Rownd a Rownd: Diwedd cyfnod i Kelvin Walsh a'r actor Kevin Williams

Kelvin yn ei flynyddoedd cynnar ar Rownd a RowndFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Kelvin yn ei flynyddoedd cynnar ar Rownd a Rownd

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i'r actor Kevin Williams sydd wedi bod yn chwarae rhan Kelvin Walsh yn y ddrama boblogaidd, Rownd a Rownd ers dros chwarter canrif.

Yn y bennod ar 28 Hydref, cafodd ffans y gyfres weld peiriant bywyd Kelvin yn cael ei ddiffodd wedi iddo fod mewn coma yn dilyn damwain.

Mae'r bennod emosiynol yn dangos teulu'r Walsh yn ffarwelio ag un o hoff gymeriadau Rownd a Rownd, a'r cymeriad hoffus, chwareus sydd wedi bod yn rhan o fywydau'r ffans ers degawdau

Eglurodd Kevin wrth Aled Hughes ar Radio Cymru: "10 oed o'n i'n dechrau a mae gen i fab 'wan, Harri, a mae o'n 10 oed a dwi'n sbio arno fo a dwi'n deutha fo, 'waw oed yna o'n i'n dechra' yn Rownd a Rownd'.

"Mae o wedi bod yn part massive o bywyd fi. Trwy plentyndod fi, dwi'n 40 nesa' felly mae o wedi bod yn amsar mawr o bywyd fi."

Gwrandewch ar Kevin yn sgwrsio gydag Aled Hughes

Diwedd cyfnod i Kelvin Walsh

'Dwi byth yn gwatsiad Rownd a Rownd'

Yr ergyd fawr i gymeriad Terry, sy'n cael ei chwarae gan yr actor John Glyn, yw mai fo sy'n gyfrfiol am farwolaeth Kelvin, ei ffrind a'i gyd-weithiwr sy'n meddwl y byd iddo, ar ôl ei daro yn ei fan.

Dywedodd Kevin am y penodau sy'n dangos y ddamwain a siwrne Kelvin hyd at ei farwolaeth: "I fod yn onast efo chdi, dydi o'm 'di hitio fi eto achos dwrnod o'r blaen oedd y tro cynta i fi watsiad Rownd a Rownd ers tua 15 mlynadd. Achos bo' fi'n hun arno fo, dwi'n weld o'n rhyfadd."

Kelvin WalshFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin wedi chwarae rhan Kelvin Walsh ers ei fod yn 10 oed

Ond wrth gwrs, roedd rhaid i Kevin wylio ei benodau olaf:

"So 'nes i ryw fath o recordio fo drwy television ac o'n i' meddwl OMB mae Rownd a Rownd yn dechra' mewn pum munud, nai watsiad o a oedd o reit rhyfadd.

"Geshi un o ffrindia fi yn tecstio fi yn deud 'Kev dwi'n nabod chdi ar hwn ers 26, 27 o flynyddoedd a hwnna di'r actio gora' ti 'di neud achos bo' fi mewn coma a bo' fi'm yn gorfod symud!"

Hoff atgofion

"Mae 'na gymaint o storis wedi bod dwi'm yn cofio hannar nhw.

"Un sy'n aros efo fi achos fod on popian i fyny ar Facebook bob hyn a hyn ydi lle oedd Kelvin yn rhoi pynsh i Osian Pwall am alw ei fam, Kay, yn common Kay nid special K.

"Ond un arall ydi pan ydi geshi fynd i Everton, i Goodison Park i briodi. Ond be sy'n waeth ydi fod Kelvin yn supportio Everton ond dwi, Kevin yn supportio Lerpwl, felly mae honna yn aros efo fi.

"Geshi dare gan un o'r hogia', Daf Rich, nath o ddeutha fi: 'Ti'm digon o foi i wisgo crys Lerpwl i fynd i fanna, ifanc o'n i de felly neshi gerddad mewn yn gwisgo crys Lerpwl a dyma rhywun yn deutha fi 'are you serious mate? Put that on' a rhoi jumper drotsa fi."

Y briodas yn Goodison ParkFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y briodas yn Goodison Park

Felly beth oedd taith Kevin at dderbyn rhan Kelvin Walsh yn fachgen 10 oed o Ddyffryn Nantlle?

"O'ni wedi 'neud un neu ddau o betha cynt, Y Dylluan Wen lle o'n i'n actio efo Maldwyn John, sef Philip ar Rownd a Rownd.

"Cyn hynna o'n i wedi actio ar Y Weithred am y tri fomiodd Tryweryn. Wedyn dwi'n cofio oedd Rownd a Rownd yn dod rownd ysgolion a 'neud cyfweliadau, ac oedd hi'n wylia' haf ac ar y pryd o'n i'n neud playscheme yn y ganolfan hamdden ym Mhenygroes.

"Dwi'n cofio y diwrnod ddaru ffilm Titanic ddod allan, oeddan ni'n cal gwatsiad ffilm Titanic a oedd pawb isio gwatsiad hi.

"Ddoth Nain a Mam yno a deutha fi 'tyrd, rai' chdi ddod efo ni, ti wedi cael dy alw i Rownd a Rownd'.

"Dyma fi'n deud 'ond dwi'm isio mynd, dwi isio gwatsiad Titanic.' 'Ond fydd raid chdi fynd' ac o'n i'n crio, do'n i really ddim isio mynd.

"Dyma nhw yn dragio fi ona a deud 'ti lawr i'r 10 dwytha' a hyd heddiw dwi'n falch bo' nhw wedi dragio fi a mi wnaethon nhw brynu fideo titanic i fi ar y ffordd adra."

Kelvin gyda'i ffrindiau, y cymeriadau Osian a JustinFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Kelvin gyda'i ffrindiau, y cymeriadau Osian a Justin

Er ei fod yn ddiwedd ar bennod fawr yn ei fywyd, mae rhoi'r gorau i actio Kelvin hefyd yn ychydig o ryddhad ac yntau wedi bod yn rhannu ei waith actio gyda'i waith fel plymer.

Roedd yn fraint i Kevin gael stori fawr i nodi pen-blwydd y gyfres yn 30 oed.

Meddai: "'Nes i ddeud os dwi'n mynd dwi isio stori dda. Dwi wedi bod yma ddigon hir dwi'n meddwl bo' fi'n haeddu good ending a dwi'n meddwl fod y stori dwi wedi gael yn rili da."

'End of an era go iawn'

Bydd Kevin yn methu'r cast a'r criw cynhyrchu yn arw, ond fe fydd ganddo hiraeth mawr am ei fam a'i dad ar sgrin, sef Buddug Povey ac Idris Morris Jones sy'n chwarae rhan Kay a Ken Walsh:

"Mae Idris a Buddug wedi bod fel Mam a Dad go iawn i fi.

"Bob tro o'n i'n 'neud rwbath yn anghywir o'n i'n cael row, bob tro o'n i'n 'neud wbath yn iawn oeddan nhw'n fy nghanmol i.

"Maen nhw wedi bod yn part mawr o'n mywyd i achos ti'n gweld rŵan, pryd o'n i'n gadael, oddan nhw just yn torri lawr ac oedd Buddug yn dechra, o'n i yn dechra, oedd Idris yn mynd rownd gongl wedyn a fo'n torri lawr.

"'Dan ni wedi ffilmio am flynyddoedd efo'n gilydd. Mae o'n end of an era go iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: