Morgan yn cefnogi galwadau am ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia

Cafodd Nathan Gill ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner yn y carchar ddydd Gwener diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cefnogi galwadau am ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth Prydain ar ôl i Nathan Gill gael ei garcharu am lwgrwobrwyo.
Cafodd Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner yn y carchar yr wythnos diwethaf am dderbyn arian i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop ac ar deledu Wcráin.
Dywedodd Ms Morgan fod Senedd Cymru wedi'i "ddychryn" gan droseddau Gill, a sicrhaodd aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo i amddiffyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf rhag ymyrraeth dramor.
Roedd Gill, 52, o Ynys Môn, yn aelod o Senedd Cymru am gyfnod byr yn 2016 a 2017, yn ogystal â bod yn Aelod o Senedd Ewrop (ASE) o 2014 i 2020.
Roedd wedi ceisio yn aflwyddiannus i gael ei ailethol i'r Senedd yn etholiad 2021 fel arweinydd Reform UK yng Nghymru.
Nigel Farage yn gwrthod cynnal ymchwiliad ar ôl i Gill gael ei garcharu
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Nathan Gill yn 'hen hanes' meddai pennaeth polisi Reform
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd yr AS Ceidwadol Tom Giffard fod yr achos yn "ffiaidd", a dywedodd ei fod yn pryderu bod Reform UK "yn blaid nad yw'n cymryd hyn yn ddigon o ddifrif".
Gofynnodd a oedd y prif weinidog yn cefnogi galwadau am "ymchwiliad llawn a phriodol i ymyrraeth Rwsia mewn gwleidyddiaeth Brydeinig".
Atebodd Eluned Morgan: "Rwy'n credu bod achos i'w wneud dros hynny - ydw wir.
"Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, ac rwy'n credu bod hwn yn faes sy'n haeddu rhywfaint o ymchwiliad."
Dywedodd yr AS Llafur Alun Davies fod ymchwiliad eisoes wedi'i gynnal i ddylanwad Rwsia mewn gwleidyddiaeth: "Fe'i comisiynwyd gan Boris Johnson, a wrthododd ei gyhoeddi wedyn."
Galwodd ar y prif weinidog i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a gofyn iddo gael ei gyhoeddi.
Dywedodd Mr Davies ei fod wedi gofyn i Lywydd y Senedd, Elin Jones, am ymchwiliad i weld a ddefnyddiwyd unrhyw "adnoddau cyhoeddus yma i gefnogi gweithgareddau'r ased Rwsiaidd hwn".
Atebodd Ms Morgan: "Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei gymryd o ddifrif."
Nid yw Senedd Cymru wedi gwneud sylwadau ar yr achos eto. Dywedodd Heddlu'r Met yr wythnos diwethaf nad oedd unrhyw dystiolaeth o weithgarwch troseddol yn gysylltiedig ag amser Gill yn y Senedd.
Dywedodd Mick Antoniw, yr aelod Llafur sydd o dras Wcrainaidd, y dylai ymchwiliad Llywodraeth y DU edrych ar "y bobl sy'n gysylltiedig, a'r rhai sydd mewn gwirionedd yn ceisio dylanwadu ar ein prosesau democrataidd a'u tanseilio".
Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi cael sicrwydd gan Weinidog Diogelwch y DU, Dan Jarvis, y bydd tasglu a sefydlwyd i fynd i'r afael â bygythiadau ymyrraeth dramor mewn sefydliadau democrataidd "yn rhoi pwyslais cyfartal ar etholiad y Senedd".
Ychwanegodd yn ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru yn "gweithio'n agos gyda gwasanaethau diogelwch Llywodraeth y DU".