Ai Dinbych yw tref fwyaf arswydus Cymru?

- Cyhoeddwyd
Yn ôl dwy ferch leol o Ddinbych, Tracey Green a Holly Gierke, mae tref Dinbych sy'n hen dref ganol-oesol yn llawn straeon ysbryd a drychiolaethau.
Yn eu cyfrol Paranormal Denbigh mae'r ddwy wedi casglu tystiolaeth gan bobl leol sy'n honni eu bod wedi teimlo presenoldeb arallfydol o ryw fath.
A hithau'n Galan Gaeaf, Cymru Fyw sydd wedi pori trwy eu cyfrol gan ddewis chwe pheth arswydus am y dref.
Rhybudd: Gall y darn yma godi bwgannod.
Mynach Ffordd Dewi

Eglwys Dewi Sant ar Ffordd Dewi
Mae sawl un wedi honni eu bod wedi gweld neu teimlo presenoldeb mynach yn Ninbych, ac mae Tracey a Holly wedi bod yn ceisio darganfod pam.
Hyd y gwyddon nhw, yr unig drefn fynachlog sydd wedi bod yn rhan o hanes Dinbych yw'r gymuned Garmeliaid. Sefydlwyd Brodordy Dinbych yn 1289 dan nawdd John Swynmore a dan gefnodaeth teulu Sailsbury o Leweni a Bachymbyd. Roedd yn fan addoli i ddynion duwiol a phobl leyg anordeiniedig.
Darostyngwyd y Brodordy o dan orchmynion Harri VIII ym 1538 a'r cyfan sy'n weddill heddiw yw waliau'r eglwys.
Mae sawl un wedi dweud eu bod wedi gweld mynach ar Ffordd Dewi. Tybed ai ysbryd mynach o Frodordy Dinbych yw'r mynach yma?

Sion y Bodiau
Yn ôl chwedl leol roedd draig ddychrynllyd yn arfer aflonyddu Dinbych. Roedd y ddraig wedi meddiannu adfeilion y castell ac yn ymosod ar wartheg y ffermydd cyfagos.
Fe wnaeth pobl y dref gyflogi Sion Bodiau neu Syr John Salisbury oedd gyda dwy fawd ar bob llaw i ladd y ddraig.
Fe aeth Sion Bodiau i'r castell yn ei arfwisg yn barod i herio'r ddraig. Roedd y ddraig wedi ei gynddeiriogi ac yn barod i ladd Sion Bodiau ond unwaith y gwelodd ddwylo anarferol Sion Bodiau aeth y ddraig yn ddryslyd a llwyddodd Sion Bodiau i ladd y ddraig.
Roedd pobl Dinbych wrth eu boddau ac fe waeddon nhw 'Dim Bych' dros y lle sy'n golygu dim draig neu fwystfil. Dyna darddiad enw Dinbych.
Mae bedd Sion Bodiau yn Eglwys San Marcella. Roedd yn byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn un o linach teulu bonedd Plas Lleweni.

Gwen ferch Ellis

Gwenllian Ellis gyda Holly Gierke
Yn 1594 fe grogwyd y person cyntaf yng Nghymru ar gyhuddiad o fod yn wrach sef Gwen ferch Ellis a hynny ar grocbren sgwâr Dinbych.
Mewn podlediad newydd o'r enw Gwen y Wrach a Fi ar BBC Sounds mae Holly Gierke yn sgwrsio gyda'r awdures Gwenllian Ellis am Gwen ferch Ellis wrth iddi fynd ar daith i ddarganfod mwy amdani.
Felly pwy oedd Gwen ferch Ellis? Ganed Gwen yn Llandyrnog tua 1552. Ei bywoliaeth oedd nyddu gwlân a'i werthu i farchnadoedd ond roedd ganddi hefyd allu arbennig. Gallai wella pobl ac anifeiliad efo meddyginiaeth a wnâi ei hun gyda phlanhigion a pherlysiau.
Ond ar ddechrau haf 1594 mae'n cael ei harestio ar awdurdod William Hughes, Esgob Llanelwy, a'i hel i'r carchar yng Nghastell Fflint ar gyhuddiad o fod yn wrach. Mae sawl achos llys a chyhuddiad yn ei herbyn.
Erbyn diwedd y flwyddyn mae'n cael ei chanfod yn euog o fod yn wrach a'i chrogi'n gyhoeddus ar grocbren y sgwâr ar ôl cael ei charcharu am gyfnod yn neuadd y dref, sef Llyfrgell Dinbych heddiw.
Ysbryd y Ladi Lwyd

Mae rhai'n credu bod Castell Dinbych wedi ei arswydo gan ysbryd dynes sef Y Ladi Lwyd tra bod Twr y Goblin wedi ei arswydo gan fachgen sy'n sbecian drwy'r tyllau lle byddai'r ffenestri.
Credir bod y bachgen bach yn fab i Iarll Lincoln a fu farw wrth syrthio o'r twr. Nid oes neb yn gwybod dim am darddiad Y Ladi Lwyd ond mae pobl sy'n byw ger y castell, yn ogystal â thwristiaid, yn honni eu bod wedi ei gweld hi.

Castell Dinbych
Y marchog heb ben

Yn ystod diwedd y Rhyfel Cartref yn Lloegr roedd brwydr rhwng Y Brenhinwyr a'r Seneddwyr ac fe gyrhaeddodd y frwydr gyrion Dinbych. Mae'n cael ei gofio fel Brwydr Grîn Dinbych.
Ar 1 Tachwedd 1645 bu brwydr gwaedlyd ble daeth dros 1,000 o filwyr ar droed a dros 1,500 o filwyr yn marchogaeth ceffylau benben â'i gilydd.
Ond roedd gan Y Seneddwyr fyddin fwy grymus ac fe guddiodd Y Brenhinwyr yn y llwyni ger ardal Eglwys Wen.
Ac yn ôl Tracey a Holly mae sawl person lleol yn honni eu bod wedi gweld neu deimlo presenoldeb marchog heb ben yn yr ardal.
Ysbryd nyrs

Nyrsys Ysbyty Dinbych yn y dyddiau cynnar
Wrth ymchwilio i'r gyfrol Paranormal Denbigh fe sylweddolodd Tracey a Holly bod nifer o bobl yn honni eu bod wedi gweld ysbryd nyrs mewn gwahanol fannau yn y dref a ger safle hen ysbyty.
Efallai bod hynny'n ddealladwy wrth ystyried bod Ysbyty Gogledd Cymru neu Ysbyty Dinbych a gafodd ei hadeiladu yn y 1840au yn arfer bod yno. Bu hefyd yn ysbyty meddwl ac yng nghanol y 1950au roedd yna dros 1,500 o gleifion yn cael eu trin yno.
Dywed Tracey a Holly ei fod yn teimlo'n ddadleuol dweud bod arswyd yn perthyn i safle hen ysbyty â chynifer o bobl wedi rhoi oes o wasaneth yno'n gofalu ac yn trin cleifion. Ond pwy sydd i ddweud fod teimlo presenoldeb ysbryd wastad yn arswydus? Tybed a oes yna ysbrydion gofalgar a chariadus yn llechu o amgylch y dref?

Matron yn yr ysbyty yn Oes Fictoria
Calan Gaeaf hapus a heb arswyd i chi...
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Hydref
  
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
 