3 Llun y cerddor Melda Lois

- Cyhoeddwyd
Cerddor o Gwm Croes ger Llanuwchllyn yw Melda Lois. Yn gynharach yn y mis fe wnaeth hi ryddhau'r sengl ddwbl Am Eiliad / O'r Ddwy Lan ar y label recordio Ika Ching.
Dyma gip ar y broses cyfansoddi a recordio yn ei geiriau (a'i lluniau) ei hun.
'Mi ddaeth Am Eiliad allan o nunlle'

Yr Afon Dwyfor yn helpu i sefydlogi Lois wrth iddi gyfansoddi
Dwi wastad 'di bod y teip i roi lot (gormod) o bwysau ar fy hun, ac wrth i'n EP cyntaf i ddod allan llynedd, o'n i'n barod yn meddwl am be' dylwn i greu nesa'. O'n i yn fy mhen braidd a, rhwng pwysau gwaith ayyb, o'n i'n stryglo'n ofnadwy i sgwennu unrhywbeth newydd.
Un o'r pethe nes i yn y cyfnod yma oedd mynd ar gwrs yn Nhŷ Newydd, hefo Georgia Ruth a Carwyn Ellis yn arwain. Dyle nhw'n bendant gael bonus am fod yn therapyddion answyddogol i ni gyd a'n fragile egos!
Mi wnaethon nhw fyd o les yn fy helpu i leddfu'r pwysau o'n i'n rhoi ar fy hun. Ar y p'nawn amser sgwennu rhydd, mi wnaethon nhw gynnig prompt i fi gael go ar sgwennu rhywbeth newydd. Dim byd rhy benodol… jysd cân hefo'r capo ar ffret pump, mewn Open D tuning, am yr Hydref!
Ac mi ddaeth Am Eiliad allan o nunlle y p'nawn hwnnw. Nes i chwarae o gwmpas hefo ryw alaw ar y gitâr yn fy llofft gynta, cyn mynd am dro a setlo wrth y dŵr i drio cael trefn ar y geiriau, a digwydd bod nes i gymryd llun cyn dechrau arni!

Y gitâr wedi chwalu!
Llun bonws fan hyn: y noson honno, mi gawsom ni gyd gyfle i rannu be' oedden ni wedi bod yn gweithio arno fo yn y llyfrgell. Felly fan'o berfformies i'r gân am y tro cyntaf.
Ac o fewn rhyw ddeg eiliad o osod y gitâr lawr ar ôl gorffen, a'i phwyso yn erbyn y soffa, fe ddisgynodd hi'n fflat ar lawr ac fe chwalodd ei gwddw hi... felly mi ddechreuodd Am Eiliad ei bywyd mewn ffordd reit traumatic! 'Da ni'n dal i ddweud 'na ysbryd Lloyd George roddodd gic iddi. Ddim yn ffan yn amlwg.
Y booth recordio 'fel nyth bach clyd'

'Nyth bach clyd'
Ges i'r pleser o fynd nôl i Stiwdio Sain i recordio'r sengl ddwbl yma (ac ambell gân arall sydd ar y gweill) ym mis Mai, Mehefin a Medi 'leni. Fel y gwelwch chi, mi drwsiwyd y gitâr erbyn cyrraedd y stiwdio!
Dwi 'rioed 'di bod yn ffan mawr o fod o flaen y camera. Dwi lot fwy cyfforddus tu ôl i ngitâr, a dyne lle dwi'n cuddio yn y rhan fwya o'r llunie yma. Mi oedd cael mynd un cam ymhellach a chuddio yn y booth bach yma wrth recordio yn trît hefyd - mi oedd o'n teimlo fel nyth bach clyd.
Gweithio gydag Ifan ac Osian yn broses 'reit sbeshal'

Ifan ac Osian o'r grŵp Candelas tu ôl i'r ddesg yn peiriannu a chynhyrchu'r sesiwn
Allai'm sôn am y broses o recordio'r ddwy gân yma heb roi mensh i Ifan ac Osian. Mae'n dipyn o gamp i fy ngwneud i deimlo'n gyfforddus wrth recordio, ac mi o'n i'n teimlo'n gartrefol braf hefo'r ddau.
Ma' nhw'n dallt ei gilydd heb orfod dweud gair, a dwi wastad yn gallu ymddiried yn y ddau i fy arwain i ar y trywydd iawn. Mi oedd hynny'n wir iawn ar gyfer O'r Ddwy Lan.
Nes i gyfieithu hon ryw ben haf 2023, a dwi 'di cymryd sbel i fynd i'r stiwdio i'w rhoi hi lawr. Fi'n bod yn fi, o'n i'n teimlo lot o bwysau i gael hon yn iawn.
Mae'n gân mor adnabyddus, sy'n meddwl gymaint i gymaint o bobl, ac mae'r vocals yn dipyn o her! Mae'n anodd gwybod sut i fynd ati i recordio cover - ti isho cynnig rhywbeth newydd, tra'n dangos parch at y fersiynau gwreiddiol.
Mi o'n i'n ffeindio'r broses o wneud penderfyniadau am sŵn hon yn dipyn o sialens. Mi aeth y tri ohonon ni am ginio ar y bwrdd picnic tu allan, a gwrando ar ddwy fersiwn amlycaf Joni Mitchell o'r gân - y recordiad hefo'r sain gitâr 70au cynnes, a'r trefniant cerddorfa ddaeth yn hwyrach 'mlaen.
A rhwng Ifan yn arwain ar sain y gitârs, ac Osian hefo'i drefniant cerddorfa hollol hollol arbennig ei hun, dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i dalu teyrnged i'r ddwy fersiwn yn ein ffordd fach ein hunain.
Mi ddaeth hi at ei gilydd mewn ffordd na fyswn i 'rioed 'di gallu ei ddychmygu ben fy hun, ac mi oedd cael mynd trwy'r broses yna hefo Ifan ac Osh reit sbeshal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi

- Cyhoeddwyd26 Awst

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
