y blynyddoedd?
"Am wn i mae'r arferiad 'di aros yr un peth", meddai Rhys, "o'n i bai bo' gen ti quads a pheiriannau i fynd ar waelod y mynyddoedd.
"Ond cerdded fydda ni ar y mynydd, mae'n cadw'n ni'n reit ffit - fel dywed Robin Wyn - 'Nei di'm gweld ffarmwr tew o Rhyd-y-main!'"

Huw Evans (tad Rhys) yn bugeilio'r mynyddoedd uwchben Rhydymain
Mae gan bawb ei le yn hel mynydd, yn cerdded i bwyntiau gwahanol mewn rhes i ddweud gwir, gan bwsio'r defaid drwy ddefnyddio strwythur penodol.
"Mae'r Aran yn le drwg am niwl, felly mae cal ffonau symudol yn gwneud pethau bach yn well – fel arall ti jest yn gweiddi drwy'r niwl a gobeithio bo' ti'n y lle iawn.
"Mae rhaid cadw llygad ar ragolygon y tywydd – ti ddim isio mynd allan pan fo'r cymylau'n isel a ma' hi'n gaddo gwynt a glaw. Mae'n haws adeg yr haf, ond ar adeg yma'r flwyddyn mae ffenest ar gyfer tywydd da'n fwy cul."
Er heriau'r tywydd mae'n debyg y bydd yr arferion yma o ffermio'n parhau yn Rhydymain, ac mewn sawl ardal arall o Gymru, am genedlaethau i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Hydref

- Cyhoeddwyd21 Awst

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
