Adroddiad: Mwy yn goroesi canser yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Meddygon yn archwilio pelydr-xFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y marwolaethau canser wedi gostwng dros gyfnod o 15 mlynedd, rhwng 1995-2009

Mae adroddiad newydd yn dangos fod nifer yr achosion o ganser yng Nghymru wedi parhau i gynyddu rhwng 1995 -2009, a hynny ar gyfer y rhan fwya' o fathau o ganser.

Ond mae nifer y marwolaethau o'r salwch wedi gostwng, gan arwain at oes hirach i gleifion.

Canser yng Nghymru 1995-2009: Adroddiad Cynhwysfawr, dolen allanol yw'r ymchwil mwya' manwl i'r nifer o bobl sy'n cael canser yng Nghymru.

Roedd nifer yr achosion a gafodd eu darganfod yn ystod y cyfnod o 15 mlynedd rhwng 1995-2009 yn dangos patrwm o gynnydd ar gyfer dynion a merched - 23% i ddynion ac 20% i ferched.

Ond o ystyried natur heneiddio poblogaeth Cymru, mae'r cynnydd yn 2.5% i ddynion a 10.0% i ferched, sydd llawer yn is na'r cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion newydd.

Mae gan ddyn, ar gyfartaledd, un siawns mewn saith o gael canser cyn cyrraedd 65 oed - gyda'r siawns yn cynyddu i un ymhob tri cyn 75 oed. Ond mae gan ddynes un siawns mewn chwech o gael yr afiechyd cyn ei phen-blwydd yn 65, a thri ymhob 10 o gael diagnosis cyn ei bod yn 75 oed.

Cau'r bwlch

Mae'r oed cyfartaledd ar gyfer diagnosis wedi parhau'n gyson dros y 15 mlynedd - 69 oed i ddynion a bron yn 68 oed i fenywod.

Mae nifer y marwolaethau canser yng Nghymru wedi dangos cynnydd a gostyngiad bychan mewn dynion a merched dros y 15 mlynedd.

Yn ôl yr adroddiad, mae dynion yn raddol yn cau'r bwlch gyda'r merched o ran goroesi cymharol dros gyfnod o flwyddyn - gyda'r ffigwr i ddynion yn cynyddu o 55.4% rhwng 1995-1999, i 67.2% yn 2005-2009.

Mae'r patrwm ar gyfer goroesi cymharol dros dair a phum mlynedd yn dangos gwelliannau tebyg.

Y math mwya' cyffredin o ganser ymhlith dynion dros y cyfnod rhwng 1995-2009 oedd canser y prostad. Ond tan 1998, canser yr ysgyfaint oedd y mwya' cyffredin.

Mae nifer yr achosion newydd wedi bron a dyblu dros 15 mlynedd (1263 achos yn 1995, 2496 yn 2008).

Canser y fron

Canser y fron oedd y mwya' cyffredin ymhlith merched, gan gyfri am dri o bob 10 achos yng Nghymru.

Mae un o bob 16 merch yn cael diagnosis canser y fron cyn ei phenblwydd yn 65, tra bod un ymhob 10 yn cael yr afiechyd cyn eu bod yn 75 oed.

Roedd yr adroddiad diwethaf gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn 2008 yn dangos cynnydd mewn achosion ymhlith dynion a merched.

Caiff yr ymchwil ei gyhoeddi bob tair blynedd ac mae'n rhoi manylion llawn am dros 20 math o ganser gwahanol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gostwng nifer yr achosion o ganser.

Maen nhw am weld mwy o fuddsoddi mewn addysgu pobl am bwysigrwydd byw bywyd iach a rhaglenni sgrinio.

Mae tua 120,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser heddiw.

Byw efo canser

Erbyn 2030 y disgwyl yw y bydd y ffigwr yna wedi bron a dyblu, yn ôl elusen Macmillan.

Mae triniaethau canser yn datblygu ac yn gwella bob dydd ond fe allai ehangder yr achosion barhau i gynyddu.

Fyddai hynny ddim yn achos pryder, gan y gallai fod o ganlyniad i bobl yn byw gyda'r canser a fyddai wedi eu lladd 10-15 mlynedd yn ôl.

Ond mae hefyd yn codi pwynt pwysig am y gofal y mae cleifion yn ei gael wrth wella o ganser.

Y pryder gan rai fel Macmillan yw bod yr agweddau sydd ddim yn glinigol yn ddigon o flaenoriaeth.

Fe fyddan nhw'n cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella'r sefyllfa dros y blynyddoedd nesa'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol