Dyluniadau cwmni o Gaernarfon 'yn dal i gael eu copïo a'u gwerthu ar-lein'

Mae Anwen Williams wedi gweld ei syniadau yn cael eu copïo a'u gwerthu ar wefan Temu heb ganiatâd
- Cyhoeddwyd
Mae'r platfform siopa ar-lein Temu wedi cytuno i weithio gyda dylunwyr a chwmnïau cardiau cyfarch i gael gwared â dyluniadau sydd wedi'u copïo, ac sydd ar werth ar y wefan yn gynt.
Mae cwmnïau cardiau wedi dweud bod cannoedd o'u delweddau sydd â hawlfraint wedi cael eu defnyddio i greu nwyddau rhad, a bod hynny yn costio miloedd o bunnau iddyn nhw.
Yn ôl un busnes dylunio yn y gogledd, mae eu delweddau yn parhau i gael eu copïo a'u gwerth ar Temu.
Mae Temu yn dweud eu bod nhw'n cymryd achosion o gopïo nwyddau o ddifrif a bod 99% o geisiadau ynglŷn â chopïo nwyddau yn cael eu datrys o fewn tridiau.

Er gwaethaf newid prosesau, mae Anwen yn dweud ei bod yn dal i weld ei dyluniadau ar werth ar Temu
Mae Anwen Williams, perchennog cwmni Draenog yng Nghaernarfon, yn creu delweddau gwreiddiol i'w rhoi ar gardiau a dillad.
Ond yn gyson mae hi wedi gweld ei syniadau wedi eu copïo ar nwyddau eraill ac yn cael eu gwerthu ar wefan fasnachu ryngwladol Temu heb ganiatâd.
"Tua blwyddyn yn ôl roedd rhai o'n dyluniadau ar werth ar Temu," meddai.
"Pethau roedd gyda ni hawlfraint drostyn nhw.
"Mi ddaru nhw dynnu nhw lawr ar ôl dipyn o waith genna i, ond mae 'na fwy o gardiau wedi bod ar werth ar y wefan ers hynna."

Un o ddyluniadau Anwen ar wefan Temu
Yn dilyn pwysau cynyddol, mae Temu nawr wedi cyflwyno proses newydd i'r diwydiant cardiau.
Maen nhw'n dweud ei fod yn golygu bod modd cael gwared â dyluniadau sydd wedi eu copïo yn gynt, ac na fydd modd eu hail-lwytho ar y platfform.
Cyn hyn, roedd yn rhaid i gwmnïau adrodd am bob achos unigol.
Nawr, dim ond un enghraifft fydd angen ei gyflwyno a bydd technoleg Temu yn cael gwared ag unrhyw gynnwys sy'n defnyddio dyluniadau tebyg.

"Mae 'na botensial bod fi wedi colli allan ar dipyn o bres," meddai Anwen
Er hynny, mae Anwen yn dal i weld ei gwaith ar Temu.
"Wythnos yma dwi wedi dod o hyd i gerdyn un o'n nyluniadau i sydd ar werth ar wefan Temu," meddai.
"Mi ddaru nhw gymryd o lawr o be wela' i. Ond heddiw dwi wedi dod o hyd i'r cerdyn ar fersiwn arall o Temu sydd yn gwerthu yn Canada.
"Felly does gen i ddim syniad oes 'na fersiynau eraill o'r cerdyn ar werth mewn gwledydd eraill, neu hyd yn oed ym Mhrydain.
"Mae'n rili anodd dod o hyd i bethau."
Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn i wybod ers faint mae'r dyluniadau yno a faint sydd wedi gwerthu yn union.
"Maen nhw'n gardiau sy'n gwerthu'n dda i fi, felly mae 'na botensial bo' fi wedi colli allan ar dipyn o bres.
"Dwi'n sicr wedi colli allan ar amser lle gallwn i fod yn canolbwyntio ar bethau lot mwy gwerthfawr i fy musnes i, achos mae'n cymryd lot o amser i ddatrys y broblem."
'Platfformau ar-lein yn hanfodol i fusnesau bach'
Mae 'na bryder ehangach ynglŷn ag effaith copïo syniadau gwreiddiol ar fusnesau bach.
Yn ôl Joshua Miles, pennaeth Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, mae angen gwella'r ffordd mae cwmnïau yn cefnogi cwsmeriaid.
"Mae platfformau ar-lein bellach yn llwyfannau hanfodol i lawer o fusnesau bach ledled Cymru," meddai.
"Ond mae problemau fel dwyn eiddo deallusol a phrosesau datrys anghydfod aneffeithiol yn golygu bod busnesau'n cael eu hecsbloetio.
"Rydyn ni'n gwybod am fusnesau yma yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd gorfod delio â llwyth o fersiynau ffug o'u cynhyrchion ar-lein.
"Mae hyn yn effeithio ar swyddi, arloesedd, a'r dreth sy'n sail i'n heconomi."

Mae'r gost o gopïo nwyddau sydd o dan hawlfraint yn sylweddol, yn ôl yr economegydd Dr Robert Bowen
Yn ôl yr economegydd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd, mae'r gost o gopïo nwyddau sydd o dan hawlfraint yn sylweddol.
"Ry'n ni yn gweld bod busnesau yn colli mas ar filiynau o bunnau, ac wrth gwrs ma' hynny'n digwydd ar raddfa fawr," meddai.
"Yn sicr ma' busnesau bach yn wynebu mwy o heriau o ran copïo dyluniadau, oherwydd ma' lot llai o adnoddau gyda busnesau bach - llai o staff, llai o arian - i allu rhoi mewn i brosesau sy'n gallu gwarchod beth sydd yn digwydd."
Dywedodd Temu eu bod wedi cynnal ymchwiliad yn syth i gŵyn Draenog, ac wedi tynnu'r nwyddau perthnasol o'u platfform yn syth.
Maen nhw'n dweud eu bod yn cymryd achosion o gopïo nwyddau o ddifrif, a bod 99% o geisiadau ynglŷn â chopïo nwyddau yn cael eu datrys o fewn tri diwrnod gwaith, a'r mwyafrif o fewn 24 awr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
