Comisiynwyr cyngor yn ystyried adroddiad gwelliant
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y comisiynwyr sy'n rhedeg Cyngor Sir Ynys Môn yn ystyried a oes yna welliannau wedi bod yng ngwaith yr Awdurdod.
Cychwynnodd y comisiynwyr ar eu gwaith ym mis Mawrth ar ôl cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru.
Mae adroddiad a fydd yn cael ei drafod ddydd Llun wedi bod yn edrych ar berfformiad pob rhan o waith y cyngor.
Daeth y comisiynwyr i reoli'r cyngor ar ôl cyfres o fethiannau.
Mae'r adroddiad 79 tudalen yn edrych yn fanwl ar holl wasanaethau'r cyngor.
Fe fydd yn tanlinellu bod addysg, gwasanaeth mabwysiadu, ailgylchu a chasglu gwastraff yn gwneud yn dda.
Ond mae'n nodi problemau yn y gwasanaeth tai, llyfrgelloedd a chynllunio.
Gwaith y comisiynwyr, sy'n cynnwys cyn arweinydd Cyngor Sir y Fflint Alex Aldridge; cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerdydd Byron Davies a chyn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Mick Giannasi, yw gweithredu rhaglen gafodd ei baratoi gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni.
Arian i'r cyngor
Mae'r adroddiad yn nodi "pryder gwirioneddol am y tueddiad bod yna leihad o dan 40% ym mherfformiad yr awdurdod yn y flwyddyn flaenorol".
Mae'r mesuriadau yma yn effeithio ar yr arian sy'n cael ei glustnodi i'r cyngor o'r coffrau ariannol sydd dros £700 miliwn.
Y gwasanaeth addysg gafodd y marciau mwya ac mae'n gwneud yn dda.
Ym mis Awst dywedodd y comisiynwyr bod 'na dipyn o waith i'w wneud o hyd yn y cyngor.
Yn ôl yr adroddiad ar y tri mis cyntaf, roedd 'na gynnydd wedi bod mewn rhai meysydd ond bod angen gwella cynllunio busnes a chyllid.
Ar y pryd dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, nad oedd wedi ei synnu bod 'na fethiannau wedi eu canfod.
"Nid wyf wedi synnu clywed bod rhai gwendidau wedi eu darganfod yng nghanol corfforaethol y Cyngor a rhai gwasanaethau.
"Rwyf yn bryderus ers peth amser y byddai arweiniad gwleidyddol gwael yn tanseilio darpariaeth gwasanaethau, ac mae adroddiad y Comisiynwyr yn cadarnhau hynny.
"Y dasg allweddol nawr yw datrys y gwendidau yma mewn modd effeithiol a chynaliadwy."