Addysg uwch: Cynnig sefydliad newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd wedi cyhoeddi eu hymateb i'r ymgynghoriad ar strwythur y dyfodol ar gyfer addysg uwch gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn ymgynghoriad o fewn y brifysgol ymysg staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill, mae'r Brifysgol yn cynnig creu un brifysgol gwbl newydd yn Ne-Ddwyrain Cymru.
Maen nhw wedi gosod amod ar hyn, sef y bydd y sefydliad newydd yn cryfhau ymgais Casnewydd i gynnig mynediad ehangach, hybu cyfiawnder cymdeithasol a chreu adfywio economaidd.
Dywedodd y brifysgol yn glir na fyddent yn barod i ystyried strwythur fyddai'n gwanhau hyn, nac yn gwneud niwed i rôl addysg uwch o fewn ardal Gwent.
Difreintiedig
Daw dros hanner myfyrwyr Prifysgol Cymru, Casnewydd, o fewn ardal Gwent, a hi hefyd yw un o'r prifysgolion mwyaf llwyddiannus yng Nghymru wrth gynnig addysg i bobl o gefndiroedd difreintiedig.
Y weledigaeth sydd gan y brifysgol yw sefydliad fyddai'n rhannu gallu, sgiliau ac adnoddau drwy ddefnyddio technoleg a dysgu ar-lein, ac fe fyddai'r sefydliad mwy hefyd yn creu cyfleoedd newydd i gydweithio gyda byd busnes a chanolbwyntio ar sgiliau fyddai o fudd i'r economi.
Dywedodd Dr Peter Noyes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Casnewydd:
"Gydag ail-strwythuro addysg uwch yng Nghymru fe ddaw cyfle unwaith mewn bywyd, ac mae'n bwysig felly gwneud pethau'n iawn.
"Wrth nodi'r elfennau ar gyfer sefydliad gwirioneddol newydd, rydym yn cymryd safbwynt egwyddorol i ddyfodol addysg uwch yn Ne-Ddwyrain Cymru.
'Glaslun'
"Wrth gymeradwyo creu sefydliad newydd, mae'r corff llywodraethu wedi ei gwneud hi'n glir na fyddai gwanhau ein rôl bresennol yn y rhanbarth yn dderbyniol.
"Rydym felly wedi creu glaslun ar gyfer y sefydliad newydd a fydd yn parhau gyda'n cenhadaeth - cadw hunaniaeth Addysg Uwch yng Ngwent a chadw'r ddel orau i'n myfyrwyr a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
"Pan gyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eu cynigion ar gyfer ad-drefnu prifysgolion yn Ne-Ddwyrain Cymru, fe ddechreuodd proses yr ydym wedi defnyddio i greu rhywbeth newydd a chyffrous."
'Gwella profiad'
Ychwanegodd Dr Noyes y byddai'r brifysgol yn parhau i weithio gydag Undeb Y Myfyrwyr i ddatblygu'r cynlluniau, ac fe ddywedodd llywydd yr undeb yng Nghasnewydd, Pablo Riesco:
"Y flaenoriaeth i Undeb y Myfyrwyr yw gwella profiad pob myfyriwr yn y brifysgol.
"Dros y cyfnod heriol sydd o'n blaenau, bydd Undeb Myfyrwyr Casnewydd yn gweithio i sicrhau y bydd lles ein myfyrwyr a'u barn yn cael ei gadw dan sylw mewn unrhyw drafodaethau."