'Damwain cwad wedi plygu fi fel taco, a doedd dim yswiriant digonol'

Dafydd Morris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dafydd Morris Jones ddamwain ddifrifol ar feic cwad ym mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr sy'n ffodus i fod yn fyw yn dilyn damwain yn ei waith yn rhybuddio bod angen i ffermwyr drefnu yswiriant rhag ofn na fyddant yn gallu gweithio.

Cafodd Dafydd Morris Jones o Bonterwyd yng Ngheredigion ddamwain ddifrifol ar feic cwad ym mis Mehefin gan dorri'i gefn a'i wddf.

Treuliodd bedwar mis yn yr ysbyty ac, er ei fod gartref erbyn hyn, ni fydd yn ôl yn ffermio am o leiaf flwyddyn arall.

Ag yntau'n sylweddoli nad oedd wedi "yswirio fy hunan yn ddigonol ar gyfer damweiniau", mae'n annog eraill i ddysgu o'i brofiadau.

Yn ôl un undeb yswiriant mae ffermwyr 20 gwaith yn fwy tebygol o gael damwain o'i gymharu â diwydiannau eraill.

Y beic wedi 'plygu fi yn hanner fel taco'

Trodd diwrnod arferol o waith ar fferm Tymawr ym Mhonterwyd ar 17 Mehefin yn hunllef i Dafydd Morris Jones, sy'n 43 oed ac yn dad i ddau o blant, pedair a chwech oed.

"Fe es i nôl dafad ar y beic cwad, pan 'naeth yr olwyn flaen lithro ar ddarn bach o redyn, wedyn cododd olwyn gefn y beic a 'nhaflu bant.

"Yn anffodus, gan bo' fi 'di mynd i gyfeiriad y llethr, fe wnaeth y beic fy nilyn i a chodi fy nhraed i lan a plygu fi yn hanner fel taco a torri 'nghefn i, fe glywes i hynna.

"Torres i ngwddw i hefyd."

Daeth Dafydd i stop yng nghanol y rhedyn, ac yntau wedi ei anafu'n ddifrifol ac wedi colli teimlad yn ei ddwy goes.

Yn ffodus, roedd ei fam gerllaw ac fe welodd y beic yn gwneud "cartwheels" i lawr y cae a chlywed Dafydd yn gweiddi am help.

Galwodd y gwasanaethau brys, a thra'n aros, fe wnaeth y ddau ddefnyddio y wybodaeth cymorth cyntaf oedd ganddyn nhw i gasglu a phacio y rhedyn o gwmpas ei gefn, a sefydlogi'r anaf.

Dafydd Morris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd yn dweud ei fod yn ysu i gael ffermio eto, ond bod cyfnod hir o wella o'i flaen

Cafodd Dafydd ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu'n cael triniaeth am dair wythnos a hanner heb allu symud, er mwyn ceisio sefydlogi a rhoi sgriws a rodiau lawr ei gefn.

Symud i ganolfan adfer Ysbyty Llandochau oedd nesaf i gael cymorth gan therapyddion er mwyn cerdded eto.

"Diolch byth, rwy' ar fy nhraed, ond oni bai am yr help a'r cyfnod maith yn yr ysbyty bydden i ddim cystal ag ydw i."

Ar ôl bron i bedwar mis o driniaeth, daeth adref ar 10 Hydref, ond mae'n dal i aros am lawdriniaeth ar ei wddf ac yn gwisgo brês.

arwydd tractor ar y ffordd

Wrth edrych yn ôl, mae Dafydd yn credu'n gryf y dylai pob ffermwr, oherwydd natur beryglus y gwaith ar brydiau, baratoi ar gyfer damweiniau a sut i ymateb yn synhwyrol petai'r gwaetha'n digwydd.

Mae'n teimlo fod gwersi i'w dysgu o'i brofiad. Collodd ei ffôn digwyddodd y damwain, a lwc oedd hi bod ei fam gerllaw.

Mae'n dweud bod angen teclynnau i helpu ffermwyr, fel wats "sy'n gallu rhybuddio y gwasanaethau brys a chysylltiadau agos fod damwain wedi digwydd".

Dydy Dafydd heb fedru gweithio ar y fferm ddefaid ers y ddamwain, ac nid yw'n debygol o allu gwneud am o leiaf blwyddyn arall.

Gwers arall, meddai, yw trefnu yswiriant addas: "Os yw damweiniau mynd i ddigwydd, mae'r gost o fethu gweithio a dadgolledu yn enfawr.

"Yn bersonol, nes i ddim yswirio fy hunan yn ddigonol ar gyfer damweiniau."

Yn ôl ystadegau'r gweithgor iechyd a diogelwch (HSE) peiriannau fferm yw prif achos marwolaethau a damweiniau difrifol ym myd amaeth.

Mae ystadegau diweddar yn dangos, ers 1 Ebrill eleni, mae 22 o bobl, gan gynnwys dau blentyn, wedi colli eu bywydau ar ffermydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Rhwng 2019 a 2023, roedd 24 o farwolaethau ar ffermydd Cymru, yn ôl HSE.

Yn ôl sefydliad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn gwella arferion diogelwch yn sylweddol, yn enwedig gyda pheiriannau.

Dywedodd llefarydd eu bod "am i ffermwyr gymryd pwyll a pharatoi o flaen llaw cyn dechrau - er enghraifft, gydag ATVs - edrych ar gyflwr y beic, y tywydd, y llwybr, ffôn symudol, gwisgo helmed a rhoi gwybod i rhywun ble maen nhw mynd a phryd fyddan nhw adre".

tractor ar fferm
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y gweithgor iechyd a diogelwch, peiriannau fferm yw prif achos marwolaethau a damweiniau difrifol ym myd amaeth.

Mae undebau amaethyddol hefyd yn annog ffermwyr i sicrhau bod yswiriant llawn, digonol ganddyn nhw.

Dywedodd Gwenno Davies, gweithredwr cyfrif gwasanaethau yswiriant FUW, mae ffermwyr "dros 20 gwaith fwy tebygol o brofi damwain angheuol mewn cymhariaeth ag unrhyw ddiwydiant arall - a thu ôl i'r ystadegau hyn mae teulu, ffrindiau a chymunedau gwledig sy'n galaru".

"Rhaid i ddiogelwch fferm fod ein hystyriaeth gyntaf – nid olaf."

Mae Aled Griffiths, asiant i gwmni NFU Mutual, yn cydnabod bod "yswiriant yn gallu bod yn ddrud, ond beth sy'n rhaid i bobl ystyried ydi beth ydi'r gost petai nhw'n cael damwain, faint ydi'r biliau sydd ganddyn nhw bob mis a phwy sy'n mynd i 'neud y gwaith y neu lle?"

"Yn anffodus, os ydi rhywun wedi tanyswirio, yna os oes damwain, os oes biliau... dim ond cyfran o'r gost fydd yn cael ei dalu, ac wrth gwrs, mae hynna'n gallu cael goblygiadau difrifol."

Ysu i ffermio eto

Yn ôl ar ei fferm, mae Dafydd Morris Jones yn dweud ei fod yn gwella ac yn cadw meddylfryd positif.

"Rwy' yn adfer. O gwmpas y tŷ, rwy' ar fy nhraed, gyda help ffyn, ac mae yna lwybr ar gyfer adfer gwell.

"Rwy' yn gobeithio bod 'nôl yn amaethu o fewn blwyddyn.

"Dwi ddim yn siwr os taw gobaith gwag yw hynna, ond mae yr angen, a'r ysfa i 'neud hynna, yn fy ngyrru i mlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig