50 mlynedd ers recordio Bohemian Rhapsody yng Nghymru

QueenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 31 Hydref yn nodi 50 mlynedd ers rhyddhau un o'r caneuon enwocaf erioed, Bohemian Rhapsody gan Queen.

Fe wnaeth Queen aros yn Stiwdios Rockfield ger Trefynwy am y tro cyntaf yn 1974, pan oedd y band yn adnabyddus, ond dim yn fyd-enwog.

Ond wedi llwyddiant y gân Killer Queen yn 1974 daeth y band i amlygrwydd byd-eang, ac wrth ddychwelwyd i Rockfield blwyddyn yn ddiweddarach roedd y disgwyliadau'n uchel.

QueenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Queen yn recordio Bohemian Rhapsody

Wedi i nifer o fandiau oedd wedi recordio yno brofi llwyddiant yn y siartiau, fe ehangodd Rockfield ac fe agorwyd ail stiwdio - yr hen stablau, sef Quadrangle Studio.

Yma, yn 1975, y daeth Queen i recordio rhan o'r albwm A Night at the Opera, ac yma oedd ble cyfansoddwyd Bohemian Rhapsody yn bennaf.

Yn ôl Kingsley Ward, un o'r sylfaenwyr Rockfield, doedd aelodau'r band ddim yn hynod weithgar yn ystod yr ymweliad yma â Threfynwy.

Yn siarad ar BBC Radio Wales eleni nododd Ward ei fod yn cofio Brian May yn dweud bod Freddie Mercury'n aros yn y tŷ tra bo'r lleill yn ymlacio tu allan a chwarae frisbee - "Mae e'n gweithio ar rywbeth yn y tŷ" meddai May wrth Kingsley Ward.

Mae'n debyg mai ar Bohemian Rhapsody oedd Mercury yn canolbwyntio - cân a dyfodd yn un o'r anthemau roc enwocaf erioed.

Dywed Kingsley ei fod wedi mynd i'r tŷ a gweld Freddie Mercury yn eistedd wrth y piano'n chwarae'r alaw enwog, gan roi'r enw Freddie's Thing ar y gân i ddechrau.

Queen
Disgrifiad o’r llun,

Queen (Freddie Mercury, Brian May, Roger Taylor a John Deacon) yn Stiwdios Rockfield

Wrth gwrs, mae Stiwdios Rockfield hefyd wedi ei defnyddio gan nifer o fandiau mawr eraill, fel Oasis a Black Sabbath.

Ond dywedodd Kingsley Ward fod cael bod yn y stiwdio i glywed solo enwog Bohemian Rhapsody yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn rhywbeth bythgofiadwy.

"Cafodd y gân ei wneud mewn tair rhan, ac ar ddiwedd y recordio dim ond yr adrannau ar wahân glywais i - doeddent heb eu rhoi at ei gilydd mewn i un gân eto."

Dywedodd Kingsley Ward iddo ei glywed y gân yn llawn ar y radio am y tro cyntaf pan oedd yn gyrru i lawr traffordd yr M4.

"Pan 'nes i glywed y gân am y tro cyntaf o'n i'n meddwl bod hi'n anhygoel, o'n i'n meddwl bod hi'n wych."

Mae'r gân, a'r fideo ar ei chyfer, yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oedd yn y 1970au, ac mae cornel fach o Gymru fydd yn gysylltiedig â'r hanes am byth.

Straeon perthnasol