Cerddwr wedi marw ar ôl disgyn 150m ar Yr Wyddfa mewn tywydd drwg

dyn ifanc efo gwallt tywyll a sbectol yn edrych at y cameraFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Aravinth wedi bod yn cerdded hefo'i dad a'i chwaer ym mis Mai, cyn mentro tua'r copa ar ei ben ei hun.

  • Cyhoeddwyd

Bu farw cerddwr ar ôl disgyn dros 150m wrth ddringo'r Wyddfa ar ddiwrnod lle'r oedd tywydd gwael, clywodd cwest.

Roedd John Aravinth, 20 oed o Orllewin Sussex, wedi bod yn dringo'r mynydd gyda'i deulu ym mis Mai 2024, ond trodd ei dad a'i chwaer yn ôl oherwydd y tywydd.

Parhaodd Mr Aravinth ar y llwybr, ond yn ddiweddarach ffoniodd ei dad i ddweud ei fod ar goll ar y mynydd, clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon.

Fe dderbyniodd yr heddlu dwy alwad o ffôn symudol Mr Aravinth a ddaeth i ben yn gynnar.

Fe gafodd ei ddisgrifio fel "pryderus iawn" ar yr alwad wrth holi am wasanaeth achub mynydd, ac roedd sŵn gwynt sylweddol yn y cefndir.

Clywodd y cwest nad oedd yr heddlu wedi cael ateb wrth geisio cysylltu'n ôl.

Roedd dros 35 o bobl yn rhan o'r ymgais 18 awr o hyd i achub Mr Aravinth.

Cafodd y tywydd gwlyb, gwyntog a chymylog ar y diwrnod ei ddisgrifio fel "difrifol a pheryglus".

Dywedodd uwch-grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson ei fod "yn debygol ei fod wedi disgyn o ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion, neu ei fod wedi llithro yn yr amodau tywydd peryglus".

Cofnododd mai damwain oedd ei farwolaeth.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol