Poteli dŵr, inc a gwenwyn - casgliad hynod Sheila Dafis

boteli.Ffynhonnell y llun, Sheila Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Sheila Dafis gyda rhywfaint o'i photeli

  • Cyhoeddwyd

Mae Sheila Dafis yn berson sy'n gwerthfawrogi prydferthwch poteli; boed yn rhai cerameg, gwydr neu unrhyw ddeunydd arall. Cymaint yw ei hoffter o boteli ei bod hi'n casglu rhai ers blynyddoedd lawer.

Yn wreiddiol o Landderfel ger Y Bala, mae Sheila bellach yn byw yn Llansannan.

Siaradodd am ei chasgliad ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar 13 Tachwedd.

Dechrau casglu'n ifanc

Pam bod Sheila'n casglu poteli? "Cwestiwn da! Dwi'n dipyn o wiwer!" meddai Sheila.

"Ges i'n magu lled cae o afon Ddyfrdwy, ac fel mae dŵr yn denu plant, o'n i'n mynd at y dŵr i chwarae a dal pysgod bach mewn jar pot jam fel oedd llawer o blant yn gwneud.

"Fel plant yn y cyfnod oedden ni'n chwarae heb sgrins 'na'm byd ac oeddech chi'n gorfod gwneud eich diddordeb eich hunain. 'Nes i ddod a hyd i ddarnau cerameg a magu diddordeb - 'beth odd y jar 'na tybed?'... neu 'beth oedd yn y jar yna?'

"Doedd 'na'm byd cyfa', ond o fan'na y cychwynnodd y chwilen.

"Dwi'n licio meddwl bod 'na rhyw gornel fach ohona i sy'n archeolegydd!"

boteliFfynhonnell y llun, Sheila Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Potel o ddorlan afon Ddyfrdwy

Roedd hi'n dipyn o her i Sheila ddod o hyd i botel gyflawn ar y dechrau, gan fod gymaint wedi eu torri yn yr afonydd.

"Oedd 95% o'r poteli o'n i'n cael hyd iddyn nhw ddim yn gyfa' wrth gwrs. Ond ma' hon 'di dod o'r Afon Ddyfrdwy, ac mae'n botel drwchus iawn – mae'n siŵr dyna sut mae hi wedi goroesi, a hanner hi yn y mwd.

"Mae'n wydr gwyrdd tywyll ac yn botel drom, a dim ond rhyw chwe modfedd o daldra ac yn drwchus mewn rhannau ac yn denau mewn rhannau, ac mae 'na swigod o fewn y gwydr. Mae hi'n beth 'sa nhw'n galw yn y byd poteli'n forest green, a dwi'n hoff iawn ohoni, er bod hi ddim hyd yn oed yn sefyll yn syth - mae hi'n gam!"

Mae rhai o'r poteli sydd gan Sheila'n dyddio nôl ychydig o ganrifoedd.

"Mae'r poteli sydd gen i'n mynd nôl i'r flwyddyn 1800, ac mae'r rhan fwyaf gyda corcyn ynddyn nhw."

boteliFfynhonnell y llun, Sheila Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r ffefrynnau yng nghasgliad Sheila

Poteli gwenwyn

Mae gan Sheila ambell i botel go anghyffredin yn ei chasgliad hefyd, fel yr esboniai.

"Mae gen i un neu ddwy [poteli oedd yn dal gwenwyn]. 'Dan ni'n mynd yn ôl rŵan i Oes Victoria, ac yn gynt, ac roedd 'na ganran uchel o farwolaethau bob blwyddyn yn ddamweiniol oherwydd roedd gwenwyn yn rhwydd i'w brynu yn y siop, a doedd 'na ddim labelu clir.

"Yn y cyfnod yna doedd canran uchel o bobl methu darllen chwaith, a rhaid cofio doedd 'na ddim trydan yr adeg hynny.

"Meddyliwch chi am y sefyllfa o rywun yn sâl yn ystod y nos efo rhyw colig ofnadwy, dod lawr yn y tywyllwch yn nos, falle gyda channwyll, gyda gwenwyn llygod mawr ac ati...

"Efo'r poteli gwenwyn 'ma, yn y diwedd ddaeth y chemist a'r doctoriaid a'r cwmnïau gwneud gwydr at ei gilydd a chreu poteli efo teimlad iddyn nhw, fel ribs bach.

"Mae gen i un gwyrdd emrallt, ac un glas cobolt, ac yn lliwiau hyfryd – ond mae posib teimlo nhw efo'ch bysedd, a bydde bobl a oedd methu darllen yn gallu teimlo bo' nhw'n botel gwenwyn.

"Weithiau bydden nhw'n rhoi teimlad fel penglog ac esgyrn – doedd dweud 'not to be taken' arno'n dda i ddim os oeddech chi methu darllen. Wedyn, mi ddaeth y rheolaeth yn dilyn y Poison and Pharmacy Act yn 1868."

poteliFfynhonnell y llun, Sheila Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Dwy botel gwenwyn

Poteli inc

"Yn y ddesg yn yr ysgol, roedd 'na cawg fechan, un wen fel arfer, yn y ddesg yn dal inc."

"Fel o'dd addysg yn gwella, a mwy o bobl yn gallu ysgrifennu, roedd angen mwy o inc parod. Dyna lle cychwynnodd gyfnod y penny inks, ac mae 'na bobl sy'n casglu dim ond y poteli bach 'ma.

"Oedden nhw'n dod mewn pob math o siapau – anifeiliaid, offerynnau cerdd, tai, cychod.

"Yr un mwyaf cyffredin oedd y rhai siâp hecsagon wyth cornel oedd yn cael eu creu'n gyflym, ond ddim yn cael eu gorffen yn daclus ar y gwddw, ac mae'n siŵr yn cael eu selio efo cwyr a corcyn."

boteliFfynhonnell y llun, Sheila Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r poteli dal inc i'w gweld ar flaen y llun yma

Mae'r gwerth ariannol yn amrywio o botel i botel, fel esboniai Sheila:

"I rai - oes - mae 'na werth iddyn nhw [poteli prin], ond i rai arall maen nhw'n werth ychydig o bunnoedd."

Cael gwared ar rai

Gyda'i chasgliad wedi ehangu dros y blynyddoedd mae Sheila wedi gorfod taflu poteli, gan ddal ei gafael ar y rhai mae hi'n ei hoffi fwyaf.

"Erbyn hyn dwi 'di torri lawr. Bob tro dwi'n symud tŷ, a dwi 'di gwneud rhyw bedwar o weithiau, mae 'na focsys yn mynd, dwi'n cael gwared o rai ohonyn nhw.

"Dim ond rhyw 60 sydd gen i ar ôl erbyn hyn, a dwi'n hoff iawn o beth sydd gen i a dwi'n ei chael hi'n anodd meddwl pa rai sy'n mynd nesaf. Ar ôl fy oes i mae'n siŵr 'na i gynnig rhain i ryw amgueddfa."

Oes un potel sy'n fwy gwerthfawr na'r lleill?

"Mae gen i boteli cod neck, ar gyfer dŵr pefriog, ac mae 'na farblen yn y gwddw, ac yn cael eu cynhyrchu ym mhob fath o lefydd ac yn dyddio o 1872.

"Maen nhw'n drysorau i fi, ac maen nhw yn y fan yma a fan draw nes bo' fi'n mynd i siarad amdanyn nhw efo Merched y Wawr neu rhyw gorff arall."

Mae'n ymddangos y bydd casgliad diddorol Sheila'n parhau i esblygu dros y blynyddoedd nesaf, ac fe fydd hi'n parhau i rannu hanes yr eitemau hynod yma.

boteliFfynhonnell y llun, Sheila Dafis

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: