Parlys yr ymennydd: Ni ddim moyn i eraill fod yn unig fel ni

Hopcyn a'i deuluFfynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu oedd wedi teimlo'n "unig" cyn i'w mab ifanc gael diagnosis o barlys yr ymennydd (cerebral palsy) yn dweud eu bod "moyn i deuluoedd eraill wybod nad ydyn nhw ar ben eu hunain".

Cafodd mab Marc a Carys o Fro Morgannwg, Hopcyn, ddiagnosis o'r cyflwr.

Mae'r teulu, sydd o Wenfô, yn dweud eu bod eisiau i deuluoedd eraill wybod bod "pobl eraill fel ni yn byw rownd y gornel yn mynd trwy hyn, ac mae popeth yn mynd i fod yn iawn".

Wrth i Marc baratoi i redeg Marathon Llundain er budd elusen Cerebral Palsy Cymru (CP Cymru), mae'r teulu'n awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth gynnar.

Disgrifiad,

Rheni Hopcyn, Marc a Carys, sy'n adrodd eu stori

Cafodd Hopcyn ei eni yn 2023 ar ôl llawdriniaeth cesaraidd brys.

Esboniodd Carys sut y daeth Hopcyn i'r byd ar frys: "Y noson ddaeth Hopcyn, wnes i redeg i'r tŷ bach a gollais tua litr o waed.

"Aethon ni i'r ysbyty mewn ambiwlans, a phenderfynodd y meddygon fod angen emergency C-section.

"Ro'n i'n gwybod pan ddaeth e mas bod rhywbeth ddim yn iawn."

Hopcyn yn yr uned gofal dwys i'r newydd-anedigFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hopcyn yn yr uned gofal dwys i'r newydd-anedig am 13 diwrnod oherwydd bod ei lefelau siwgr gwaed mor isel yn dilyn ei enedigaeth.

Wrth i'r misoedd fynd heibio, dechreuodd Marc a Carys sylwi nad oedd Hopcyn yn cyrraedd y cerrig milltir arferol i fabanod.

"Pan oedd Hopcyn yn 16 mis, hwnna oedd y tro cyntaf i ni glywed bod Hopcyn o bosib yn quadriplegic," meddai Marc.

"Ar ôl clywed 'na, roedd e'n rhyw fath o deimlad o alar. Ti'n galaru am dy obeithion di, bron a bod, o gael bywyd llawn iddo fe, ac i ni fel rhieni."

Beth yw parlys yr ymennydd?

Parlys yr ymennydd, neu cerebral palsy, yw anhwylder gydol oes sy'n effeithio ar symudiad ac osgo.

Mae'n cael ei achosi gan niwed i'r ymennydd yn ystod beichiogrwydd, adeg genedigaeth neu o fewn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl genedigaeth.

Dyma'r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith plant.

Graffeg beth yw parlys yr ymennydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffynhonnell: Cerebral Palsy Cymru

'Ni yw corff Hopcyn'

Fe esboniodd Marc bod bywyd yn medru bod yn heriol ar adegau.

"Mae bod yn riant i unrhyw blentyn yn dod â heriau," meddai.

"Ond mae bod yn riant i blentyn gydag anawsterau yn gwneud yr heriau hynny'n fwy byth."

Mae gan Hopcyn offer arbenigol sy'n ei helpu i gerdded a symudFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Hopcyn offer arbenigol sy'n ei helpu i gerdded a symud

Mae'r teulu'n dweud fod byw bywyd i'r eithaf yn gallu bod yn flinedig ar adegau, ond yn llawn cariad.

"Gyda phlentyn arferol chi'n gallu rhoi tegan iddyn nhw a mynd i wneud rhywbeth arall," meddai Carys.

"Ni ffaelu gwneud hynny – ni yw corff Hopcyn. Mae'n flinedig erbyn diwedd y dydd."

Er hynny, mae Carys yn dweud na fyddent "byth yn newid dim".

"Pan y'ch chi'n ffeindio mas bo' chi'n feichiog, mae 'da chi ryw ddelwedd o sut fydd y plentyn.

"So chi'n galaru'r plentyn o'ch chi'n meddwl oeddech chi'n mynd i gael. Er hynny, bydde ni byth yn newid e, achos mae e'n arbennig fel mae e nawr."

'Bydden i ar goll hebddyn nhw'

Fe wnaeth y teulu gysylltu'n uniongyrchol â CP Cymru – yr elusen genedlaethol sy'n arbenigo mewn parlys yr ymennydd, ac sy'n darparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd ledled Cymru.

"Ges i alwad nôl ganddyn nhw o fewn cwpl o ddyddiau, ac roedden nhw'n ffantastig," meddai Carys.

"Bydden i ar goll hebddyn nhw."

Yn ôl llefarydd ar ran yr elusen, mae triniaeth gynnar yn bwysig iawn.

"Roedd Hopcyn a'i deulu yn rhan o'n rhaglen ymyrraeth gynnar, Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell, ar gyfer babanod â pharlys yr ymennydd, neu sydd mewn perygl uchel o'i gael."

"Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i fabanod fel Hopcyn gan fod yr ymennydd ar ei fwyaf addasadwy yn ystod dwy flynedd gyntaf bywyd pan all ein therapi arbenigol gael yr effaith fwyaf ar ganlyniadau yn y dyfodol."

Hopcyn a Carys Ffynhonnell y llun, Abigail Apollonio
Disgrifiad o’r llun,

Hopcyn a Carys yn ystod sesiwn gyda'r elusen Cerebral Palsy Cymru

Dywedodd y teulu eu bod yn ddiolchgar iawn i'r elusen, yn enwedig ar ôl teimlo'n unig wedi'r diagnosis.

"Ro'n i'n teimlo'n really unig yn y dechrau – fel 'lle mae pawb?' meddai Carys.

"Aethon ni o deimlo'n really unig ac ynysig, i sylweddoli bod yna gymuned ffantastig o bobl sy' ddim yn edrych arnon ni'n od ac maen nhw'n credu pob gair rydyn ni'n ei ddweud," meddai Carys.

"Ni moyn i deuluoedd eraill wybod nad ydyn nhw ar ben eu hunain.

"Mae yna bobl eraill fel ni yn byw rownd y gornel yn mynd trwy hyn, ac mae popeth yn mynd i fod yn iawn."

Dywedodd y cwpl eu bod wedi penderfynu rhannu eu stori er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r heriau a'r cymorth sydd ar gael i rieni sy'n wynebu diagnosis tebyg.

Marc yn croesi'r llinell derfyn yn ystod cystadleuaeth yr Ironman. Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marc eisoes wedi cymryd rhan mewn sawl marathon, gan gynnwys Ironman Cymru yn 2019

Mae Marc eisiau rhoi'n ôl i'r elusen sydd wedi bod yn gefn iddyn nhw drwy redeg Marathon Llundain, ac wedi llwyddo i godi dros £4,000 hyd yma.

Fe ddywedodd: "Fi 'di trio am y ballot gyda marthon Llundain am y ddegawd diwethaf ond heb cael unrhyw lwc, on i'n meddwl bod hwn yn gyfle perffaith i neud rhywbeth fi wastod 'di eisiau neud, ond hefyd i godi arian am achos da."

Dywedodd llefarydd ar ran CP Cymru: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth anhygoel Carys a Marc, gyda Marc wedi codi dros £4,000 yn ei ymdrechion codi arian diweddar ar gyfer Marathon Llundain 2026."

Pynciau cysylltiedig