Ateb y Galw: Rhys Gwynfor

Rhys GwynforFfynhonnell y llun, FfotoNant
  • Cyhoeddwyd

Mae Rhys Gwynfor yn wyneb cyfarwydd fel cerddor a chyflwynydd teledu.

Wedi ei fagu yn ardal Y Bala, fe ddaeth i amlygrwydd gyntaf pan enillodd Cân i Gymru gyda Jessop a'r Sgweiri a'u cân Mynd i Gorwen efo Alys yn 2013. Mae o wedi rhyddhau nifer o senglau fel artist unigol ers hynny a chyflwyno Prynhawn Da ar S4C gyda'i bartner, y cyflwynydd a chantores, Lisa Angharad.

Gyda'i drac ddiweddaraf Synnwyr Cyffredin newydd gael ei ryddhau ar label Côsh, mae o rŵan yn ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Dwi'n meddwl mod i'n cofio cael fy mhwsio mewn pram o'n tŷ ni, Tŷ Newydd Rhos ym mhentre' Glanrafon i'r fferm drws nesa, Geufron Fach. Ma' rhaid mai hwnnw ydi'r atgof cynta' achos dwi ddim yn cofio bod mewn pram fel arall.

'Dio ddim yn atgof cynta' difyr iawn, sori.

Ma' genai atgofion lot difyrach (er enghraifft, damweiniau ceir neu pan nesi gyfarfod Charlotte Church [ddim yr un diwrnod] ond y cyntaf 'de chi isho felly dyma fo.

Oddi'n braf, o be' dwi'n cofio, os ydi hynny'n ei neud o'n ddifyrach?

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Glanrafon, y pentre' rhwng Corwen a'r Bala.

Fanno geshi'ng ngeni a'm magu hefo Mam a Dad a fy nwy chwaer, Catrin a Llio. Tydi Glanrafon ddim yn bentre' sy'n tynnu lot o sylw ato'i hun, o ddewis, felly dwi'n licio mynd yn groes i'r graen a thynnu sylw bob tro dwi'n cael cyfle.

Dyma bentref Huws y Geufron, D Tecwyn Lloyd ac Ifan y Fet. Mae o'n bentre' arbennig sy'n llawn o bobl arbennig.

Ma' 'ne garej yno, a chaffi chwedlonol sydd wedi cau erbyn hyn. Os oes rhywun sy'n darllen isho agor caffi cerwch i weld be' 'di hanes Caffi Glanrafon. Gewchi'm caffi gwell. Ma' 'ne far yno a phob dim! A digon o le am fwrdd pŵl. Neshi dreulio orie o'm mhlentyndod yng Nghaffi Glanrafon yn byta chips, yfed pop a chwarae pŵl hefo Elgan T'isa.

Corwen
Disgrifiad o’r llun,

Edrych tuag at Corwen, un o hoff ardaloedd Rhys Gwynfor

Heblaw am Glanrafon, Corwen a'r Bala, dyma 'chydig o honorable mentions, ddim mewn unrhyw drefn;

Hoff bentrefi - Y Sarnau, Llangian, Pen-bont Rhydybeddau.

Hoff drefi - Harlech, Aberystwyth, Caernarfon.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Dwy noson - curo Cân i Gymru yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn 2013 hefo llond llwyfan o'n ffrindie gore, yn ifanc ac yn ddiniwed ond hefo un bwriad sef i fwynhau ein hunen tra'n perfformio.

Yr ail, perfformio'r un gân hefo'r un criw o ffrindiau o flaen 11,000 o gynulleidfa yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, Boduan, 2023 yn gig Candelas, 10 mlynedd wedi'r perfformiad cyntaf.

Oddo'n ddathliad o'r gwaith caled a'r ymroddiad mae Candelas wedi ei roi i'w crefft ers eu dechreuad mewn ystafell ymarfer yn adran gerdd Ysgol y Berwyn, Y Bala yn y 2000au cynnar.

Mi oeddwn i yn yr ysgol hefo'r band ac wedi cael y pleser i weld y datblygiad yma o fand ysgol i dduwiau roc a rôl, ac wrth gwrs yr un ydi'r nod hyd heddiw - i fwynhau bob eiliad.

Candelas
Disgrifiad o’r llun,

O fand ysgol i 'dduwiau roc a rôl' - Candelas

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Hoff o gotiau.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Pan o'n i'n ifanc, clywed sŵn traed Siani, ein ci bach Jack Russell yn rhedeg fyny grishe yn y nos i ddod i gysgu ar fy ngwely i pan oddi'n ddigon hyderus fod pawb arall yn y tŷ wedi mynd i gysgu.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Sawl peth ac a'i ddim i dyrchu, ond os oes rhaid dewis un sydd ddim yn brifo'n ormodol - llithro i'r llawr mewn clybiau nos ar loriau dawnsio llaith.

Mae o wedi digwydd sawl tro, yn enwedig yn ystod y cyfnod helaeth o'm mywyd pan o'n i'n mynnu gwisgo Cuban heels drwy'r dydd, bob dydd.

