Y syniad o golli car yn sgil y gyllideb yn 'frawychus' i bobl anabl

Dynes yn gwisgo siaced du a sbectol haul yn dringo allan o car mewn lleoliad gwledig
  • Cyhoeddwyd

Enw car Vicki Hoban ydy Indy gan ei fod mor allweddol i'w bywyd annibynnol.

Mae'r Vauxhall Mokka du, a gafodd hi ar les (lease) drwy gynllun Motability, yn golygu y gall yrru'r 15 munud o'i chartref yn Nhrefynwy i fferm gyfagos i weithio gyda cheffylau - taith a fyddai'n amhosib ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae cynllun Motability ar gael trwy'r system budd-daliadau ac yn talu am gerbydau i bobl anabl cymwys.

Mae Vicky yn poeni y bydd newid i'r cynllun yn y gyllideb ddydd Mercher.

"Byddai colli'r car fel colli braich neu goes," meddai, "mae'r car yn rhoi modd i mi ofalu amdanaf fy hun."

Ond gyda nifer y cwsmeriaid yn 860,000 ar draws y DU a honiadau bod rhai yn "cam-drin" y cynllun, mae llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ystyried gwneud y system yn "decach".

Person mewn siaced amlwg yn dal ceffyl brown gyda llusern wen y tu mewn i stabl.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael teithio mewn car i weithio gyda cheffylau yn gymorth mawr i Vicki Hoban

Mae gan Vicki Hoban anghenion iechyd cymhleth - awtistiaeth, ADHD a Syndrom Ehlers-Danlos.

Mae Ehlers-Danlos yn gyflwr cymharol brin sy'n effeithio ar gymalau'r corff.

Cafodd ei char ei lesio iddi drwy'r cynllun Motability gan ei bod yn gymwys ar gyfer elfen o'r lwfans Taliadau Annibynnol Personol sy'n ymwneud â thrafferth i symud.

Mae'r budd-dal yn cael ei drosglwyddo i Motability i dalu am gost y brydles, yswiriant ac unrhyw addasiadau ac felly y cyfan sy'n rhaid talu amdano yw tanwydd.

"Mae'n beth rhyfeddol, a dweud y gwir," meddai Vicki. "Rwy'n gwybod na fyddwn i allan yma yn siarad â chi heddiw heb fy nghar Motability."

Dywed Vicki fod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hynod o anodd i bobl yn ei sefyllfa hi a bod y car yn golygu y gall fynd i apwyntiadau ysbyty a bod yn rhan o'i chymuned.

Mae'r car hefyd yn galluogi Vicki i weithio gyda cheffylau ar y fferm leol ac mae hynny'n "golygu fod fy iechyd corfforol yn llawer gwell na phe bawn i'n y tŷ", meddai.

Mae cynllun Motability, sy'n cael ei redeg gan gwmni preifat a'i oruchwylio gan sefydliad elusennol wedi ennyn beirniadaeth wrth i 200,000 yn fwy o gwsmeriaid elwa ohono yn y pum mlynedd diwethaf - mae 60,000 o'r rhai sy'n rhan o'r cynllun yn byw yng Nghymru.

Mae adroddiadau bod y Canghellor Rachel Reeves yn ystyried dileu eithriad sydd, ar hyn o bryd, yn golygu nad oes yn rhaid i geir sy'n cael eu prydlesu dalu TAW na threth premiwm yswiriant.

Roedd yna gwynion hefyd bod cerbydau hyd at werth £45,000 (£55,000 ar gyfer ceir trydan) yn cael eu prydlesu drwy'r cynllun ond nos Lun fe gyhoeddodd Motability na fyddai'r brandiau drud ar gael mwyach.

Derrick Farr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Derrick Farr, 70, yn dweud y byddai trethu'r cynllun yn cosbi y rhai sydd angen cymorth

Cafodd Derrick Farr, 70, ei gar cyntaf drwy'r cynllun yn 2012 ar ôl damwain ddifrifol. Dair blynedd yn ôl collodd y tad-cu o'r Barri un o'i goesau, gan olygu fod y cynllun wedi dod yn bwysicach fyth iddo.

"Syniad cerbyd Motability yw eich helpu i symud o gwmpas a chael ychydig o annibyniaeth ac mae'n gwneud hynny," meddai.

