Dal gyrrwr wnaeth ffoi o wrthdrawiad ar ôl canfod DNA ar fag aer

Fe wnaeth Jamie Challis gyfaddef achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn a wnaeth ffoi o safle gwrthdrawiad ffordd ag yntau wedi ei wahardd rhag gyrru ei ddal ar ôl i'r heddlu ganfod DNA ar fag aer y cerbyd.
Roedd Jamie Challis, 24 wedi gwadu mai ef oedd wedi bod yn gyrru'r Volkswagen Polo ar gyflymder o hyd at 70mya cyn y gwrthdrawiad â char a pholyn lamp.
Cafodd teithiwr 22 oed yng nghefn y car ei daflu o'r cerbyd tra bod dynes hefyd wedi ei hanafu yn y digwyddiad yng Nghasnewydd.
Yn ystod ymchwiliadau'r heddlu, a gafodd eu ffilmio ar gyfer cyfres deledu Crash Detectives, daeth i'r amlwg fod Challis wedi rhedeg o safle'r gwrthdrawiad yn hytrach na helpu'r rhai oedd wedi eu hanafu.
Cafodd Challis ei garcharu am bron i 20 mlynedd ar ôl i brofion DNA ei gysylltu â'r gwrthdrawiad yn ogystal â gorchudd wyneb gafodd ei wisgo mewn lladrad pum mis ynghynt.
Gyrrwr lorri wedi beio pwl o dagu am achosi damwain angheuol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
Gyrrwr 130mya a darodd weithiwr ffordd wedi'i ddal gan gamera cloch tŷ
- Cyhoeddwyd8 Hydref
Camgymeriad 'trychinebus' wedi arwain at farwolaeth athletwraig
- Cyhoeddwyd14 Hydref
Daeth ymchwilwyr fforensig o Heddlu Gwent i'r casgliad fod Challis wedi colli rheolaeth o'r car wrth deithio rownd cornel ar gyflymder mewn parth 30mya ym mis Mai 2022.
Fe darodd car Citroën C3 oedd yn teithio tuag ato cyn gyrru ar ben palmant a tharo polyn lamp.
Gyda gweithwyr iechyd yn trin y dyn a dynes oedd wedi eu hanafu ar ochr y ffordd, dywedodd y dyn oedd yn teithio yn sêt flaen y car nad oedd yn adnabod y gyrrwr.
Ond roedd llygaid dyst wedi gweld dyn tenau gyda gwallt tywyll yn gadael y cerbyd cyn ffoi o'r lleoliad.
Drwy ddefnyddio lluniau camerâu cylch cyfyng roedd modd i swyddogion wylio'r dyn yn ffoi, ac fe lwyddon nhw i gysylltu'r cerbyd gyda thafarn yr oedd y grŵp wedi bod ynddi yn yr oriau cyn y gwrthdrawiad.

Swyddogion heddlu yn ymchwilio safle'r gwrthdrawiad wedi'r digwyddiad
Defnyddiodd swyddogion system arbenigol i gasglu data o'r car fyddai'n rhoi syniad o gyflymder, lleoliad y pedalau a'r olwyn yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Dangosodd y wybodaeth hynny fod Challis wedi cyflymu o 67mya i 70mya cyn troi'r olwyn yn sydyn i'r chwith ac yna i'r dde wrth iddo golli rheolaeth.
Cafodd y brêcs eu defnyddio ar y pwynt pan darodd yn erbyn y car arall - a oedd wedi gweld Challis yn dod amdano, ond yr oll allai wneud oedd symud i'r ochr ac aros iddo ei daro.
Cafodd gyrrwr y Citroën C3 fân anafiadau yn y digwyddiad.

Cafodd DNA Challis ei ganfod ar fag aer wrth sêt y gyrrwr
Pan gafodd Challis ei arestio fe wnaeth o gydnabod ei fod yn y car ond roedd yn gwadu mai ef oedd yn gyrru.
Ond roedd profion DNA yn profi fod Challis wedi cyffwrdd â'r bag aer ar ddrws y gyrrwr adeg y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth y profion DNA hynny gysylltu Challis gydag achos o ladrata treisgar ym mis Ionawr 2022 pan gafodd teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu bygwth yn eu cartref gan dri dyn gyda chyllyll.
Wrth i'r dynion ffoi o'r lladrad fe wnaeth un ohonynt ollwng gorchudd wyneb - roedd DNA Challis hefyd ar yr eitem honno.
Fe blediodd yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus yn ogystal â byrgleriaeth, gyrru pan oedd wedi'i wahardd, gyrru yn beryglus a bod a chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Ychwanegodd y barnwr bum mlynedd i'w ddedfryd gan ei ystyried fel troseddwr peryglus - a chafodd ei garcharu am gyfanswm o bron i 20 mlynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.