Yr Athro a'r awdur, Hazel Walford Davies, wedi marw

Hazel Walford DaviesFfynhonnell y llun, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hazel Walford Davies ei geni yn ardal Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin, yn Ionawr 1940

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Athro ac awdur, Hazel Walford Davies, wedi marw yn 85 oed.

Yn arbenigwr ar fyd y ddrama yng Nghymru, bu'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna'n Athro ym Mhrifysgol De Cymru.

Roedd yn awdur a golygydd ar sawl cyfrol nodedig, a hi oedd un o'r awdurdodau pennaf ar fywyd a gwaith Syr O M Edwards, gan ennill gwobr categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn yn 2021 am ei chofiant ohono.

Yn ôl ei mab, Jason Walford Davies, bydd yn cofio ei "hegni anhygoel, rhyfeddol, a'i brwdfrydedd dros bob dim mewn bywyd - nid dim ond yr elfen academaidd.

"Roedd hi'n byw bywyd i'r eithaf, yn llawn positifrwydd bob amser," meddai.

"Doedd hi ddim yn academydd tŵr ifori o gwbl. Roedd hi allan yno, yn berson pobl go iawn."

Dylanwad ar fyd y ddrama

Cafodd Hazel Walford Davies ei geni yn ardal Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin, yn Ionawr 1940 ac ar ôl cyfnod yn Ysgol y Gwendraeth, fe aeth ymlaen i dderbyn addysg bellach ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.

Daeth yn uwch-ddarlithydd yn adran y ddrama ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr 80au a'r 90au ac yna'n Athro ym Mhrifysgol De Cymru.

Treuliodd hefyd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.

Hazel Walford DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd hi'n berson pobl," meddai mab Hazel Walford Davies, Jason

Mae hi wedi bod yn aelod o sawl sefydliad - yn eu plith Cyngor Celfyddydau Cymru, bwrdd yr Academi Gymreig, bwrdd ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac yn gadeirydd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.

O 2006 hyd at 2011, bu'n gadeirydd bwrdd rheoli'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, ac fe gyflawnodd, gyda hynny, waith pwysig ar adeg sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Roedd yn Gymrawd er Anrhydedd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn gymrawd hefyd o'r Academi Gymreig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Fe'i hurddwyd yn aelod wisg wen o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

'Person pobl' a 'phwyllgora'

"Roedd hi'n berson pobl," meddai ei mab, Jason.

"Roedd hi fwyaf hapus, dwi'n meddwl, gyda phobl, naill ai'n fyfyrwyr - roedd hi wrth ei bodd gyda phobl ifanc - ac wrth gwrs, gyda'r ochr weinyddol yng Nghymru, hynny ydy, y pwyllgora.

"Roedd hi'n hoffi trafod gyda phobl, yr ymwneud â phobl."

"Be' sy 'di dod yn amlwg dros y dyddiau diwethaf oedd y dylanwad gafodd hi ar ei myfyrwyr.

"Mae 'na genedlaethau, nid jyst un genhedlaeth, ond cenedlaethau o fyfyrwyr drama, yn arbennig, yn Aberystwyth sy'n dweud ei bod hi'n ddylanwad enfawr ar eu gyrfaoedd nhw."

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar fyd y theatr yng Nghymru, gan gynnwys Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995).

Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O M Edwards ac fe enillodd O M: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards wobr categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Hwn yw'r cofiant llawn cyntaf i O M Edwards, a rhoir sylw manwl yn y gyfrol i'w yrfa ddisglair a'i "fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru", ac mae sylw hefyd i'w fywyd preifat.

Fe'i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O M Edwards yn 2020.

Yn ôl Jason Walford Davies, "hwn oedd ei magnum opus fel petai... hwn oedd hi wedi bod yn gweithio arno fe ar draws ei gyrfa.

"Fe wnaeth hi ei gyhoeddi pan roedd hi'n saff o fewn ei 80au felly roedd hwn yn gyflawniad mawr iddi."

Ychwanegodd: "Roedd hi'n berson amlochrog eithriadol, a'r hyn fydda' i'n cofio fydd fy nhad yn dweud 'allwn ni ddim bod yn drist achos roedd hi mor, mor llawen'."

Bu farw Hazel Walford Davies ar 21 Tachwedd, ac mae'n gadael ei gŵr, Walford a'i dau fab, Jason a Damian.