Beirniadu diffyg trosolwg o ymchwiliadau diogelu ysgolion

Does dim trosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu mewn ysgolion wedi bod ers 2018 meddai'r llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw drosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu mewn ysgolion wedi bod ers 2018.
Mae arbenigwyr blaenllaw ar ddiogelu plant a'r Comisiynydd Plant wedi beirniadu'r cyfaddefiad wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen i gyrff llywodraethu ysgolion benodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau o niwed a gaiff ei achosi i ddisgybl cofrestredig", ac y bydden nhw'n "adolygu'r gofynion o ran ymchwiliadau annibynnol yn fuan".
Fe ddaw hyn ychydig ddiwrnodau cyn y mae disgwyl cyhoeddiad adolygiad ymarfer plant i'r pedoffeil a chyn-bennaeth Neil Foden, ddydd Mawrth nesaf.
Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Cyngor yn dal i ddisgwyl am eglurhad dros ohirio adroddiad Neil Foden
- Cyhoeddwyd2 Hydref
Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig ar y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd24 Medi
Neil Foden yn cael ei garcharu am 17 mlynedd
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
Yn 2006 sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Gwasanaeth Archwilio Annibynnol (GAA) yn dilyn cyhoeddi adroddiad Clywch, oedd yn ymchwilio i droseddau'r athro a'r pedoffeil John Owen yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Roedd y GAA yn ariannu ymchwiliadau annibynnol i achosion diogelu plant yn ymwneud â staff mewn ysgolion yng Nghymru.
Cafodd y drefn ei diddymu yn dilyn adolygiad contract yn 2018.
O ganlyniad, cafodd y cyfrifoldeb i gynnal ac ariannu ymchwiliadau o'r fath ei drosglwyddo i lywodraethwyr ysgol ac awdurdodau lleol.

Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr cael "casgliadau heb fod yna fecanwaith cadarn i'r argymhellion gael eu gweithredu", meddai'r Comisiynydd Plant
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, bod yna achosion wedi bod lle cafodd ymchwiliadau annibynnol eu comisiynu gan awdurdodau lleol, gyda chrynodeb yn unig yn cael ei rannu â'r Comisiynydd yn hytrach na'r adroddiad llawn.
"Fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw does 'na ddim rheidrwydd i awdurdodau gyhoeddi na rhannu gydag unrhyw un arall yr… adroddiadau, a chafodd eu cyflwyno mewn ymateb i'r ymchwiliad Clywch," meddai.
"Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i gael ymchwiliadau a chasgliadau heb fod yna fecanwaith cadarn i'r argymhellion gael eu gweithredu a'u monitro a bod yna broses lle gall yr argymhellion yma gael eu hystyried yn genedlaethol gan eraill."

Mae Helen Mary Jones yn cwestiynu "pwy yn union sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu?"
Roedd Helen Mary Jones yn Aelod o'r Cynulliad pan gafodd adroddiad Clywch ei gyhoeddi, ac mae hi nawr yn arbenigwr ar ddiogelu plant yng Nghymru.
"Unwaith mae'r adroddiadau yma'n bodoli, pwy yn union sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu a phwy sy'n atebol os nad ydyn nhw yn cael eu gweithredu?" gofynnodd.
"Mae'n rhaid i weinidogion [Llywodraeth Cymru] sicrhau eu hunain bod 'na weithrediadau wedi digwydd pan mae pethau'n mynd o'i le.
"Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gyfrifol."
'Bydd y problemau yn codi unwaith yn rhagor'
Bu'r Athro Syr Malcolm Evans, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, yn aelod o'r Panel Statudol i'r Ymchwiliad i Drais Rhywiol yn erbyn Plant yng Nghymru a Lloegr (IICSA).
Dywedodd bod cael gwared â throsolwg cenedlaethol, sydd wedi bod mewn lle ers 2018, yn golygu bod materion diogelu yn fwy tebygol o godi.
"Os yw'r lefelau o oruchwyliaeth yn cael eu torri nôl dros gyfnod o amser o'r lefelau gwreiddiol, yn anffodus, mae'n wir ym mron bob achos, y bydd y problemau yn codi unwaith yn rhagor.
"Felly, gallech chi ddadlau ei bod hi'n rhagweladwy y bydd achosion o'r fath yn fwy tebygol o godi yn absenoldeb y fath fecanweithiau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol, benodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau o niwed a gaiff ei achosi i ddisgybl cofrestredig.
"Byddwn yn adolygu'r gofynion o ran ymchwiliadau annibynnol yn fuan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.