Lluniau: Ffair Aeaf 2025
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ffair Aeaf yn ei ôl, gyda miloedd yn heidio i ganolbarth Cymru i weld y gorau sydd gan fyd amaethyddol y genedl i'w gynnig.
Mae'r sioe'n cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod, 24 a 25 Tachwedd, a dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w gweld yn Llanelwedd ar ddydd Llun.

Cari a'i brawd bach Jac o Sanclêr yn Sir Gaerfyddin yn mwynhau ar y peirianwaith

Shân Cothi'n darlledu'n fyw o'r maes

Bronwen ar y chwith, a'i chwaer fach Lowri, wrth eu boddau'n bwyta brownies

Dydy'r tywydd byth rhy oer am hufen iâ, fel mae Elis o Benffordd-las yn ei brofi

Ychydig o'r cynyrch o safon uchel oedd i'w weld yn y ffair

Roedd digon o liw gan yr anifeiliaid, a'r perchnogion, ar y maes

Tomos o Drefor, Ynys Môn, yn paratoi gwartheg y fferm deuluol, gyda'i chwiorydd hŷn yn cadw llygad ar ei waith

Fel arfer, cneifio ydi'r atyniad yn y sied yma, ond yn ystod y Ffair Aeaf, adloniant cerddorol sy'n denu'r torfeydd

Elizabeth wedi dod o Drefynwy am y diwrnod ac wrth ei bodd efo'r arddangosfa flodau "hollol hyfryd"

Jax, sy'n ddwy flwydd oed o Lanelli, yn mwynhau rhoi mwytha' i'r ceffyl gwedd

Y beirniad yn craffu ar y defaid texel glas

Iestyn, sy'n chwe mlwydd oed ac o Aberpennar, yn arddangos moch fferm ei deulu

Y cyflwynydd Ifan Jones Evans yn darlledu tra bod y gwartheg yn cael eu harddangos

Tomi o Lanymddyfri yn ymddiddori yn y colomennod

Ceffylau gwedd yn mesur 19 llaw o uchder yn denu sylw wrth safle'r gof

Daeth dipyn o law mân erbyn diwedd y prynhawn, ond doedd y torfeydd ddim i'w weld yn poeni rhyw lawer, wedi diwrnod braf yn crwydro'r maes
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd
