Seren yn codi llais ar ran gofalwyr ar sengl newydd Angels

Seren MarubbiFfynhonnell y llun, Seren Marubbi
Disgrifiad o’r llun,

Seren Marubbi

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gân Angels gan Robbie Williams yn gyfarwydd i nifer fawr ohonom ni o briodasau, disgos neu nosweithiau karaoke.

Ond mae fersiwn newydd o'r gân ar gyfer Nadolig 2025 gan gôr Home Care's Got Talent yn anelu i godi proffil gofalwyr cartref sy' fel arfer yn gweithio tu ôl i'r llen. Mae'r grŵp yn gobeithio bod yn Rhif Un yn y siartiau dros y Dolig.

Ac mae'r ofalwraig Seren Marubbi o Abergele yn un o'r wyth gofalwr sy'n canu ar y sengl ac yn disgrifio'r profiad fel gwireddu breuddwyd: "I rywun fel fi sy'n dod o dref fach yng Nghymru ond sydd â chefndir theatr gerdd, mae'n rhywbeth fydda i'n drysori am weddill fy mywyd.

"Mi fyddai'n meddwl y byd i gyrraedd Rhif Un yn y siartiau - nid yn unig i fi ond i'r gymuned ofal i gyd. Mae'r gân yn dathlu'r gwaith mae gofalwyr yn gwneud bob dydd a ti'n teimlo'r angerdd tu ôl iddi pan ni'n perfformio."

Côr Home Care's Got Talent yn recordio AngelsFfynhonnell y llun, Seren Marubbi
Disgrifiad o’r llun,

Côr Home Care's Got Talent yn recordio Angels

Ateb y galw

Yn lwcus iawn roedd teulu Seren wedi gweld yr hysbyseb am glyweliadau i fod yn rhan o'r recordiad gan ei hannog i roi cynnig iddi.

Roedd Seren, sy'n gweithio i grŵp gofal gymunedol Calon Lân, wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Home Care's Got Talent yn 2025 ac felly pan ddaeth cynnig i fynd i stiwdio Abbey Road yn Llundain i recordio'r sengl Nadolig, roedd hi'n falch iawn o'r cyfle: "Roedd yr holl beth yn teimlo fel teulu mawr, cefnogol yn dod at ei gilydd ar gyfer rhywbeth arbennig.

"Roedd hi wir yn anghredadwy. I glywed ein bod yn mynd i fod yn recordio yn stiwdios Abbey Road lle mae pobl fel The Beatles ac Amy Winehouse wedi recordio… roedd hi'n anhygoel.

"Fel perfformiwr mae wedi newid fy mywyd.

"Ac fel gofalwr mae'n teimlo fel cydnabyddiaeth – nid yn unig i fi ond i bob gofalwr sy'n gweithio mor galed tu ôl i'r llen."

Seren yn Abbey RoadFfynhonnell y llun, Seren Marubbi
Disgrifiad o’r llun,

Seren tu allan i stiwdios Abbey Road

Mae Seren wedi mwynhau canu ers yn blentyn bach a'r gobaith yw y bydd y sengl yma yn codi proffil gwaith gofalwyr cartref tra'n codi arian i elusen Gweithwyr Gofal.

Yn ymuno â'r côr ar y sengl mae'r cerddor o Bucks Fizz Jay Aston, seren Married at First Sight UK Matt Jameson a'r cerddor Kuill o The Voice UK.

Ac roedd clywed y gân ar y radio am y tro cyntaf yn brofiad arbennig i Seren: "Mi oeddwn i wedi clywed ychydig o'r gân ac wedi clywed fersiwn cynnar – i fod yn onest dwi wedi bod yn gwrando yn gyson!

"Ond roedd clywed y sengl yn cael ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf yn rhyfedd iawn. Yn sydyn iawn roedd yr holl beth yn teimlo'n real. Nid i fi yn unig ond i bawb yn y côr Home Care's Got Talent. Mae'n foment anhygoel i ni gyd."

Er fod Seren wedi astudio gradd mewn theatr gerdd mae'n teimlo ei bod wedi dod o hyd i'w galwedigaeth ym myd gofal: "Bob dydd dwi'n cefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi gyda beth bynnag maen nhw angen i fyw yn annibynnol.

"Mae'n rôl sy' mor werthfawr a llawn pwrpas. Ti'n adeiladu perthynas go iawn gyda'r bobl a dwi'n teimlo fel mod i'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl eraill.

"Mae'n gallu bod yn heriol ac mae bob diwrnod yn wahanol ond dwi'n hoff iawn o bobl ac mae hynny'n golygu fod y swydd yma'n teimlo fel yr un cywir i fi.

"Mae'r gwahaniaeth mae gofalwyr cartref yn gwneud i fywydau pobl yn anferth. Ni'n camu mewn i gartrefi pobl ac yn cynnig cysur, urddas a chyswllt.

"Mae gofalwyr cartref yn newid bywydau yn dawel bach ac yn aml heb unrhyw gydnabyddiaeth.

"Mae bod yn rhan o rywbeth sy'n dathlu nhw ac yn rhoi goleuni ar eu gwaith nhw yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn."

Nadolig

Mae Nadolig yn cynnig amser i fod gyda'r teulu i'r rhan fwyaf ohonom – ond mae'n brofiad gwahanol i nifer o ofalwyr, fel mae Seren yn ei esbonio: "I ofalwyr cartref mae Nadolig yn wahanol achos dyw gofal ddim yn oedi ar gyfer y gwyliau.

"Mae gofalwyr cartref yn parhau i weithio drwy'r cyfnod, yn gwneud yn siŵr fod y bobl maen nhw'n cefnogi yn cael gofal ac yn teimlo'n ddiogel.

"I nifer o gleientiaid, y gofalwr fydd yr unig berson fyddan nhw'n gweld ar Ddydd Nadolig.

"S'nam digon o gydnabyddiaeth i ofalwyr felly mae'r cyfle yma i recordio sengl yn teimlo fel rhoi llais iddynt o'r diwedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.