£620,000 ar 'gamau cynaliadwy'

  • Cyhoeddwyd
y bydFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan brosiectau tan 12pm ar Dachwedd 4 2011 i ymgeisio

Mae rhaglen ariannu gwerth £620,000 wedi ei chyhoeddi yng Nghymru i helpu cymunedau i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd.

Mae'r rhaglen Camau Cynaliadwy yn anelu at gefnogi cymunedau ledled Cymru i leihau allyriadau carbon drwy ddatblygu sgiliau, newid ymddygiad pobl a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach.

Bwriad y rhaglen yw helpu cymunedau i ymateb i newid hinsawdd drwy ariannu prosiect unigol a fydd yn cyflwyno cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth fentora ar newid hinsawdd ar gyfer grwpiau cymunedol.

Camau Cynaliadwy yw'r rhaglen ariannu 'Cyfrifon Cwsg' gyntaf i'w lansio yng Nghymru.

Daw'r arian o gyfrifon banc ar draws y DU sydd wedi bod yn segur ers 15 mlynedd neu fwy.

Mae'r ffordd y mae'r Gronfa Loteri yn gwario'r arian hyn wedi cael ei benderfynu gan gyfarwyddiadau polisi a roddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr gan Lywodraeth Cymru.

'Bygythiad difrifol'

"Fel y mae'r Strategaeth Newid Hinsawdd dros Gymru wedi'i hamlygu, mae gan Lywodraeth Cymru a phawb yng Nghymru rôl glir wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd," meddai Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths.

"Bydd y gronfa yn ein galluogi i fuddsoddi swm sylweddol i ganolbwyntio ar feysydd rydym wedi'u blaenoriaethu, yn seiliedig ar y dystiolaeth rydym wedi'i chasglu.

"Heb ei atal, mae newid hinsawdd yn un o'r bygythiadau mwyaf difrifol a wynebir gan y byd gan ei fod yn bygwth elfennau sylfaenol bywyd megis mynediad i ddŵr, bwyd, iechyd a defnyddio tir.

"Po gyflymaf y mae Cymru'n dechrau paratoi ar gyfer effaith newid hinsawdd, parotach y byddwn i ymdopi â hinsawdd sy'n newid. Mae llawer o gymunedau eisoes yn gweithredu, a bydd y rhaglen hon yn helpu eraill i ddysgu o'u henghraifft."

'Ymgynghori'n helaeth'

Yn ôl Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose, fe wnaethon nhw ymgynghori'n helaeth gyda mudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol ar ddatblygu'r rhaglen.

"Rydym am ariannu prosiect unigol a fydd yn ychwanegol at wasanaethau cyfredol neu gynlluniedig ac yn gweddu iddyn nhw.

"Rydym am roi gwybodaeth, sgiliau a galluoedd gwell i gymunedau er mwyn eu galluogi i weithredu i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd, cynyddu gwydnwch wrth wynebu newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy".

Mae nodiadau arweiniad a ffurflenni ymgeisio ar gyfer Camau Cynaliadwy ar gael i'w lawr lwytho o wefan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae gan brosiectau tan 12pm, dydd Gwener Tachwedd 4 2011 i ymgeisio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol