Matthew Rhys: Burton, hyder Cymreig a heriau newydd

Matthew Rhys yn ymarferion Playing BurtonFfynhonnell y llun, Myles Morillo
  • Cyhoeddwyd

Kevin Walker, Phillip Jennings, Perry Mason, ac yn fwyaf diweddar Nile Jarvis yng nghyfres The Beast in Me ar Netflix...

Dim ond rhai o'r cymeriadau mae Matthew Rhys wedi'u portreadu yw rhain. Ond eleni, fe gamodd yr actor o Gaerdydd ar y llwyfan i bortreadu un o actorion enwocaf Cymru – Richard Burton, a hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ei eni.

Dros ddeng diwrnod ym mis Tachwedd fe berfformiodd Matthew y sioe un dyn, Playing Burton, bymtheg o weithiau ar draws Cymru a hynny i adolygiadau clodiwiw.

Wrth siarad efo Ffion Dafis ar ôl perfformio yn Pontio, dywedodd yr actor:

"Fi 'ma am ddeg diwrnod. Man a man mynd amdani! Un peth oeddwn i a Michael Sheen wedi siarad amdano am y daith oedd ein bod ni wir yn gorfod mynd i'r Gogs, Canolbarth a'r Gorllewin, a wedyn ti'n gwybod, Abertawe a Caerdydd. O'n i eisiau gwneud pob un."

Matthew Rhys a Claire DanesFfynhonnell y llun, CHRIS SAUNDERS/NETFLIX
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Rhys gyda Claire Danes yn y gyfres Netflix newydd, The Beast in Me

Mae'r daith yn codi arian at waith yr actor, Michael Sheen, i sefydlu Welsh National Theatre, a dywedodd Matthew ei fod wedi teimlo dyhead i helpu mewn unrhyw ffordd.

"Ti'n edrych ar Yr Alban, Iwerddon, Cymru; pan mae unrhyw genedl yn mynd i gael dau gwmni theatr yn eu hieithoedd – yn y Saesneg ac yn iaith y genedl – falle yn trio am yr un arian, mae'n gallu mynd yn anodd. Ond dw i wir yn credu mae angen y ddau, heb os.

"Felly pan gollon nhw [National Theatre Wales] eu harian, o'n i'n meddwl 'pwy yw'r Llywodraeth i ddweud bod nhw'n cael bodoli?'"

Eglurodd mai dim ond un sgwrs gyda Michael Sheen gymerodd i'w argyhoeddi i helpu.

Roedd ganddo weledigaeth o Gymru drwy theatr, o ran y straeon i'w hadrodd, y llefydd i ymweld â nhw a'r talent i'w feithrin ac roedd Matthew'n cydweld. Ac o hynny ymlaen, gadawodd trên Playing Burton yr orsaf, fel petai.

Matthew Rhys fel Richard Burton yn Playing BurtonFfynhonnell y llun, myles morillo

Roedd ymgymryd â'r her o berfformio'r sioe un dyn yma fel "MOT" i'r actor meddai.

"Yn hunanol, o'n i eisiau her bersonol. O'n i eisiau rhywbeth i gadw fi lan yn y nos neu danio fflam yn fy mol."

Dydy Matthew ddim wedi perfformio ar lwyfan theatr ers 16 o flynyddoedd.

"Mae'n amser hir. Mae'n gyhyr hefyd. Mae yna gyhyrau corfforol fi wedi sylweddoli fi ddim 'di bod yn defnyddio – fy llais, fy nghorff fel offeryn. Mae lot o bethau dw i wedi anghofio o'n i'n arfer gwneud yn ddigon rhwydd.

"Mae hynna wedi bod yn her, ac yn tipyn bach o fraw hefyd! Ond mae ofn yn gallu hogi'r mîn."

Caryl Parry Jones, Matthew Rhys a Ffred Hayes yn nigwyddiad lansio Calon gan Cwmni Theatr yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Matthew gyda Ffred Hayes, enillydd Gwobr Matthew Rhys Yr Urdd, ar achlysur lansio 'Calon' gan gwmni Theatr yr Urdd

Mae'r ymateb i berfformiadau Matthew Rhys o Burton wedi bod yn arbennig, ond yw hynny wedi rhoi cyfle iddo ef ei hun ystyried beth mae Matthew Rhys yr actor yn ei olygu i gynulleidfaoedd Cymreig?

"Mae [yr ymateb] yn bopeth i fi. Fi 'di mynd cyhyd am amser mor hir yn byw mewn swigod yn yr Unol Daleithiau, neu teledu neu ffilm, a ddim wir yn cymryd e mewn.

"A mae'n cymryd rhywbeth fel hyn i ti ddod adre a 'neud e i'r bobl ti eisiau gwneud e fwyaf i ti sylweddoli, o ie, mae'n rhan o'r holl beth arall yma.

"Mae Michael [Sheen] yn dweud o hyd, mae'n rhaid i ni ddod gartre' nawr a mae'n bwysig bod ni'n gwneud."

Teimlo dyletswydd

"Dw i'n credu o'n i'n arfer brwydro gyda'r gair 'na o fewn ystyr Cymraeg o 'ddyletswydd'. O'n i'n arfer mynd 'oooch' rywfaint.

"Fi'n hen yn dod i'r casgliad mai dyma beth dylwn i fod yn gwneud.

"Oedd blynyddoedd maith ble o'n i'n dweud [yn gyndyn] 'ie, wna i fod yn llysgenad i'r Urdd, ie, wna i fod yn llysgenad i Into Film.' A wedyn fi 'di 'neud cyn lleied.

"Felly pan wy'n dod adre mae angen 'neud hi."

Richard BurtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2025 yn nodi 100 mlynedd ers geni'r actor o Bontrhydyfen

Yn ôl at Burton a Chymreictod y daw'r sgwrs unwaith yn rhagor, ac mae Matthew'n barod iawn i ddweud sut yr oedd Burton yn ysbrydoliaeth iddo fel actor Cymraeg.

"Roedd Burton yn Gymro i'r carn. Bron â bod gormod i ryw raddau. Ym mhob cytundeb ffilm doedd e byth yn gweithio ar Fawrth y cyntaf ac oedd e o hyd yn gwisgo sanau coch.

"Ond oedd 'na rhywbeth di-Gymraeg iawn, i fi, yn ei hyder. Achos fi'n credu ambell waith fel cenedl mae 'na ddiffyg ynddon ni fel pobl hyderus.

"Dyna un elfen fawr o'n i'n caru ynddo fe, Burton. Oedd e'n holl-ffyddiog o'i grefft, a'i dalent a'i le ym mhob cymdeithas neu ym mhob ardal o'i fywyd – theatr, sinema, beth bynnag – oedd e'n dweud 'mae mwy na hawl gyda fi fod fan hyn a wna i gymryd fy lle.'

"Wnaeth hwnna roi pob math o bethau i fi. Yn sicr roiodd e ffydd yn fy hunan. Fe ddangosodd y llwybr gan ddweud 'Reit, bois, dewch achos ni'n cael bod yma.'

"Fe oedd y cyntaf o'r arloeswyr i fynd a dweud, 'Reit, mae'r Cymry'n dod nawr'."

Gallwch glywed sgwrs gyfan Matthew Rhys gyda Ffion Dafis ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.