Rhys GwynforFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwy diogel eistedd i lawr mewn Cuban heels i Rhys...

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

K-Pop Demon Hunters, What it Sounds Like - bob tro! Y ffilm Netflix sydd wedi cael ei chwarae tua 2,000 o weithie yn ein tŷ ni dros y misoedd dwytha. Lwcus bod o'n dda!

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes, ond dwi'm yn hapus i rannu. Felly mi a'i hefo amharodrwydd i rannu.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Mi wnai'r tri i'r diawl gan mod i mor ddiwylliedig.

Llyfr - Cyw Haul gen Twm Miall achos ei fod o mor cŵl, ffilm - Withnail and I, am ei fod o mor ddoniol a thrist, albwm - Croendenau gan Steve Eaves a'i Driawd - deuddeg cân na'i fyth flino eu clywed. Un bangar ar ôl y llall.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Richard Burton wrth y barFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Rhys wrth ei fodd yn y dafarn yma gyda Richard Burton, yma'n cael diod ym Mhont-rhyd-y-fen gyda'i dad, Richard Jenkins a'i frawd, Ifor

Freddie Mercury a Richard Burton.

Ma' genai ddiddordeb mawr yn y ddau, a dwi reit siwr bod gen y ddau ddiddordeb mawr yn Elizabeth Taylor. Swni'n licio isde yn ôl a gwrando i weld be' fase gen y ddau i'w ddeud wrth ei gilydd. Dwi'n dychmygu base' lot o'r sgwrs am emwaith drud.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Er mod i'n sgwennu cerddoriaeth tydw i ddim wir yn gallu chwarae offeryn. Dwi'n gwybod jesd abowt digon o gordiau ar y piano i sgwennu un cân y flwyddyn.

Os yde chi isho ysgrifennu cerddoriaeth ar y piano yn yr un modd, prynwch gopi o weithiau'r Beatles hefo cordiau gitâr uwch y nodau. 'Dio mond yn fater o gŵglo sut i chwarae'r cordiau ar y piano wedyn. Mae pob cord sydd ei angen i sgwennu cân bop yn y llyfr.

Sengl Synnwyr Cyffredin Rhys GwynforFfynhonnell y llun, Recordiau Côsh
Disgrifiad o’r llun,

Tydi diffyg hyfforddiant cerddorol Rhys heb ei rwystro rhag cyfansoddi, gan gynnwys ei sengl ddiweddaraf Synnwyr Cyffredin

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Be' dwi am ei neud ydi disgrifo'r dydd Sadwrn perffaith i fi… a jesd gobeithio ar y diwrnod fod neb am ddeud wrthai mai hwn ydi'r un ola'.

Lie-in.

Brecwest hwyr hefo'r teulu, sef Lisa fy mhartner a'r plant bach, Wini, Besi a Barti. Brecwest bach syml, bacyn ac wy 'di ffrio, darn o dost.

Mynd i'r ffair, rwbeth i'r plant ond ma'r oedolion yn ei fwynhau hefyd. Yn y gogledd - Ffair y Bala (os ydi hi'r amser iawn o'r flwyddyn) neu Rhyl. Yn y de - Ynys y Barri.

Cinio hwyr allan - dwi'm yn poeni'n ormodol lle ond rwbeth neis a lle cartrefol a phawb yn mwynhau.

Mynd adre, yn ddelfrydol ar drên a falle galw mewn parc ar y ffor' i chware am 'chydig.

Bath a gwely i'r plant a wedyn na'i goginio swper i ni a gwrando ar bodcast tra 'ma Lisa'n cael bath.

Byta swper hwyr wrth wylio ffilm hefo Lisa (na'i ddewis y ffilm).

Mynd i'r gwely'n hwyr a chysgu cwsg y cyfiawn (!).

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Rhys Gwynfor a'i deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu

Dwi'n un o'r bobl yne sy'n boen achos dwi'n casau cael tynnu fy llun ond yn falch iawn eu bod nhw wedi cael eu tynnu wedyn.

Ma' Lisa'n un o'r bobl yne sy'n dda iawn am dynnu lluniau, am gofnodi a'u rhoi nhw ar Instagram. Felly dwi'n dewis y llun dwytha o'r pump ohona ni fel teulu sydd ar gyfrif Instagram Lisa (fy hoff gyfrif Instagram achos dwi'n ymddangos reit aml - dilynwch hi ar @lisaangharad). Dyma ni'n pump ar ein gwyliau yr haf yma.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy nghath bach, Ffredi wnaeth adael y tŷ yn mis Tachwedd 2023 a ddaeth fyth yn ôl. Os ydio dal yn fyw swni'n licio gwbod ei fod o'n hapus, i le a'th o ac os ydio'n meddwl dod yn ôl rhywbryd achos mi ydwi'n chwilio amdana fo yn yr ardd gefn bob dydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig