Teulu yn talu teyrnged i 'dad unigryw' wedi gwrthdrawiad angheuol

Roedd Michael Griffiths yn cerdded pan fu farw mewn gwrthdrawiad gyda char
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol yn Rhondda Cynon Taf wedi talu teyrnged iddo.
Roedd Michael Griffiths, 45, yn cerdded pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char ger mynedfa'r Bathdy Brenhinol ar Heol-Y-Sarn, Llantrisant, ar 22 Hydref, 2025.
Cafodd Mr Griffiths, dyn lleol i'r ardal, ei ddisgrifio gan ei deulu fel "mab annwyl iawn, tad unigryw, brawd mawr cariadus i dri o frodyr a chwiorydd a ffrind gwirioneddol a ffyddlon i lawer".
Dywedon nhw eu bod wedi eu tristau'n fawr gan ei golled mewn ffordd mor drasig, ond eu bod rŵan "eisiau canolbwyntio ar y person anhygoel ag oedd o".

Roedd Michael Griffiths yn mwynhau chwarae golff, dartiau a phŵl, meddai ei deulu
"Roedd gan Michael deimlad cryf o gymeriad - caredig, hael, a llawn bywyd. Roedd ei bersonoliaeth ddireidus ar adegau, yn disgleirio drwy bopeth a wnaeth," meddai ei deulu.
"Byddwn ni i gyd yn cofio straeon doniol di-ri am anturiaethau, dyddiau allan ac atgofion wedi'u rhannu hefo Michael."
Ychwanegon nhw yn y datganiad fod Mr Griffiths yn cymryd balchder yn ei waith walio ac yn mwynhau gweithgareddau awyr agored, fel cerdded a physgota.
Mae Heddlu'r De yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu hefo nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref
