Tafarn gymunedol Ty'n Llan yn Llandwrog yn agor ar ei newydd wedd

Fe fydd noson agoriadol y dafarn ar ei newydd wedd yn cael ei chynnal ar 28 Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae hen dafarn gafodd ei hachub gan y gymuned ar ôl i dros 100 o drigolion gynnal cyfarfod Zoom yn ystod cyfnod Covid ar fin ail-agor.
Ar ôl gwaith gwerth £3m i adeiladu estyniad a gwneud gwaith adnewyddu y gobaith yw bod y newidiadau am roi sail ariannol gadarn i'r dyfodol.
Fe gaeodd drysau Ty'n Llan yn Llandwrog, ger Caernarfon, nôl yn 2017 mewn cyfnod pan oedd 18 tafarn yn cau bob wythnos ym Mhrydain.
Roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn pan wnaeth y gymuned ddechrau ymgyrch i'w phrynu yn dilyn sïon yn 2021 fod bwriad i'w gwerthu.

Mae adeilad Ty'n Llan, yng nghanol pentref Llandwrog, dros 200 mlwydd oed
Fe gafodd cyfarfod cyhoeddus ei alw - un digidol oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo - ac ymunodd dros 100 o drigolion.
"Roedden ni'n dod at ddiwedd y cyfnod clo, ac roedd pobl yn fwy ymwybodol nag erioed o bwysigrwydd cymuned a chysylltiad," meddai trysorydd Menter Ty'n Llan Huw Jones.
"Pan glywsom fod Ty'n Llan am gael ei rhoi ar y farchnad, roedd 'na deimlad fod 'na frys i wneud rhywbeth - doedd neb eisiau gweld y dafarn yn cael ei throi'n dŷ preifat, fyddai'n golygu ei cholli am byth."
Sefydlwyd cwmni cymunedol a lansiwyd apêl wnaeth gasglu £465,000 mewn chwe mis i brynu'r dafarn - £65,200 yn fwy na'r targed.
Ail-agorwyd Ty'n Llan fel tafarn gymunedol ar ddiwedd 2021 a dechreuodd y pwyllgor weithio ar greu cynllun busnes cynaliadwy.

Un o'r ystafelloedd gwely cyn y gwaith atgyweirio
"Mi oeddem yn gwybod o'r dechrau nad ydy rhedeg tafarn yn hawdd - a'r rheswm pam fod cynifer yn cau ydy ei bod yn anodd iawn gwneud iddyn nhw dalu eu ffordd," meddai Mr Jones.
"Felly roedd angen i ni gynnig mwy na hynny - roedd angen gwella'r gegin yn sylweddol a chreu bwyty da.
"Roedd incwm posibl hefyd o ail-wneud yr ystafelloedd gwely - a'r elfen gymunedol wrth gwrs yn ganolog i'r cyfan."

Ystafell wely ar ôl y gwaith atgyweirio. Bydd cyfle i gael taith dywys o amgylch y llofftydd ar y noson agoriadol
Llwyddodd y fenter i gael grantiau gan gronfeydd y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Arfor a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Caewyd y dafarn yn gyfan gwbl ar ddiwedd Mai 2024 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio, cyn agor yn rhannol fis Gorffennaf eleni.

Y bar cyn y gwaith adnewyddu
Bydd y dafarn gyfan, gan gynnwys yr estyniad, nawr yn cael ei agor yn swyddogol ar nos Wener, 28 Tachwedd. Fe fydd y bwyty ar agor ar 26 Tachwedd a'r llety ar gael o 1 Rhagfyr.
Mae Ty'n Llan bellach yn cynnwys pum ystafell wely, cegin newydd, bwyty ac ystafell gymunedol. Yn yr ardd, mae cwt gwerthu nwyddau bob dydd fel llefrith a bara.
Mae Swyddog Cymunedol wedi ei benodi i drefnu gweithgareddau, gan gynnwys boreau coffi, grwpiau cerdded, clwb sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg a grŵp ieuenctid.

Fe gafodd y gymuned gyngor gan sefydliadau Plunkett UK a Cwmpas ar ddechrau'r fenter
"Rydym wedi bod yn hynod lwcus o'r grantiau sydd wedi bod ar gael ac mae'r gefnogaeth gan y gymuned, o bob cwr o Gymru a thu hwnt, wedi bod yn hollbwysig," meddai Mr Jones.
"Mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl â sgiliau a phrofiadau mor amrywiol yn dod at ei gilydd er mwyn cyrraedd y nod.
"Gall tafarn fel hon, sy'n ganolfan gymdeithasol i bawb, fod yn galon y gymuned, gan sicrhau mai nid casgliad o dai ydy pentref."

Mae golygfeydd tuag at fynyddoedd Yr Eifl o'r ystafell fwyta newydd
Ty'n Llan ydi'r diweddara o nifer o dafarndai sydd wedi eu prynu gan y gymuned dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos twf o 400% mewn degawd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd24 Medi 2024

- Cyhoeddwyd22 Mehefin
