Beth yw ystyr enw Cymraeg eich hoff dafarn?

Y Bedol, Tal-y-bont Dyffryn Conwy, Tachwedd 1984
- Cyhoeddwyd
Mae enwau Cymraeg tafarndai wedi diddori'r bardd Myrddin ap Dafydd ers cyn iddo fod ddigon hen i fynd i un.
O Tafarn Bara Ceirch i Pen Nionyn, mae Cymru yn llawn tai potes ag enwau diddorol ac unigryw, ond beth yw'r hanes tu ôl iddyn nhw? Myrddin sydd wedi bod yn gwneud y gwaith sychedig o ymchwilio...
Hel enwau
Pan oeddwn i'n mynd ar fws Crosville i dŷ Nain yn y Ro-wen yng nghanol y 60au, roeddwn i'n cael siars i beidio â dod oddi ar y bws ym maes parcio tafarn Y Bedol yn Nhal-y-bont.
Doedd dim lle i ddwy fws basio'i gilydd ar sawl darn o'r ffordd a redai o Lanrwst i Gonwy ar ochr hen sir Gaernarfon y dyffryn bryd hynny. Felly mi fydden yn cyfarfod, neu'n disgwyl am ei gilydd, wrth y Bedol cyn cario ymlaen i ben y daith.
Tua'r un adeg dwi'n cofio gweld llun y Bedol yn Y Cymro mewn erthygl ar 'rai o'r ychydig dafarnau yng Nghymru gydag enwau Cymraeg'.
Rhwng y Bedol, dwy dafarn o'r enw Pen-y-bont a Phen-y-bryn yn Llanrwst ei hun a phentref Tafarnyfedw ar gyrion y dref, does ryfedd i hel yr enwau Cymraeg yma gydio ynof i.

Roedd cylchgrawn Llafar Gwlad yn derbyn llythyrau gan bobl ledled Cymru yn sôn am darddiad enw eu tafarn leol
Tro pedol
Yn fuan ar ôl dechrau cyhoeddi'r cylchgrawn Llafar Gwlad yn yr 1980au, dechreuwyd cyfres o bytiau ar enwau tafarnau. Daeth ymateb o bob rhan o Gymru, gyda lluniau a gwybodaeth ddifyr am yr enwau.
Roedd dehongli'r enwau yn weddol hawdd – ar yr wyneb. Ond yn fuan, sylweddolwyd fod mwy iddi na'r hyn oedd yn amlwg.
Er enghraifft, mae'r Bedol wrth ymyl hen efail y gof yn Nhal-y-bont. Dyna'r esboniad ar ei ben.
Ond mae hi hefyd ar lwybr y porthmyn oedd yn cerdded eu gwartheg o Fôn ac Arfon drwy Fwlch y Ddeufaen ac i lawr i groesi afon Conwy wrth ymyl Tal-y-bont. Byddai fel ffair yn y pentref ar yr ymweliadau hynny wrth bedoli'r gwartheg ar gyfer y teithiau i farchnadoedd Lloegr.

Tafarn Bara Ceirch ar lwybr y porthmyn uwch Llangernyw - roedd peint yn gynwysedig ym mhris darn o fara ceirch!
Ar y bryniau ar ochr ddwyreiniol afon Conwy, roedd y porthmyn yn dilyn llwybr gwledig uwch Llangernyw. Yno o hyd mae hen adeilad segur bellach sy'n cael ei alw'n Dafarn Bara Ceirch.
Tafarn answyddogol, didrwydded oedd hon. Heb falio llawer am bapurau swyddogol, doedden nhw ddim yn gwerthu cwrw yno – roedden nhw yn ei rannu am ddim.
Ond roedd yn rhaid ichi brynu bara ceirch gyda phob peint – a phris peint oedd y bara ceirch wrth gwrs.
Dyfrio'r teithwyr
Gwasanaethu teithwyr – fel y porthmyn – oedd diben agor tafarnau yn wreiddiol.
Doedd cwrw ddim yn cael ei gynhyrchu'n fasnachol am ganrifoedd, ond yn cael ei gynnig mewn 'tai agored' fel rhan o'r croeso cynhenid i rai oedd yn galw heibio.
Dyna pam fod cymaint o dafarnau Cymru yn defnyddio'r elfen 'Tŷ' yn eu henwau – Tŷ Coch, Tŷ Gwyn, Tŷ Uchaf.

Tŷ Coch, Porthdinllaen - un o'r tafarnau ag enw 'Tŷ' enwocaf, sydd dal i gynnig croeso i'r ymwelydd sychedig
Seintiau a phererinion oedd rhai o'r teithwyr cynharaf – ac mae enwau seintiau a symbolau eglwysig ar enwau tafarnau o hyd. Byddai milwyr a byddinoedd yn cerdded ar draws gwlad – ac mae enwau brenhinol, gan gynnwys rhai o arwyr a thywysogion Cymru ar dafarnau.
Mae nifer o dafarnau ar ben rhiwiau – y Bryn Hir, Cricieth a Phenrhiwllan, Ceinewydd. Lle i yrwyr wagenni – a cheffylau – gael llymaid a hoe ar ôl dringo o'r traeth gyda llwyth oddi ar long oedd y rhain.
Gan fod mannau croesi afon yn fannau cyfarfod, mae'n naturiol bod tafarnau yno – a bod sawl Pont, Rhyd, Sarn a Fferi yn yr enwau arnynt.

Llestr yfed oedd y 'cann' a chyfeiriad at y post oedd yn dod ar y Goets Fawr sydd y tu ôl i enw'r Cann Office yn Llangadfan
Daeth y Goets Fawr ag angen i dorri siwrnai faith yn gyson. Codwyd tafarnau mawr gyda digon o stablau, ac mae llawer o'r rhain yn cario arfbeisiau'r plasau lleol, sef noddwyr mentrau'r gwestai hyn, neu gyfeiriad at y ddiod neu'r ceffylau.
Ac mae teithio a gweithio ar longau ac ar drenau wedi cyflwyno llu o enwau eraill ar dafarnau.
Mae rhai tafarnau wedi cael enwau 'answyddogol' – enwau llafar gwlad – ac ar dro mae'r rheiny wedi cael eu mabwysiadu yn enwau swyddogol, fel y Pen Nionyn, y Groeslon a'r Fricsan, Cwm-y-glo.
Tafarnau yn nwylo'r yfwyr
Cyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o'r llyfr Enwau Tafarnau Cymru yn 1988. Chwarter canrif yn ddiweddarach, casglwyd lluniau ac enwau diweddarach ar gyfer cyhoeddiad newydd yn 2016. Pleser oedd gweld bod llawer mwy o dafarnau'n arddel enwau Cymraeg erbyn y ganrif hon.
Elfen arall sydd wedi cryfhau yw'r nifer o dafarnau sydd bellach yn nwylo'r gymuned leol, wedi'u prynu drwy siariau ac yn cael eu rheoli'n gydweithredol ac yn Gymreig.

Mae tafarn Ty'n Llan bellach yn nwylo'r gymuned
Un o'r rheiny ydi Ty'n Llan, Llandwrog sydd newydd ailagor ei drysau wedi gwaith adfer sylweddol. Mae'r 'llan' yn cyfeirio at y pentref wrth gwrs – a thafarn bentrefol oedd hon erioed.
Fel tafarnau eraill sydd gyda'r un elfen yn eu henwau – Pen Llan, Ty'n Porth a'r Hen Dŷ – tafarnau wrth eglwys y plwyf oedden nhw, yng nghanol popeth boed gyfarfodydd festri neu gwrw Gŵyl Fabsant.
Dyma galon yr hen lannau a da gweld mwy ohonyn nhw mewn dwylo lleol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd24 Medi 2024

- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018