Byddai cyrraedd apwyntiadau ysbyty yn costio £30 neu £40 iddo mewn tacsi, neu ddwy awr a mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, "felly heb [y car] byddwn ar goll".

Er hynny mae'n cytuno â galwadau i gyfyngu ar bwy all gael mynediad i'r cynllun, a pha geir sydd ar gael.

"Mae yna bobl wirioneddol yn y wlad hon sydd ei angen, ac mae yna bobl nad oes arnyn nhw ei angen.

"Dyna pam fod ganddyn nhw fil les mor fawr," mae'n honni.

"Pam mae pobl yn teimlo'r angen i gael y Vauxhall Grandland [SUV] gyda'r holl opsiynau ychwanegol ynddo? Yn syml, maen nhw i fod i fynd â chi o A i B ac yn ôl eto."

Ond mae'n dweud byddai trethu'r cynllun yn niweidio'r bobl sydd angen cymorth fwyaf.

"Yr hyn maen nhw'n ei wneud yw targedu y bobl sy'n methu ymladd yn ôl. Dyna'r drafferth."

Elliot Keck o Gynghrair y TrethdalwyrFfynhonnell y llun, Cynghrair y Trethdalwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r Canghellor weithredu, medd Elliot Keck o Gynghrair y Trethdalwyr

Ond mae Elliot Keck o Gynghrair y Trethdalwyr am i'r Canghellor fynd ymhellach.

Mae'r grŵp ymgyrchu sy'n lobïo am drethi is a gwladwriaeth lai am i'r llywodraeth gyfyngu ar bwy sy'n gymwys i'r rhai sydd â chyflyrau corfforol yn unig yn hytrach na chyflyrau niwrolegol neu salwch meddwl.

Mae'n dweud y byddai hynny yn caniatáu iddynt gadw'r cynllun fel y mae ar gyfer pobl "gyda chyflyrau anabledd difrifol iawn".

Mae hefyd yn honni bod y nifer fechan o geir Motability sydd angen eu haddasu yn dangos nad yw nifer sylweddol o bobl sy'n defnyddio'r cynllun "mewn gwirionedd angen y car hwnnw'n benodol".

Mae ymgyrchwyr fel Kat Watkins o Anabledd Cymru yn dweud bod y cynllun yn gwbl angenrheidiol
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr fel Kat Watkins o Anabledd Cymru yn dweud bod y cynllun yn gwbl angenrheidiol

Mae ymgyrchwyr fel Kat Watkins o Anabledd Cymru yn gwrthwynebu sylwadau o'r fath.

"I gael Motability mae angen cael PIP ac mae cael PIP yn gymhleth iawn," meddai.

"Rhaid mynd trwy asesiadau, pethau fel hynny, ac yna dim ond os ydych chi'n cael y gyfradd uchaf y byddwch yn gymwys i gael car, sy'n golygu bod angen y car hwnnw arnoch chi.

"Mae'r cyfryngau yn honni y gall pobl gyda ADHD [a chyflyrau niwrolegol eraill neu salwch meddwl] ei gael yn hawdd, ond mae'r person hwnnw sydd ag ADHD wrth gwrs angen hynny am reswm, nid jyst oherwydd ei fod eisiau car newydd bob tair blynedd."

Mae'n dweud bod y sibrydion am newid yn peri pryder.

"Bydd cymaint o bobl anabl yn fwy unig os fyddan nhw bellach ddim yn gymwys.

"Gallwch chi'm ynysu cymdeithas yn y modd yma. Mae pobl anabl eisoes yn teimlo fel dinasyddion eilradd. Byddwch chi'n trin mwy o bobl anabl fel dinasyddion eilradd a thrydydd dosbarth.

"Dyw hynny'm yn iawn.

"Mae'r llywodraeth yn pwysleisio cael mwy o bobl anabl i mewn i waith.

"Ond sut mae gwneud hynny pan nad oes ganddyn nhw ffordd gorfforol o gyrraedd y gwaith?"

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau sydd yn gyfrifol am PIP nad oeddent am wneud sylw cyn y gyllideb ond bod "Motability yn gynllun annibynnol, yn cael ei dalu o daliadau budd-dal presennol pobl.

"Fel llywodraeth sydd wedi ymrwymo i reoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud y cynllun yn decach," medd llefarydd.

Pynciau cysylltiedig