Annog yr henoed i gadw'n brysur
- Cyhoeddwyd
Mae llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad i nodi Dydd Pobl Hŷn y DU heddiw.
Thema'r diwrnod yw parhau i symud ac i fwynhau bywyd.
Wrth i'r boblogaeth heneiddio mae iechyd pobl hŷn yn dod fwyfwy i'r amlwg.
Yr amcangyfrif yw y bydd tair miliwn a hanner o bobl Prydain dros 85 oed erbyn y flwyddyn 2034, sydd ddwywaith a hanner yn fwy nag yn 2009.
Peidio tanbrisio
Mae'r nifer ohonom sy'n cyrraedd y cant wedi treblu dros chwarter canrif.
Erbyn 2020 mi fydd hanner ein poblogaeth dros hanner cant oed.
Yn ôl cwmni Bluebird Care, sy'n darparu gofal yn y cartref i bobl hŷn ac anabl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, dylid peidio tanbrisio gwerth gweithgareddau rheolaidd.
Dywedodd cyfarwyddwr gofal Bluebrid Care, Huw Owen: "Nid sôn am bethau chwyslyd a llawn ymdrech ydyn ni yma ond yn hytrach cadw mor brysur â phosib, yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn gorfforol, a mwynhau'r hyn sydd gan fywyd i'w gynnig.
"Wrth i ni heneiddio, mae'n mor bwysig inni gynnal ein diddordeb mewn pethau ac i aros mor heini ag y mae ein hiechyd yn ei ganiatáu."
Yn ôl Mr Owen, mae pethau pob dydd fel tynnu llwch, smwddio a thacluso yn ffordd dda iawn o gadw'n heini.
"Mae mwyafrif y bobl rydym yn gofalu amdanyn nhw rhwng 65 a 96 oed," meddai Mr Owen.
"Mae'r anghenion yn amrywio o ofal trigfannol 24 awr, i bicio draw am bymtheg munud y dydd, neu daith i glwb cymdeithasol.
"Bob dydd rydym yn gweld yr amrywiaeth eang o anghenion iechyd a lles sydd gan bobl hŷn.
"Mae ein gweithwyr hefyd yn sylwi effaith cadw'n actif ar hwyliau ac ar y parodrwydd i wneud pethau. Mae pobl brysur yn ymddangos yn hapusach, gyda digon o egni a hwyl i gynnal gweithgareddau a diddordebau."
Ychwanegodd Mr Owen fod yna wahaniaeth rhwng annog, a chymryd rheolaeth o'r sefyllfa heb wahoddiad.
"Mae llawer o bobl hŷn yn galw arnom ni oherwydd eu bod yn cael trafferth gyda phethau fel gwisgo, gwaith tŷ a choginio, er eu bod nhw'n byw yn eu cartrefi eu hunain ac yn eithaf annibynnol," meddai.