Oedi pedwar mis cyn gwahardd peiriannau sigaréts

  • Cyhoeddwyd
Peiriant sigarétsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd peiriannau sigaréts yn cael eu gwahardd yn Lloegr o ddydd Sadwrn

Cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu wedi iddi ddod i'r amlwg na fydd peiriannau sigaréts yn cael eu gwahardd yng Nghymru tan fis Chwefror 2012.

Bydd y gwaharddiad yn dod i rym yn Lloegr ddydd Sadwrn, Hydref 1.

Mae gweinidogion wedi cyflwyno rheolau yn y senedd, gan arwain at gyhuddiad o ddiogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i'r gwaharddiad, ond fod sialensiau cyfreithiol yn Lloegr wedi effeithio'r amserlen yng Nghymru.

Bydd y gwaharddiad yn dod i rym yng Nghymru ar Chwefror 1, 2012.

Bydd tafarndai, clybiau a thai bwyta yn Lloegr sy'n parhau i ddefnyddio peiriannau sigaréts ar ôl dydd Sadwrn yn wynebu dirwy o £2,500.

Ymchwil

Mae ymchwil yn dangos fod 10% o ysmygwyr rheolaidd rhwng 11 a 15 oed yn prynu sigaréts o beiriannau, o'i gymharu â 1% o ysmygwyr o bob oed.

Ym mis Tachwedd 2009, fe wnaeth adrannau safonau masnach yng Nghymru gyfres o brofion drwy ofyn i bobl ifanc dan oed brynu sigaréts o beiriannau. Roedd 59% yn llwyddiannus.

Yr amcangyfrif yw bod tua 3,000 o beiriannau sigaréts yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams:

"Mae'n fy ngwylltio i o weld Lloegr yn gwahardd prynu sigaréts o beiriannau ddydd Sadwrn tra bod Llywodraeth Cymru ond nawr yn cyflwyno rheolau i wneud hynny erbyn Chwefror nesaf.

Plant ifanc

"Mae ffigyrau'n profi fod plant ifanc yn prynu sigaréts yn haws o beiriannau, ond oherwydd dull diog Llywodraeth Cymru bydd rhaid i ni aros am bedwar mis cyn gweld gwaharddiad yma.

"Y cwestiwn sy'n codi o aneffeithlonrwydd Llywodraeth Cymru yw - faint o blant Cymru fydd yn dechrau ysmygu rhwng nawr a Chwefror nesaf?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn parhau o fod wedi ymrwymo i gyflwyno gwaharddiad ar werthu sigaréts o beiriannau."

Ychwanegodd: "Mae sialensiau cyfreithiol ar reolau tebyg yn Lloegr wedi cael effaith ar amseru rheolau Cymru gan olygu nad oedd dechrau ym mis Hydref yn realistig.

"Gan fod y sialensiau yna nawr ar ben, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau a fydd yn cael eu trafod yn y senedd ar Hydref 18 gyda'r bwriad o weithredu'r rheolau ar Chwefror 1, 2012."